Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi penodi fy nhîm Gweinidogol a'r Darpar Gwnsler Cyffredinol. 

Rwy’n cadarnhau mai Huw Irranca-Davies fydd y Dirprwy Brif Weinidog, yn ogystal â bod yn gyfrifol am ei bortffolio Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Fel Dirprwy Brif Weinidog, bydd Huw yn fy nghefnogi yn fy rôl fel Prif Weinidog a bydd yn cydweithio’n agos â mi i gyflawni dros bobl Cymru.

Rwyf wedi gofyn i Mark Drakeford, yr Aelod dros Orllewin Caerdydd, ymuno â’r tîm Gweinidogol fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hynny dros dro. Bydd Mark yn defnyddio’i wybodaeth a'i brofiad sylweddol i barhau â'n gwaith o wella tryloywder a darpariaeth gwasanaethau. Byddaf innau’n parhau’n gyfrifol am y Gymraeg.

Rwyf hefyd heddiw wedi penodi Elisabeth Jones i ymgymryd â swyddogaethau'r Cwnsler Cyffredinol, a hynny dros dro ac yn unol â darpariaethau adran 49(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Elisabeth oedd Prif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd rhwng 2012 a 2019.

Bydd y penodiadau rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn rhoi sefydlogrwydd a pharhad i’r tîm Gweinidogol dros yr haf, gan ategu'r newidiadau a gyhoeddwyd ar 17 Gorffennaf 2024:

• Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca-Davies AS 

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Rebecca Evans AS

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle AS 

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Jayne Bryant AS 

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mark Drakeford AS

• Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ken Skates AS 

• Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Jane Hutt AS 

• Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden AS 

• Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Jack Sargeant AS   

• Y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar: Sarah Murphy AS

• Y Darpar Gwnsler Cyffredinol: Elisabeth Jones

Bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud ynghylch cyfrifoldebau portffolio ym mis Medi yn dilyn proses wrando gyda’r cyhoedd dros yr haf. Bydd y broses hon yn helpu i benderfynu ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a strwythur y llywodraeth am y 18 mis nesaf.