Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cadarnhawyd Eluned Morgan yn Brif Weinidog newydd Cymru – y Prif Weinidog benywaidd cyntaf yn hanes y genedl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Eluned ei geni yn Nhrelái, Caerdydd a’i haddysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ac mae hi wedi treulio 30 mlynedd o’i gyrfa yn gwasanaethu’r cyhoedd.

Mae hi wedi cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop – hi oedd yr Aelod ieuengaf yno yn 1994 – Tŷ’r Arglwyddi a Senedd Cymru. Mae hi wedi gwasanaethu yn y Cabinet ar gyfer tri Phrif Weinidog ers iddi gael ei hethol i’r Senedd am y tro cyntaf i gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016.

Bu Eluned yn Ysgrifennydd Iechyd Cymru ers 2021 hyd at ei phenodiad yn Brif Weinidog heddiw.

Mewn datganiad i’r Senedd y bore yma, yn dilyn y bleidlais i enwebu’r Prif Weinidog newydd, dywedodd Eluned:

“Mae’n anrhydedd mwyaf fy mywyd i sefyll o’ch blaenau chi fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru. Fel Prif Weinidog, dw i’n addo hyrwyddo lleisiau a phrofiadau sy’n rhy aml wedi cael eu gwthio i’r cyrion a’u tawelu.

“Dw i’n gobeithio cael fy niffinio gan fy ymrwymiad diflino i bobl Cymru, gan fy mlynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus a fy ymroddiad i greu cenedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus i ni i gyd. 

“Arweinydd sy’n canolbwyntio ar gyflawni ac sy’n uchelgeisiol ar gyfer ein cenedl. Arweinydd sy’n cael ei gyrru gan ymdeimlad o wasanaeth a pharch tuag at y bobl dw i’n eu gwasanaethu.

“Ein gwaith ni yn y Llywodraeth yw rhoi cyfle i bawb gyflawni ei botensial. Dw i’n credu’n gryf bod llwyddiant un ohonom yn arwain at lwyddiant i lawer.

“Nid ryw ffigwr pell ym Mae Caerdydd fydda’ i. Dinesydd yng Nghymru ydw i – yn union fel chi. Dw i am ddeall yr heriau ry’ch chi’n eu hwynebu. Dw i am i’ch blaenoriaethau chi ddod yn flaenoriaethau i mi.

“Wrth siarad dros Gymru ar bob cyfle, dw i’n bwriadu arwain llywodraeth sy’n gwrando, dysgu a chyflawni.