Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwystra ar gyfer y brechiad feirws syncytaidd anadlol (RSV) i atal salwch difrifol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw RSV?

Mae'r RSV yn un o’r feirysau cyffredin sy’n achosi peswch ac annwyd yn y gaeaf.

Yn fyd-eang, mae RSV yn heintio hyd at 90% o blant yn ystod 2 flynedd gyntaf eu bywyd, a bydd plant hŷn ac oedolion yn aml yn cael eu hailheintio gan y feirws. Babanod o dan flwydd oed a’r henoed sy’n wynebu’r risg fwyaf o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd yr haint.

Argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylid cynnig brechiad RSV i grwpiau penodol o bobl.

Pwy sy'n gymwys

O 1 Medi 2024 ymlaen, bydd brechiad RSV rheolaidd yn cael ei gynnig drwy gydol y flwyddyn i'r grwpiau canlynol:

  • oedolion hŷn, wrth iddynt droi'n 75 oed
  • menywod beichiog, a gynigir o 28 wythnos o feichiogrwydd ymlaen (gyda'r nod o ddiogelu eu babanod newydd-anedig)

Bydd ymgyrch "dal i fyny" untro yn cael ei chynnal ar gyfer oedolion hŷn am gyfnod o 12 mis rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 i dargedu unigolion rhwng 75 a 79 oed. Ar ôl hynny, byddant yn parhau i fod yn gymwys tan eu pen-blwydd yn 80 oed.

Bydd rhaglen "dal i fyny" hefyd yn cael ei chynnal ar gyfer y menywod beichiog hynny sydd eisoes wedi mynd heibio i'r 28 wythnos, ond nad ydynt wedi cael eu rhyddhau o wasanaethau mamolaeth. Bydd mamau'n cael cynnig y brechiad yn ystod pob beichiogrwydd er mwyn diogelu pob baban rhag RSV.