Rydym yn oedi cynllun grant Access Broadband Cymru o 7 Awst 2024.
Bydd y saib yn caniatáu i ni:
- diweddaru'r cynllun i adlewyrchu technoleg band eang newydd a newidiadau i'r farchnad
- adolygu terfynau grant a sut mae'r cynllun yn cael ei redeg i'w dargedu, yn hyblyg ac yn ymatebol.
Ni ddylai'r saib barhau am fwy na 6 mis.
Am opsiynau eraill i gael band eang cyflymach, gweler y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol a Phrosiect Gigabit. Gallwch hefyd wirio gyda'ch awdurdod lleol am brosiectau band eang yn eich ardal.
Os gwnaethoch gyflwyno cais am gyllid cyn 7 Awst 2024 gallwch barhau i gael mynediad at wasanaeth ar-lein ABC i:
- gwirio cynnydd eich cais
- darganfod a yw eich cais wedi'i gymeradwyo
- gwneud cais am daliad am osodiad cymeradwy
- darganfod a yw'ch hawliad wedi'i dalu
Mewngofnodwch i'ch cyfrif cynllun grant Mynediad Band Eang Cymru.