Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd bod cyfanswm o £1.6 biliwn wedi ei wario ar Y&D yn 2022 yng Nghymru (prisiau cyfredol).
  • Roedd gwariant Y&D Cymru yn cynrychioli 2.3% o gyfanswm gwariant Y&D y DU.
  • Roedd Y&D menter busnes yn cyfrif am 60.1% o’r cyfanswm Y&D yng Nghymru, gydag addysg uwch yn cyfrif am 36.8%, ac Y&D llywodraeth yn cyfrif am 2.8%.
  • Mewn ardal fach fel Cymru, gall nifer fechan o brosiectau mawr sydd yn cychwyn neu’n gorffen ddylanwadu’n fawr ar lefel gwariant Y&D, sy'n golygu bod y gyfres amser yn gallu bod yn anwadal.

Nodiadau

Mae'r datganiad hwn yn darparu amcangyfrifon o ymchwil a datblygu a gyflawnir yn y pedwar sector canlynol:

  • ymchwil a datblygu mentrau busnes (BERD)
  • ymchwil a datblygu addysg uwch (HERD)
  • ymchwil a datblygu llywodraeth, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesi'r DU (GovERD)
  • ymchwil a datblygu sefydliadau di-elw preifat (PNPRD)

Gelwir data ymchwil a datblygu'r sectorau hyn ar y cyd yn wariant mewnwladol crynswth ar ymchwil a datblygu (GERD).

Yn y cyhoeddiad ystadegol hwn, mae Y&D a chysyniadau cysylltiedig yn dilyn safonau a gytunwyd yn rhyngwladol a ddiffinnir gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), fel y'u cyhoeddwyd yn Llawlyfr Frascati 2015.

Mae'r ffigyrau hyn yn rhoi'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o ymchwil a datblygu ar lefel y DU, ond mae mwy o ansicrwydd yn yr amcangyfrifon sy'n is na lefel y DU a'r sector sy’n perfformio yr ymchwil a datblygu. Mae cyfansymiau y DU a ffigurau Y&D ar lefel sector wedi'u dynodi'n ystadegau swyddogol achrededig, tra bod gan weddill y ffigurau (gan gynnwys data Cymru) ddynodiad ystadegau swyddogol.

Mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sampl newydd ar gyfer ystadegau BERD yn 2022, sydd wedi cynyddu cyfanswm y data a dderbyniwyd, ac wedi sicrhau bod yr ystadegau BERD bellach yn adlewyrchu lefel yr Y&D a gyflawnir ar draws economi'r DU yn well. Felly, nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon o 2022 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol ac eithrio ar lefel y DU.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099