Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig

Agoriad

1. Ymddiheuriadau a gwrthdaro buddiannau

  1. Roedd Dyfed Alsop (Prif Swyddog Gweithredol) a Rob Jones (Prif Swyddog Ariannol) wedi anfon eu hymddiheuriadau. Roedd Anna Adams wedi anfon ei hymddiheuriadau, ac roedd Rob Hay yn bresennol ar ei rhan.
  2. Ni nodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau newydd.

2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf

  1. Cytunwyd ar Gofnodion drafft cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd, 2022.
  2. Adroddiad Camau Gweithredu. Roedd Log Camau Gweithredu a Phenderfyniadau'r Bwrdd wedi'i ddosbarthu ymlaen llaw. Rhoddodd Ysgrifennydd y Bwrdd ddiweddariad llafar ar y camau gweithredu byw. Byddai'r log yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r diweddariad llafar.
  3. Trafododd y Bwrdd gynigion a gyflwynwyd gan ysgrifennydd y Bwrdd ynghylch papurau'r Bwrdd. Byddai cofnodion yn parhau i gael eu cofnodi, eu cylchredeg a'u cytuno fel y gwneir ar hyn o bryd. Ar gyfer Sgyrsiau Bwrdd, yn hytrach na Chofnodion llawn, byddai cofnod o gamau gweithredu a phenderfyniadau’n cael eu gwneud, a'u dosbarthu i'r Bwrdd ar gyfer eu cytuno.
  4. Wedi’i olygu
  5. Wedi’i olygu
  6. Ni ddarparwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol  y tro hwn gan nad oedd y pwyllgor wedi cyfarfod ers cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd, 2022.

Adroddiadau

3. Adroddiad y Prif Weithredwr (PW) a Swyddog Cyfrifyddu (SC)

  1. Cyflwynodd y Pennaeth Staff yr Adroddiad ar ran y PW/SC.
  2. Roedd yr Adroddiad yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r Tîm Arwain (TA). Roedd y TA wedi dileu'r flaenoriaeth 'Egwyddorion craidd', fodd bynnag, roedd gwaith yn y maes hwn yn dal i fynd rhagddo.
  3. Perthnasoedd ac Ymgysylltu - roedd gweithdy ar y cyd ACC/Trysorlys Cymru wedi bod yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol. Daethpwyd i gytundeb ar gyfer cydweithredu pellach ar ddatblygu polisi.
  4. Pobl a Diwylliant - yn dilyn adolygiad o linellau amser a'n hagenda newid, penderfynwyd gohirio recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau. Byddai Becca Godfrey yn parhau i gyflawni rolau’r Cyfarwyddwr Gweithredu a’r Prif Swyddog Gweithredu yn y cyfamser.
  5. Byddai cynlluniau'r gyllideb yn cael eu dwyn ymlaen i'w trafod yn y Bwrdd ym mis Mawrth. Byddai sesiwn Bwrdd penodedig yn cael ei threfnu.
  6. Disgwylir penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru ar  yr amseriad o ran cynnwys ACC yn Neddfwriaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Teimlwyd bod llawer o ddulliau ACC wedi’u halinio’n dda â'r nodau Llesiant. Byddai ACC yn ystyried aliniad â LlC yn ehangach. Byddai'r Bwrdd yn cael ei ddiweddaru am unrhyw ddatblygiadau.
  7. Adroddodd y Cadeirydd ar ymgysylltu â Chyfarwyddwr Trysorlys Cymru. O ran gweithio mewn partneriaeth, roedd ymrwymiad ar y cyd i weithio gyda'n gilydd lle bynnag y bo modd, er mwyn sicrhau'r effeithiolrwydd mwyaf posibl. Bwriadai'r Cadeirydd gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Chyfarwyddwr Trysorlys Cymru. Byddai ymgysylltu â Thrysorlys Cymru’n fanteisiol wrth sefydlu a chryfhau perthnasoedd ar draws LlC yn ehangach.
  8. Roedd y Bwrdd yn awyddus i ddeall mwy am Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd ACC a CNC a’r strategaeth ar y cyd.

A23-01-02. Byddai'r Bwrdd yn cyfarfod ym mis Mawrth i drafod materion cyllidebol.
A23-01-03. Byddai'r PW/SC yn diweddaru'r Bwrdd ar berthynas ACC/CNC.

4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredu ar Ddarparu Gwasanaethau

  1. Cyflwynodd Becca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu, yr Adroddiad.
  2. Wedi’i olygu
  3. Wedi’i olygu
  4. Wedi’i olygu
  5. Dilysu Aml-Ffactor (MFA) - Mae cyllid cyfalaf wedi’i sicrhau a bydd SDLG yn cytuno sut i fwrw ymlaen â hyn yn 23/24 yn eu cyfarfod nesaf.
  6. Wedi’i olygu
  7. Roedd rôl y SDLG bellach yn glir ac roedd Cylch Gorchwyl y grŵp yn cael ei gwblhau er mwyn sicrwydd ac eglurder i bawb. 

5. Adroddiad Perfformiad

  1. Cyflwynodd y Pennaeth Dadansoddi Data yr adroddiad.
  2. Wedi’i olygu

6. Adroddiadau Cyllid a Sicrwydd

  1. Rhoddodd Jocelyn Davies, cadeirydd ARAC y Bwrdd, adroddiad ar weithgarwch y pwyllgor.
  2. Wedi’i olygu
  3. Fel yn 2022, yn 2023 byddai amserlenni Adroddiad Blynyddol ACC yn cael eu heffeithio gan ba bryd fydd Archwilio Cymru ar gael. Byddai'r Bwrdd yn cael gwybod maes o law.

A23-01-05. Byddai Gweithdai Risg yn cael eu trefnu ar gyfer ARAC a'r Bwrdd.

7. Adroddiad y Trysorlys

Wedi’i olygu

A23-01-05. Risk Workshops would be arranged for ARAC and The Board. 

7. Welsh Treasury Report

Wedi’i olygu

Trafodaeth

8. Adolygu Siarter ACC

  1. Rhoddodd y Pennaeth Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am Adolygiad Siarter ACC, gan gynnwys y camau nesaf.
  2. Cyhoeddwyd 'Ein Siarter’ ym mis Mawrth 2018. Noda’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (TCMA) fod yn rhaid adolygu'r Siarter o fewn 5 mlynedd i’w chyhoeddi. Mae'r Siarter yn nodi 8 gwerth craidd, a rhai agweddau o’r cyd-ddisgwyliadau rhwng ACC, y cwsmeriaid a’r prif randdeiliaid.
  3. Wedi’i olygu

9. Tirlun Deddfwriaethol ACC

Wedi’i olygu

10. Sylwebaeth a myfyrdodau ar y Cofrestr Risg Gorfforaethol, yng Nghyd-destun Adroddiadau Chwarter 3

  1. Mae’r Cadeirydd yn awyddus i'r Bwrdd fyfyrio ar y gofrestr risg bob chwarter, gyda'r angen i sicrhau cyfranogiad priodol y Bwrdd o ystyried lefel uwch y risg wrth symud ymlaen.
  2. Wedi’i olygu
  3. Bydd ARAC yn adolygu'r broses o adrodd am risg o adranol i gorfforaethol, unwaith y bydd swyddogaethau a chofrestrau newydd ar waith. Bydd hyn yn debygol o ddigwydd yn yr haf, ac wedi hynny bydd yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd er mwyn rhoi sicrwydd.

Roedd pryder o ran hollti risgiau strategol a gweithredol, a cholli golwg ar feysydd risg gweithredol; mae gwreiddio risgiau mewn materion darparu gwasanaethau yn helpu i ddeall goblygiadau risgiau. Cytunwyd y bydd y Bwrdd yn cynnal gweithdy risg blynyddol (fel rhan o'u dyddiau cwrdd i ffwrdd strategaeth o bosibl), i adolygu sgoriau risg, lefelau targedau, mesurau lliniaru 

Diweddglo

1.    Diolchodd y Bwrdd i ysgrifennydd y bwrdd - hwn oedd ei gyfarfod Bwrdd diwethaf cyn gadael ACC.
2.    Diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu'n rhan o’r gwaith o baratoi'r cyfarfod ac adrodd i'r Bwrdd. Gofynnir am adborth ar e-bost ar ôl y cyfarfod.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.