Bwrdd Trosolwg y Cytundeb Cydweithio: 8 Mai 2024
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Trosolwg ar 8 Mai 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Prif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrh Vaughan Gething AS
- Rhun ap Iorwerth AS
Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol (4 Mawrth 2024)
1.1 Croesawodd y Prif Weinidog y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Bwrdd Trosolwg o dan ei ddeiliadaeth. Nododd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol ar 4 Mawrth a oedd eisoes wedi’u cymeradwyo.
Eitem 2: Diweddariad ar y Cytundeb Cydweithio: tymor yr Haf 2024
2.1 Nododd y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru ddiweddariad tymor yr Haf y Cytundeb Cydweithio. Roedd y Bwrdd yn ddiolchgar am y diweddariad, gan nodi'r swm sylweddol o waith oedd yn digwydd a'r meysydd hynny lle byddai angen penderfyniadau cyn toriad yr haf. Nododd y Bwrdd arwyddocâd y diwrnod gyda Chyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael ei gynnal y prynhawn hwnnw.