Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Esbonnir rôl gweithwyr arweiniol yn y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid. Mae gweithwyr arweiniol yn cynnig cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau sylweddol rhag ymgysylltu wrth iddynt drosglwyddo i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth ôl-16.

Comisiynwyd yr adolygiad i ddeall a gwella’r capasiti a’r gallu yn y system, ac ystyried cyfleoedd i rannu arfer da a sicrhau rhwydweithio gan weithwyr arweiniol ar draws awdurdodau lleol a sefydliadau.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae prif ganfyddiadau Estyn fel a ganlyn:

  • Roedd gweithwyr arweiniol yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnig cefnogaeth i bobl ifanc yn eu sefyllfa bresennol, a’u helpu i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer cynnydd. Yn aml, roedd cymorth gweithwyr arweiniol yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd a'r gymuned ehangach.
  • Yn dilyn y pandemig, roedd gweithwyr arweiniol yn aml yn helpu pobl ifanc â materion fel gorbryder cymdeithasol, problemau iechyd meddwl, a thrafferthion ariannol.
  • Roedd rôl y gweithiwr arweiniol yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Cododd y gwahaniaethau hyn mewn ymateb i amgylchiadau lleol.
  • Roedd cymhlethdod yr angen a chyfraddau’r atgyfeiriadau yn cynyddu.
  • Er bod y broses o bontio i golegau yn 16 oed wedi'i strwythuro'n dda, roedd diffyg cydweithio rhwng gweithwyr arweiniol a darparwyr ôl-16 ar ôl i berson ifanc gofrestru. Roedd hyn yn golygu bod pobl ifanc yn colli parhad mewn cymorth. Nid oedd llawer o ddarparwyr hyfforddiant yn ymwybodol o rôl y gweithiwr arweiniol a'i manteision.
  • Mae cymorth gweithwyr arweiniol effeithiol yn dibynnu ar gydweithio rhwng asiantaethau, ac roedd hyn yn amrywiol. Yn aml, roedd heriau oherwydd pryderon am GDPR a diffyg dealltwriaeth ynghylch pa wybodaeth y gellid ac na ellid ei rhannu.
  • Nid oedd digon o gydweithio ar lefel ranbarthol a chenedlaethol i rannu gwybodaeth, profiadau a dysgu proffesiynol.
  • Roedd yn anodd priodoli deiliannau llwyddiannus i gefnogaeth gweithwyr arweiniol gan fod cymaint o wasanaethau cymorth eraill yn gweithredu yn y maes hwn.
  • Roedd heriau o ran recriwtio a chadw gweithwyr arweiniol, gan gynnwys gweithwyr arweiniol sy'n siarad Cymraeg.

Argymhellion

Cyflwynir cyfanswm o 5 argymhelliad yn yr adroddiad, sy'n argymhellion ar y cyd ar gyfer Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol a'r holl bartneriaid eraill sy'n ymwneud â chefnogi pobl ifanc drwy weithwyr arweiniol. Mae hyn yn golygu ein bod yn rhannu'r cyfrifoldeb a'r atebolrwydd dros fwrw ymlaen â'r argymhellion.

Bydd swyddogion yn ysgrifennu at Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, i dynnu sylw at yr adroddiad a'r cyfrifoldeb a rennir i weithio tuag at gyflawni'r argymhellion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal deialog barhaus gyda rhanddeiliaid perthnasol, gan ofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar eu cynnydd yn erbyn yr argymhellion.

Argymhelliad 1

Gwella cymorth pontio ôl-16 trwy sicrhau parhad yng ngweithiwr arweiniol person ifanc hyd at 31 Ionawr ar ôl i berson ifanc symud i’w gyrchfan ôl-16, p’un a yw hyn mewn ysgol, mewn coleg, gyda darparwr hyfforddiant, neu gyflogaeth.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Gallai gweithredu’r argymhelliad hwn ein helpu i ddal ein gafael ar bobl ifanc sy’n agored i niwed a’u cadw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant drwy barhau i ddarparu cymorth iddynt ar gyfer y broses bontio ôl-16. Bydd angen ystyried yr argymhelliad yn fanylach oherwydd y goblygiadau ariannol a'r adnoddau a fyddai'n debygol o fod yn ofynnol er mwyn symud ymlaen, ynghyd â'r hinsawdd ariannol bresennol gyda phwysau ariannu sylweddol ar draws Llywodraeth Cymru. Fel y nodir yn adroddiad Estyn, mae rolau gweithwyr arweiniol yn cael eu hariannu drwy amrywiaeth o wahanol ffrydiau ariannu, gyda'r penderfyniadau yn aml yn cael eu gwneud ar lefel leol o ran pa ffrwd benodol allai fod y mwyaf priodol.

Oherwydd ei natur drawsbynciol, bydd Llywodraeth Cymru yn trafod yr argymhelliad hwn gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddeall beth y gellid ei gyflawni o fewn yr adnoddau presennol. 

Fel cam cyntaf yn y broses hon, aeth Llywodraeth Cymru ati i drefnu cyfarfod cenedlaethol y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ar 9 Gorffennaf 2024 i drafod yr adroddiad a'i argymhellion gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru a CWVYS. Bydd swyddogion hefyd yn trefnu cyfarfod â grwpiau rhanddeiliaid eraill i fwrw ymlaen â'r sgwrs hon.

Argymhelliad 2

Datblygu ffyrdd o fesur llwyddiant gwaith i atal pobl ifanc rhag bod yn bobl NEET sydd wedi’u seilio ar werthusiadau tymor hirach, a pheidio â gor-bwysleisio gwerth data arolwg cyrchfannau cychwynnol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn 2021 i 2022 comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad astudiaeth ddichonoldeb ar ffynonellau a chwmpas data Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Er bod pwysau ariannol wedi ein hatal rhag dilyn ei holl argymhellion, rydym wedi gallu ariannu Gyrfa Cymru i greu setiau data cyfoethocach sy'n ymdrin ag effeithiau croestoriadol yn ehangach ac rydym wedi gweld Gyrfa Cymru bellach yn rhannu data gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n golygu bod gennym gynrychiolaeth dipyn llawnach o'r boblogaeth, yn enwedig ar gyfer y rhai o dan 25 oed a NEET.

Mae gwaith gwerthuso parhaus ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc (y Warant) a'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (y Fframwaith) yn cynnwys ystyriaeth o'r ffordd y gellid mesur effaith ychwanegol y ddwy raglen hon ar y cynnydd tuag at Garreg Filltir Genedlaethol Llywodraeth Cymru bod 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (EET) erbyn 2050. Bydd asesiad gwerthuso, damcaniaeth newid a fframwaith gwerthuso arfaethedig ar gyfer y Warant yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2024. Mae'r fframwaith gwerthuso yn cynnwys mesurau arfaethedig o ddeilliannau tymor hwy. Mae'n darparu ffordd o fesur llwyddiant y Warant fel polisi i helpu i gyflawni'r Garreg Filltir Genedlaethol. Mae gwerthusiad ansoddol yn cael ei gynnal i edrych ar y broses o gynllunio, gweithredu a chyflawni'r Warant yn erbyn ei fwriad strategol, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025.

Mae Adroddiad Blynyddol y Warant i Bobl Ifanc 2023 hefyd yn nodi allbynnau a setiau data ystadegol pellach y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi fel rhai perthnasol i'r Warant/Fframwaith.

Mae'r gwaith presennol ar ddatblygu cynnig cyflogadwyedd newydd posibl i bobl ifanc yn cynnwys datblygu Model Gweithredu Unigol ar gyfer Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a Cymunedau am Waith+. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad llawn o'r ddarpariaeth bresennol a sut y gall y rhaglenni cyflogadwyedd gydweithio o dan fodel tebyg. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o'r data a gesglir ar gyfranogiad a deilliannau ar gyfer gwahanol grwpiau o gyfranogwyr, ac archwilio cyfleoedd i ddeall deilliannau tymor hwy.

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn yr astudiaeth Deilliannau Addysg Hydredol, sy'n cysylltu data addysg, cyflogaeth a budd-daliadau er mwyn nodi cyrchfannau dysgwyr ar ôl iddynt adael eu cyrsiau. Dros gyfnod o amser, bydd y data hyn yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i edrych ar gyrchfannau tymor hir dysgwyr yn y blynyddoedd ar ôl eu hastudiaethau, ac i ddadansoddi'r canlyniadau hyn yn ôl demograffeg dysgwyr.

Argymhelliad 3

Cefnogi rhannu data yn well am amgylchiadau pobl ifanc unigol i hwyluso cydweithio cryfach rhwng yr holl bartneriaid, gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant, a galluogi pobl ifanc i dderbyn cymorth perthnasol ac amserol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn cydnabod bod rhannu data cywir ac amserol yn hanfodol wrth weithredu’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid. Mae rhannu data yn caniatáu i bartneriaethau lleol y Fframwaith fonitro cynnydd pobl ifanc, gan gynnwys unigolion nad yw’n hysbys beth yw eu hanes bellach, neu y gwyddom eu bod yn NEET a bod angen cymorth arnynt. Os na chaiff data eu rhannu, neu os na chânt eu rhannu’n brydlon, gall hyn adael unigolion NEET heb gymorth mewn cyfnod pontio hanfodol, pan fyddant yn arbennig o agored i niwed. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau difrifol i’r unigolion hynny: mae tystiolaeth amlwg bod y profiad o fod yn NEET yn creithio pobl ifanc ac yn effeithio ar eu sefyllfa yn y tymor hir.

Mae trefniadau rhannu data yn cael sylw yn Llawlyfr y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid, sy'n cyfeirio at wybodaeth a chanllawiau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a’r WASPI.

Gan nad yw diogelu data yn fater datganoledig, nid oes gan Lywodraeth Cymru y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i sefydliadau eraill rannu data, waeth beth yw ei ddefnydd. Mater i sefydliadau yw gwneud y penderfyniad hwn, a rhaid i'r holl drefniadau fod yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (neu GDPR y DU). Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl o ran sicrhau eglurder i sefydliadau ledled Cymru ynghylch sut mae rhannu data yn cynnig sylfaen i’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid, fel bod sefydliadau partner y Fframwaith yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus am eu trefniadau rhannu data.

Yn 2023 bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gyrfa Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu adnoddau ymarferol ar rannu data, a gafodd eu rhannu â chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd yr awdurdodau lleol. Bydd swyddogion yn adolygu'r adnoddau hyn, yn eu diweddaru yn ôl yr angen, ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cael eu rhaeadru i bartneriaethau ehangach y Fframwaith. Bydd hyn yn helpu sefydliadau partner i ddatblygu eu dealltwriaeth o rannu data a'i bwysigrwydd yng nghyd-destun y Fframwaith.

Gweler Argymhelliad 2 am ragor o fanylion perthnasol.

Argymhelliad 4

Cefnogi anghenion dysgu proffesiynol gweithwyr arweiniol ym mhob asiantaeth a rhannu arfer effeithiol wrth ddarparu cymorth gweithwyr arweiniol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae pob asiantaeth yn gyfrifol am hyfforddiant a datblygiad proffesiynol staff sy'n gweithredu fel gweithwyr arweiniol.

Mae awdurdodau lleol yn trefnu cyfarfodydd rhanbarthol rheolaidd ynghylch y Fframwaith, ac mae Llywodraeth Cymru yn dod â chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd awdurdodau lleol a phartneriaid eraill at ei gilydd ar lefel genedlaethol. Yng nghyfarfod cenedlaethol y Fframwaith ar 9 Gorffennaf, cafwyd cyfle i gael trafodaeth gychwynnol gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ynghylch pa gyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer rhannu arfer da wrth ddarparu cymorth gweithwyr arweiniol. Bydd y ddeialog hon yn parhau ac yn helpu i lywio ein camau nesaf.

Byddwn hefyd yn archwilio sut y gall gweithgarwch ehangach i ddatblygu a chefnogi'r gweithlu gwaith ieuenctid rannu arfer effeithiol wrth ddarparu cymorth gweithwyr arweiniol.

Argymhelliad 5

Gwella arfer yn unol â’r arfer effeithiol a welir yn yr adroddiad hwn, a mynd i’r afael â’r diffygion a amlygir yn yr adroddiad hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu'r adroddiad i'r holl randdeiliaid perthnasol ac yn sbarduno trafodaeth ar ganfyddiadau'r adroddiad, yn arbennig trwy ei rhwydwaith Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid a Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid y Warant i Bobl Ifanc.

Er mwyn mynd i'r afael â'r diffygion, roedd cyfarfod cenedlaethol y Fframwaith ym mis Gorffennaf 2024 yn gyfle i dynnu sylw at yr adroddiad a chael trafodaeth gychwynnol am sut y gall pob partner fynd i'r afael â'r meysydd ar gyfer gwella a nodwyd yn yr adroddiad.

Manylion cyhoeddi

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar 9 Gorffennaf 2024, a gellir ei weld ar wefan Estyn.