Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyflwyno ei Ddatganiad y Gwanwyn cyntaf.
Fel y nodwyd o’r blaen, ni fydd Llywodraeth y DU bellach yn cyhoeddi ei chyllideb mewn dau ddigwyddiad bob blwyddyn – bydd y prif benderfyniadau am wariant a threthiant yn cael eu gwneud yng Nghyllideb yr Hydref. Mae Datganiad y Gwanwyn yn rhoi diweddariad ar yr economi a'r cyllid cyhoeddus ehangach yn seiliedig ar ragolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
Y prif neges o Ddatganiad y Gwanwyn heddiw yw bod y rhagolwg tymor canolig ar gyfer economi'r DU yn dal yn destun siom. Er bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi uwchraddio'i rhagolygon economaidd rywfaint ar gyfer y tymor byr, mae economi'r DU bellach yn llusgo y tu ôl i’r mwyafrif o economïau mawr y byd. Mewn cyfnod lle gwelir y twf economaidd cyflymaf ers degawd yn Ardal yr Ewro, mae’r twf yn y DU yn ansicr.
Mae angen gwneud buddsoddiadau mawr o'r newydd yn yr economi neu bydd y DU yn parhau i lusgo y tu ôl i bob economi datblygedig a mawr arall.
O ystyried yr ansicrwydd sy’n parhau oherwydd safbwynt Llywodraeth y DU ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol, mae ar fusnesau angen llywodraeth sy'n barod i fuddsoddi i gefnogi swyddi a thwf.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn ailbwysleisio ei galwadau ar i Lywodraeth y DU roi’r gorau i’w pholisi cyni sydd wedi methu. Mae’r polisi yn parhau i gael effaith niweidiol ar economi'r DU ac ar wasanaethau cyhoeddus, gan roi pwysau pellach ar safonau byw. Mae'r Resolution Foundation wedi cyfrifo y bydd hi’n 2025 cyn i safonau byw gyrraedd yr un penllanw ag a welwyd cyn y dirwasgiad, gan olygu 17 o flynyddoedd caled i aelwydydd y DU.
Rhaid i'r Canghellor osod cyfeiriad cyllidol newydd. Rhaid i Lywodraeth y DU ryddhau'r cyfyngiadau y mae wedi'u gosod arni ei hunan drwy Gyllideb yr Hydref, a rhaid i'r Canghellor roi'r cyllid ychwanegol y mae ei wir angen ar wasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau ledled y DU.
Yr wythnos ddiwethaf, aeth Llywodraeth y DU ati i ryddhau bron hanner y £1bn a ddyrannwyd i Ogledd Iwerddon fel rhan o'r cytundeb rhwng y Blaid Geidwadol â Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddyrannu cyllid canlyniadol ychwanegol i bob rhan o'r DU gan barchu'r rheolau cyllido sydd wedi'u sefydlu. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos dros ddyrannu £1.67bn yn ychwanegol i Gymru – sef y swm canlyniadol a fyddai wedi dod i Gymru petai’r £1bn a ddyrannwyd i Ogledd Iwerddon wedi’i roi drwy Fformiwla Barnett. Byddwn yn gwneud hynny drwy'r anghytundeb a godwyd gennym ar y cyd â Llywodraeth yr Alban.
Heddiw, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai Cymru yn cael ychydig dros £21m o arian canlyniadol drwy Fformiwla Barnett ar gyfer 2018-19 o ganlyniad i’r £3bn a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref i baratoi ar gyfer Brexit.
Rydym eisoes wedi cyhoeddi Cronfa Bontio’r UE sy’n werth £50m i helpu sefydliadau, busnesau a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i baratoi ar gyfer Brexit.