Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, wedi clywed yn uniongyrchol sut y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu pobl i fyw a heneiddio'n dda.
Yn ystod ymweliad â'r Eisteddfod, cafodd y Gweinidog gyfarfod ag aelodau o'r grŵp cymunedol Deall Dementia o Bontypridd.
Cyfarfu hefyd ag aelodau o Grŵp Cynghori Pobl Hŷn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r awdurdod lleol yn un o 6 chyngor yng Nghymru sydd wedi ymuno â Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o Gymunedau a Dinasoedd Oed-gyfeillgar. Mae hyn yn rhan o fenter genedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Cymru yw'r unig wlad yn y byd lle y mae pob awdurdod lleol yn cael ei gynorthwyo'n llawn mewn un genhadaeth genedlaethol i ddod yn Oed-gyfeillgar.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol:
Ein gweledigaeth yw sicrhau Cymru Oed-gyfeillgar lle gall pawb edrych ymlaen at heneiddio.
Mae hyn yn golygu creu gwlad sy'n dathlu oedran a lle mae pobl o bob oed yn cael eu helpu i fyw a heneiddio'n dda. Nid yw oedran yn cyfyngu ar hawl unigolyn i gael ei drin ag urddas a pharch.
Roedd yn wych ymweld â'r Eisteddfod a chlywed gan bobl hŷn eu hunain ein bod yn llwyddo i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.
Roedd hefyd yn bleser dysgu rhagor am y gwaith mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei wneud i feithrin cymuned sy'n oed-gyfeillgar ac rwy'n llongyfarch yr awdurdod lleol am ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf:
Mae'n galonogol clywed pobl hŷn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cydnabod ymroddiad Cymru i fod yn wlad oed-gyfeillgar. Mae'r ffaith bod Rhondda Cynon Taf wedi ymaelodi â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Gymunedau a Dinasoedd Oed-gyfeillgar yn gam hollbwysig tuag at gyflawni'r nod hwnnw, ond mae ein hymrwymiad yn mynd yn bellach na hynny.
Rydyn ni o blaid urddas a pharch i bawb drwy werthfawrogi ein pobl hŷn a'u profiadau cyfoethog. Ledled Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n cynnig cymorth, gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol oed-gyfeillgar, gan gynnwys Fforymau Pobl Hŷn, dosbarthiadau ymarfer corff oed-gyfeillgar, cymorth llesiant a mwy. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n edrych ymlaen at ddyfodol lle gall pawb ffynnu wrth iddyn nhw heneiddio.
Clywodd y Gweinidog hefyd sut y mae'r Eisteddfod yn sicrhau bod y rhai y mae dementia yn effeithio arnyn nhw yn cael eu cynnwys.
Dywedodd Swyddog Hygyrchedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Oliver Griffith-Salter:
Rydyn ni'n ymdrechu i wneud ein gorau dros bawb sydd eisiau mynd i'r Eisteddfod ac i'r ardal leol. Fe ddysgon ni lawer wrth weithio gyda'r grŵp Deall Dementia ym Mhontypridd, a helpodd hyn inni wneud y Maes mor hwylus â phosib'. Mae dementia yn effeithio ar gymaint o bobl, a doedden ni ddim eisiau eithrio neb rhag mwynhau gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol:
Rwy'n croesawu'r gwaith gan drefnwyr yr Eisteddfod i sicrhau bod pobl hŷn sy'n byw gyda dementia yn gallu mwynhau'r digwyddiad, ac mae cydnabod yr angen sydd gan rai i gyfathrebu yn Gymraeg yn allweddol i sicrhau bod ein hawliau yn cael eu cynnal wrth inni heneiddio.