Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Jayne Bryant AS
  • Sarah Murphy AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Paul Griffiths, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Peter McDonald, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd (eitem 4)
  • Alison Thomas, Pennaeth Newid Moddol a Newid Ymddygiad (eitem 4)

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1  Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Tata Steel

2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Tata Steel, a'i bresenoldeb yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos flaenorol.

2.2 Roedd Unite wedi cyhoeddi'r wythnos flaenorol y byddai ei aelodau ym Mhort Talbot a Llanwern yn dechrau streic am gyfnod amhenodol o 8 Gorffennaf. Mewn ymateb, roedd Tata Steel yn ystyried cau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn gynnar.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

2.3 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg wrth y Cabinet ei fod wedi cynrychioli'r Prif Weinidog yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a oedd wedi cyfarfod ar Ynys Manaw yr wythnos flaenorol. Roedd y trafodaethau wedi canolbwyntio ar ddatgloi'r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol ym maes ynni adnewyddadwy ar draws yr ynysoedd. Byddai Datganiad Ysgrifenedig ar ganlyniadau'r drafodaeth yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos honno.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:05pm ddydd Mawrth a thua 5:40pm ddydd Mercher.

Eitem 4: 20mya

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â'r polisi 20mya.

4.2 Prif amcan y polisi 20mya yw arbed bywydau a lleihau'r nifer sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd yng Nghymru. Roedd yr arwyddion cynnar yn awgrymu bod y polisi hwn yn gweithio, gyda thystiolaeth bod y terfyn cyflymder is yn arwain at lai o wrthdrawiadau a llai o hawliadau yswiriant.

4.3 Fodd bynnag, roedd y polisi wedi polareiddio rhai pobl a chymunedau. Felly, cynigiwyd y dylid ailosod y polisi yn seiliedig ar dair blaenoriaeth: gwrando; gweithio mewn partneriaeth; a gwneud newidiadau lle bo angen. 

4.4 Yn ogystal, byddai fframwaith newydd ar gyfer gosod terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn cael ei gyhoeddi cyn y toriad. O fis Medi ymlaen, byddai awdurdodau priffyrdd yn dechrau asesu ffyrdd lle y gallai fod angen newid y terfyn cyflymder, a byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu'n raddol, lle bo angen.  

4.5 Croesawodd y Cabinet y papur.

4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar hynt y gwaith hwn i'r Senedd ar 16 Gorffennaf.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2024