Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn system sy'n rhoi cymorth sylweddol ac yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â thlodi ledled Cymru. Yn hanesyddol, niferoedd bach o breswylwyr a allai fod yn gymwys sydd wedi manteisio ar y cynllun, a gaiff ei weinyddu'n lleol gan gynghorau, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad yn y Dreth Gyngor yn parhau i ostwng. Cynigiodd yr ymgynghoriad technegol rai newidiadau i'r cynllun er mwyn ei gwneud yn haws i fanteisio arno ac yn symlach i'w weinyddu. Yn benodol, roedd y cynigion yn yr ymgynghoriad fel a ganlyn: 

  • Cynnig 1: a ddylai Llywodraeth Cymru newid Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor fel y gall cyngor ystyried bod person sy'n cael Credyd Cynhwysol wedi gwneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor, a fyddai'n dod i rym yn 2025 i 2026
  • Cynnig 2: a ddylai Llywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau i ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion a fyddai'n dod i rym yn 2026 i 2027, ac, os felly, a ddylai'r cynllun newid i ddwy lefel o ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion neu eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn gyfan gwbl? 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Mawrth a 6 Mehefin 2024 a chafwyd 44 o ymatebion wedi'u cwblhau. Mae cwestiynau'r ymgynghoriad wedi'u cynnwys isod ynghyd â chrynodeb o'r ymatebion. 

Cwestiynau ac ymatebion i'r ymgynghoriad

Cynnig 1 

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â chynnig 1, sef y gall cyngor ystyried bod person sy'n cael Credyd Cynhwysol wedi gwneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn awtomatig o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru?

Ymatebion i gwestiwn 1

Roedd 37 o ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn cytuno â'r cynnig y gall cyngor ystyried bod person sy'n cael Credyd Cynhwysol wedi gwneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn awtomatig o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru. Nododd ymatebwyr fod llawer o ddryswch yn deillio o brosesau gwneud cais ar wahân ac y bydd y newid arfaethedig yn symleiddio'r broses, ac yn lleihau'r angen i lenwi ffurflenni i'r rheini sydd eisoes dan straen oherwydd eu bod yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. 

Rhoddodd ymatebwyr dystiolaeth i ddangos nad yw llawer o'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn ymwybodol bod yn rhaid iddynt wneud cais ar wahân am ostyngiad yn y Dreth Gyngor. Mae'r broses wedi'i rheoli i drosglwyddo pobl o fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol yn effeithio ar hawlwyr sydd wedi arfer â'r drefn o weinyddu ceisiadau am Fudd-dal Tai a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor drwy un ffurflen. Mae'n bosibl y gallai llawer o'r bobl hyn beidio â gwneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn ogystal â Chredyd Cynhwysol, os bydd eu hamgylchiadau yn newid ar ôl iddynt drosglwyddo o fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol. 

Nododd un ymatebydd y byddai'r cynnig yn yr ymgynghoriad yn cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac yn osgoi'r gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â hawliadau sydd wedi'u hôl-ddyddio ac achosion tribiwnlys posibl. Nododd eraill y bydd y newid yn lleihau'r baich gweinyddol ar gynghorau ac yn lleihau'r angen i gynghorau fynd i gostau wrth geisio adennill dyled y gellid ei hosgoi gyda chostau gwŷs cysylltiedig. 

Gwnaeth llawer groesawu'r camau i egluro'r prosesau sy'n gysylltiedig â Chredyd Cynhwysol a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn rheoliadau Llywodraeth Cymru ac roeddent o'r farn y bydd canllawiau ategol yn rhoi sicrwydd i gynghorau o ran defnyddio'r data a geir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. 

Roedd y rhai a oedd yn gwrthwynebu'r newid yn credu bod yn rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb eu hunain ac y dylai fod angen iddynt wneud cais ar wahân ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac y dylai gwneud cais fod yn ddewis unigol. 

Codwyd materion y tu hwnt i'r newid arfaethedig, megis: gall newid yn amgylchiadau dyfarniad Credyd Cynhwysol unigolyn hefyd arwain at ddyfarnu Gostyngiad yn y Dreth Gyngor nid dim ond i hawlwyr Credyd Cynhwysol newydd, ac nad yw'r prosesau cyfathrebu rhwng asiantaethau a dinasyddion ynghylch Credyd Cynhwysol yn ddibynadwy bob amser. Yn y dyfodol, awgrymwyd y gall fod angen sicrhau bod y cyngor perthnasol yn cael gwybod am bob cais, penderfyniad a symudiad mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol, p'un a yw'r sawl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn gymwys i dalu'r Dreth Gyngor ai peidio. 

Cwestiwn 2: A ydych yn rhagweld unrhyw heriau o ran rhoi cynnig 1 ar waith neu unrhyw heriau wrth roi cyngor i ymgeiswyr ynglŷn â'u hawliau? 

Ymatebion i gwestiwn 2

Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at yr heriau mewn perthynas â rhoi'r cynnig ar waith, gan gynnwys pa mor bwysig yw sicrhau bod gohebiaeth am Gredyd Cynhwysol yn cael ei hanfon at ddinasyddion mewn ffordd amserol a dibynadwy a'u bod yn cael eu hysbysu pan gaiff Credyd Cynhwysol ei ddyfarnu. Cododd rhai ymatebwyr faterion ynghylch yr adnoddau sydd ar gael, y galw ychwanegol posibl, staffio ac ariannu'r cynllun. 

Nododd eraill y mater o ofyn i unigolyn a yw am gael cymorth i dalu'r Dreth Gyngor ac, oni roddir yr ateb cywir i'r cwestiwn hwnnw, yna ni fyddai data yn cael eu hanfon i'r cyngor. Awgrymwyd y gellid ystyried ymhellach y posibilrwydd o rannu data yn ehangach rhwng asiantaethau yn y dyfodol. 

Yn dilyn cyhoeddi Siarter Budd-daliadau Cymru, gofynnodd un ymatebydd a fydd cais o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor hefyd yn cael ei ystyried fel cais am fudd-daliadau cymwys eraill yng Nghymru. Nododd un cyngor ei fod hefyd yn ceisio prosesu ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol ar yr un pryd â cheisiadau o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Roedd ymatebydd arall yn awyddus i'r cynigion hyn gael eu hystyried fel rhan o nod ehangach o greu ffordd haws a mwy cydlynol o hawlio o dan y system fudd-daliadau yng Nghymru.

Cyfeiriwyd at gysondeb o ran rhoi'r Cynllun ar waith gan fod cynghorau wedi mabwysiadu amrywiaeth o ddulliau gwahanol o weinyddu'r grantiau a'r lwfansau amrywiol y maent yn eu rheoli. Yn ddelfrydol, dylai fod negeseuon cyson yn cael eu rhannu gan bob cyngor yng Nghymru. 

Ar y llaw arall, nid oedd rhai cynghorau yn rhagweld unrhyw heriau o ran rhoi cynigion yr ymgynghoriad ar waith, ar yr amod bod y canllawiau yn glir ac yn cael eu llunio ar y cyd â chynghorau, a bod gwasanaethau rheng flaen yn cael hyfforddiant a chymorth fel bod ymgeiswyr yn cael yr wybodaeth gywir, heb jargon technegol. Yn olaf, nodwyd pwysigrwydd sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn monitro'r newidiadau wrth iddynt gael eu rhoi ar waith gan gynghorau. 

Cynnig 2

Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno y dylem gyflwyno newidiadau i ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion? 

Ymatebion i gwestiwn 3 

Roedd 39 o ymatebwyr yn cytuno â gwneud newidiadau i ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion o werth dyfarniad o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno y dylai cyfrifiadau cymhleth y didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion gael eu symleiddio. Roedd llawer o'r farn y byddai lleihau neu hepgor yr elfen hon yn helpu i osgoi rhywfaint o'r ansicrwydd a'r cymhlethdod sydd ynghlwm wrth y system bresennol. 

Darparodd sefydliadau yn y trydydd sector dystiolaeth bod didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn cyflwyno cymhlethdodau diangen i'r Cynllun. Er enghraifft, mae rhai o'u cleientiaid wedi nodi eu bod yn ei chael hi'n anodd deall union enillion y rhai nad ydynt yn ddibynyddion weithiau. Gall hyn achosi cryn oedi gyda'r cais, a all arwain at gronni ôl-daliadau. At hynny, nid yw'r rhai nad ydynt yn ddibynyddion bob amser yn cyfrannu at fil Treth Gyngor aelwyd, hyd yn oed os tybir eu bod yn gallu cyfrannu. 

Dywedodd sefydliad arall yn y trydydd sector fod didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn creu llawer o broblemau i ymgeiswyr. Mae diffyg gwybodaeth ymhlith ymgeiswyr o ran sut mae'r didyniadau yn gweithio ac nid oes gwybodaeth ddigonol am ddidyniadau ar ffurflenni hawlio Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Ceir achosion rheolaidd o fethu â rhoi gwybod am newidiadau o ran y rhai nad ydynt yn ddibynyddion hefyd, megis pan fyddant yn symud i mewn neu allan, gan nad yw'r sawl sy'n hawlio yn ystyried hyn fel newidiadau yn ei amgylchiadau ei hun. 

Roedd rhai cynghorau o'r farn y byddai newidiadau cadarnhaol yn golygu na fyddai'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais i'r cynllun ddarparu slipiau cyflog ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion, ac y bydd hyn yn gwella amseroedd asesu gan sicrhau bod biliau Treth Gyngor cywir yn cael eu cyflwyno. Gallai hyn gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a lleihau'r baich gweinyddol ar gynghorau. 

Roedd ymatebwyr eraill o'r farn bod didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn rhoi cyfrifoldeb ar yr unigolion hynny i gyfrannu at gostau'r aelwyd. Roedd rhai yn teimlo y dylai didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion gael eu hystyried gan na ddylai fod yn ofynnol i drethdalwyr eraill ariannu aelwyd sydd o bosibl yn cael incwm drwy unigolyn nad yw'n ddibynnydd nad yw'n cyfrannu at gostau'r aelwyd, gan roi cymhorthdal i unigolyn nad yw'n ddibynnydd i bob pwrpas nad oes angen unrhyw gymorth ariannol arno o bosibl. 

Awgrymwyd y gall cysylltu â data CThEF er mwyn pennu lefelau incwm fod yn ateb haws a symlach. 

Gwnaeth eraill bwyntiau ehangach, megis y dylai'r Dreth Gyngor fod yn daliad personol ac nid yn dreth ar eiddo gan fod y Dreth Gyngor yn dod yn fwy o 'drethiant unigol' ar gyfer yr heddlu, gwasanaethau tân, iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau llesiant. 

Nodwyd yn yr ymgynghoriad fod cost ynghlwm wrth ddileu neu symleiddio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion a gofynnodd rhai ymatebwyr am eglurder o ran pwy fydd yn talu'r costau hyn.  

Roedd un ymatebydd o'r farn y dylid cael gwared ar yr arfer presennol i roi didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion ar y gyfradd uchaf fel mater o drefn oherwydd, yn aml, nid yw'r rhai sy'n hawlio yn rheoli'r wybodaeth y gallant ei darparu am incwm unigolyn nad yw'n ddibynnydd. Dylai fod canllawiau cadarn o ran pa dystiolaeth y mae disgwyl i hawlydd ei chanfod am incwm unigolyn nad yw'n ddibynnydd. 

Awgrym pellach a wnaed ynghylch didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion oedd y dylid diwygio'r rheoliadau er mwyn eithrio unigolion nad ydynt yn ddibynyddion sy'n cael Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i'r Anabl, neu lwfans gofalwr o ddidyniad, gan y byddai hyn yn unol â rheoliadau Credyd Cynhwysol. 

Cwestiwn 4: Os gwnaethoch ateb ‘ydw’ i gwestiwn 3, a ddylai'r cynllun newid i ddau fand o ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion (opsiwn 2A) neu eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn gyfan gwbl (opsiwn 2B)? 

Ymatebion i gwestiwn 4 

Mewn ymateb i'r cwestiwn hwn, roedd 18 o ymatebwyr o blaid symud i ddau fand incwm ar gyfer didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion, roedd 11 o blaid cael gwared ar y didyniadau yn gyfan gwbl, a gwnaeth 8 ymatebydd arall awgrymiadau amgen, megis symud i dri neu bedwar band incwm. 

Roedd ymatebwyr a oedd o blaid dau fand incwm o'r farn y byddai gwaith gweinyddol yn haws drwy gymhwyso didyniadau â chyfradd safonol. Gwnaeth llawer y pwynt nad yw'n afresymol gofyn i'r rhai nad ydynt yn ddibynyddion gyfrannu at y Dreth Gyngor gan fod rhai yn ennill llawer o incwm i aelwyd ac felly dylid ystyried pa mor deg yw hi nad ydynt yn cyfrannu at dâl y Dreth Gyngor. 

Roedd llawer o blaid symud i ddau fand incwm gan y byddai hyn yn golygu bod rheoliadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn fwy cyson â rheoliadau Credyd Cynhwysol. Dylid hefyd roi ystyriaeth bellach i ddefnyddio'r un meini prawf â'r rhai y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu defnyddio ar gyfer Credyd Cynhwysol mewn perthynas â didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion. 

Roedd rhai eraill o'r farn y byddai llawer o waith gweinyddol ynghlwm wrth ddidyniad dwy lefel o hyd, sy'n mynd yn gymhleth wedyn gyda'r diffiniad o waith. Y diffiniad o ‘waith’ ar hyn o bryd yw gwaith am dâl o 16 awr yr wythnos o leiaf, a byddai angen i'r sawl sy'n hawlio ddarparu tystiolaeth o hyn o hyd. Byddai hynny hefyd yn golygu y byddai disgwyl i unigolyn nad yw'n ddibynnydd sy'n ennill £50 yr wythnos gyfrannu'r un faint â rhywun sy'n ennill £500 yr wythnos. Bydd angen sicrhau nad yw'r gofynion casglu tystiolaeth am sefyllfa ariannol yr unigolyn nad yw'n ddibynnydd yn feichus i'r hawlydd na'r cyngor. . 

Roedd y rhai a oedd o blaid eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn gyfan gwbl yn credu y byddai'n llawer haws ac y byddai'n symleiddio'r broses gyfan i ymgeiswyr. Nododd ymatebwyr ei bod yn dod yn fwyfwy anodd i'r rhai nad ydynt yn ddibynyddion fforddio i symud allan; byddai'n helpu'r aelwyd gyfan pe na bai didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion ar waith. 

Roedd eraill o'r farn y byddai eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn lleihau'r baich ar gynghorau i gasglu tystiolaeth am incymau, yn lleihau'r oedi i'r rhai sy'n gwneud cais o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, yn lleihau'r dystiolaeth y mae angen i ymgeiswyr ei darparu ac yn lleihau'r baich ariannol ar aelwydydd os nad yw'r rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn cyfrannu at gostau. 

Roedd rhai ymatebwyr yn credu y gallai gostyngiad mewn costau gweinyddol ac adennill wrthbwyso rhywfaint o'r refeniw (neu'r holl refeniw) y byddai cynghorau yn ei golli o ganlyniad i eithrio didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion. Roedd ymatebydd arall o'r farn, o safbwynt casglu'r Dreth Gyngor ac o ystyried y goblygiadau o ran cost a chyfraddau llwyddiant wrth gasglu dyledion gan unigolion nad ydynt yn ddibynyddion, y gallai fod yn well cael gwared ar y didyniadau yn gyfan gwbl, gan ganiatáu i adnoddau gael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch casglu arall. Nododd llawer o gynghorau y dylai unrhyw newidiadau sylweddol gael eu hariannu.

Mynegwyd pryderon y byddai cael gwared ar ddidyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn gyfan gwbl yn gwneud y cynllun yn fwy agored i dwyll, naill ai drwy ymhoniad anwir o ran yr unigolyn atebol neu'r gydberthynas rhwng unigolion yn yr aelwyd. 

Awgrymodd ymatebion eraill i'r ymgynghoriad niferoedd gwahanol o fandiau incwm gyda throthwyon hawdd eu deall mewn system wedi'i symleiddio. Awgrymwyd mabwysiadu tri band incwm: dim didyniad, swm penodol, yna swm uwch. Gallai pedwar band incwm fod fel a ganlyn: dim didyniad (incwm o'r Adran Gwaith a Phensiynau yn unig), isel (<£150 yr wythnos), canolig (£151 i 299 yr wythnos) ac uchel (>£300 yr wythnos). 

Awgrymodd ymatebydd arall fod yn rhaid asesu'r Dreth Gyngor yn seiliedig ar incwm personol, oherwydd gall incwm personol pensiynwr fod yn chwarter cyflog unigolyn o oedran gweithio, ond bydd disgwyl iddo ariannu'r cartref teuluol. 

Nododd ymatebydd arall fod darpariaeth yn y rheoliadau eisoes i ddiogelu hawlwyr o dan y Cynllun sydd mewn sefyllfa ariannol fwy bregus gan nad yw didyniadau ar gyfer y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn cael eu cymhwyso os yw'r unigolyn yn cael Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gweini ac ati. 

Cwestiwn 5: A oes gennych unrhyw syniadau eraill ar gyfer sut y gellid symleiddio neu wella Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor? 

Ymatebion i gwestiwn 5

Nododd ymatebwyr fod pobl yn tybio bod Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor fel ei ragflaenydd Budd-dal y Dreth Gyngor yr un mor drafferthus gyda'r angen i gynhyrchu llythyrau hysbysu bob tro y bydd hawliad yn newid. Gyda Chredyd Cynhwysol, gall hyn arwain at 13 o newidiadau ym mhob blwyddyn ariannol ar gyfartaledd felly mae costau sylweddol ynghlwm wrth gynhyrchu a phostio llythyrau hysbysu ar gyfer y Cynllun ac mae'n achosi llawer o ddryswch diangen i ymgeiswyr. Gellid ystyried anfon y llythyr cyntaf ar y cam asesu ac yna ddibynnu ar y biliau Treth Gyngor diwygiedig i ddangos y dyfarniadau sydd wedi newid. 

Gellid hefyd ystyried cyflwyno goddefiant ar gyfer newidiadau mewn dyfarniadau. Byddai hyn yn osgoi anfon hysbysiadau a biliau niferus o dan y Cynllun ar gyfer newidiadau bach gan fod hyn yn gostus i'r cyngor ac yn ddryslyd i'r trethdalwr. Mae hefyd yn effeithio ar weithgarwch gorfodi mewn perthynas â'r Dreth Gyngor, os nad yw'r unigolyn yn talu a bod biliau'n cael eu hanfon yn ddi-baid. 

Nododd eraill, gan fod y broses o drosglwyddo o fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol bellach yn cyflymu, y gallai fod yn opsiwn ailystyried polisi o ddyfarniadau cyfnod penodedig am gyfnod penodol o amser. Awgrym arall oedd symud oddi wrth asesiadau incwm manwl i fandiau incwm a all leihau pa mor aml y gwneir newidiadau, yn enwedig mewn perthynas ag asesiadau Credyd Cynhwysol. Roedd rhai hefyd o'r farn y dylai'r rhai sydd â hawl i Gredyd Cynhwysol gael eu pasbortio i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan leihau'r angen i ailasesu'r rhai sydd ag incwm amrywiadwy yn rheolaidd. 

Dywedodd rhai ymatebwyr fod y newidiadau cyson i Gredyd Cynhwysol yn peri problemau i ymdrechion aelwydydd i gyllidebu ac, o safbwynt cyngor, eu bod yn faich prosesu ac yn achosi problemau wrth geisio adennill y Dreth Gyngor yn amserol. Er i ymatebwyr nodi nad oes ateb hawdd i'r broblem hon, byddai angen gwneud rhywfaint o waith dadansoddi ac efallai y byddai adolygiad tri mis (neu gyfnod arall y cytunir arno) o ddyfarniadau yn fwy priodol. 

Cynigiwyd y dylid gwneud newid technegol i Reoliad 28 ac y dylai'r budd-daliadau a restrir gynnwys Credyd Cynhwysol. Byddai hyn yn golygu y gellid prosesu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer unigolyn o dramor yn seiliedig ar Gredyd Cynhwysol (gan y dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau fod wedi gwirio bod ganddo hawl i gyllid cyhoeddus a'r hawl i breswylio eisoes) a dileu'r rhwystr a'r oedi pellach lle mae'n rhaid i ymgeisydd brofi bod Caniatâd i Aros wedi'i roi. 

Nododd rhai ymatebwyr fod angen dechrau o'r newydd gyda dyluniad Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a chreu cynllun syml sy'n hawdd ei ddeall a'i weinyddu, gan ystyried yn benodol sut y caiff ei weinyddu a'r gofynion o ran meddalwedd ac ati wrth i'r cynllun gael ei ddylunio. Byddai hyn yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio ar gyfer cymorth i dalu'r Dreth Gyngor yn hytrach na gweinyddu hen system gymhleth. 

Gan y bwriedir i gynigion diwygio'r Dreth Gyngor ac ailbrisio yng Nghymru ddechrau yn 2028, nododd rhai fod hyn yn cynnig cyfle i ystyried dyluniad y cynllun cyn yr ailbrisiad nesaf. Mae problemau hysbys gydag achosion enillion Credyd Cynhwysol sydd â newidiadau bach, felly dylid ystyried symleiddio ynghyd ag ystyried dyfarniadau cyfnod penodedig. 

Cyfeiriodd ymatebwyr at bwysigrwydd gwasanaethau cynghori er mwyn codi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau gwahanol, a helpu pobl i hawlio a herio penderfyniadau anghywir. Gellid gwneud mwy i helpu ymgeiswyr sydd dros 65 oed, megis llunio polisïau sydd wedi'u hanelu at y grŵp hwn. Gellid gwneud mwy hefyd i helpu'r rhai sydd ag anableddau a/neu gyflyrau iechyd hirdymor. 

Awgrymodd rhai y dylai pob cyngor ddefnyddio'r un templed ar gyfer y Cynllun gan fod rhai ffurflenni cais yn llawer mwy cymhleth na rhai eraill. Mae ceisiadau drwy'r post yn unig yn cymryd mwy o amser i'w cyflwyno a gallant fynd ar goll yn y post sy'n achosi hyd yn oed mwy o straen i'r unigolyn ac oedi cyn gwneud dyfarniadau. Ar y llaw arall, gofynnodd rhai ymatebwyr i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan bob cyngor ddulliau amgen o wneud cais o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (heblaw am wneud cais ar-lein). Gall hyn helpu'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol neu sydd â sgiliau digidol gwael. 

Mae angen ystyried dyluniad y Cynllun a gweithio gyda chyflenwyr meddalwedd er mwyn hwyluso prosesau awtomataidd lle bynnag y bo modd, gyda'r nod o leihau'r angen i asesu â llaw. 

Effeithiau ar y Gymraeg 

Cwestiwn 6: Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ynghylch gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar y Gymraeg yn eich barn chi? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

  • A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?

  • A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?

Ymatebion i gwestiwn 6 

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr o'r farn na fyddai'r cynigion yn cael effaith gadarnhaol na negyddol ar y Gymraeg. Mae'n rhaid i ffurflenni cais fod yn ddwyieithog felly ni ddylai fod effaith negyddol ar unrhyw un sy'n ceisio deall y cynllun na gwneud cais. 

Roedd rhai ymatebwyr o'r farn na ddylid hyrwyddo'r Gymraeg yn y ffordd hon. Er mwyn arbed costau, mynegodd rhai y byddai'n well ganddynt dderbyn deunydd argraffedig yn Saesneg yn unig ar ôl iddynt fynegi dewis iaith. 

Roedd ymatebydd arall o'r farn mai dim ond effeithiau cadarnhaol fyddai'n deillio o'r newidiadau ac y byddai ymgeiswyr yn siarad â'r un staff refeniw ac y gallant ddewis siarad Cymraeg o hyd. 

Roedd un ymatebydd yn credu bod y cynigion yn darparu ar gyfer y rhyddid statudol i unigolion ddefnyddio'r Gymraeg yng Nghymru. Dylai unrhyw wasanaethau cysylltiedig fod ar gael yn Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg. Fel sefydliadau sy'n ddarostyngedig i'r safonau a rhoi polisi cynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg ar waith, dylai cynghorau sicrhau eu bod yn gallu rhoi unrhyw newidiadau ar waith yn unol â'r gofynion lleol o ran y Gymraeg. 

Cododd un ymatebydd y mater fod proses rhannu dogfennau'r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Credyd Cynhwysol yn uniaith Saesneg, ac y gall derbyn y cais i rannu data Credyd Cynhwysol olygu llai o gyswllt yn Gymraeg. Gofynnodd yr ymatebydd am fwy o gydweithrediad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn hyn o beth.  

Cwestiwn 7: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion ynghylch gostyngiadau'r Dreth Gyngor er mwyn: 

  • cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu 
    liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Ymatebion i gwestiwn 7

Ni chafwyd unrhyw ymatebion o sylwedd. 

Cwestiwn 8: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.

Ymatebion i gwestiwn 8

Roedd ymatebwyr o'r farn y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i bensiynwyr sy'n defnyddio Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a nodwyd heriau tebyg i bensiynwyr sy'n hawlio Credyd Pensiwn. Roedd y pryderon a nodwyd yn cynnwys lleihad ym maint y garfan o oedran pensiwn a bod angen gwneud mwy o ymchwil i ddeall y dirywiad hwn ac ymdrin ag ef, yn ogystal â gwella'r ffordd y caiff cyngor ar gyfer y Cynllun ei dargedu at bensiynwyr. 

Gwnaed sylwadau am y ffordd y caiff incwm hunangyflogaeth ei gyfrifo o dan Gredyd Cynhwysol, ac a yw hyn o bosibl yn arwain at ôl-daliadau'r Dreth Gyngor. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod angen ffordd fwy syml a gonest o gymhwyso gostyngiadau'r Dreth Gyngor a'u rhoi ar waith yng Nghymru, er mwyn lleihau'r risg o ddwysáu heriau iechyd meddwl i bobl agored i niwed, gan nodi y gall bygythiadau rheolaidd o gamau gorfodi wneud i bobl deimlo'n anobeithiol iawn. 

Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod angen i fwy o swyddogion budd-daliadau ymweld â chartrefi pobl i gwblhau gwiriadau budd-daliadau, a chadarnhau a allai fod gan bobl hawl i fudd-daliadau anabledd megis Lwfans Byw i'r Anabl, Taliad Annibyniaeth Personol a Lwfans Gweini, gan y byddai hyn yn galluogi mwy o bobl i hawlio'r hyn y maent ganddynt yr hawl iddo.

Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y gall y ffordd yr ymdrinnir ag ôl-daliadau'r Dreth Gyngor fod yn hen ffasiwn. Rhoddwyd enghreifftiau o bobl yn cael biliau Treth Gyngor diwygiedig yn barhaus o ganlyniad i ddyfarniadau newidiol o dan y Cynllun gan fod enillion y rhai nad ydynt yn ddibynyddion yn newid. Roedd hyn yn creu cylch o ddryswch i hawlwyr gyda'u biliau ac nid oeddent yn gwybod faint i'w dalu. Gall pobl deimlo'n bryderus am gysylltu â'r cyngor ynghylch taliadau yn y dyfodol a cholli eu hawl i dalu mewn rhandaliadau. 

Croesawodd ymatebwyr gynllun Cymru gyfan am ei degwch a'i gysondeb ledled Cymru. Mae'n osgoi'r baich o orfod llunio a chytuno ar gynlluniau lleol ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, er mwyn i gynghorau gael mwy o ymreolaeth o ran anghenion lleol, awgrymwyd y dylid cael cronfa debyg i'r Gronfa Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar gyfer gostyngiadau'r Dreth Gyngor er mwyn caniatáu disgresiwn lleol wrth ddyfarnu gostyngiadau yn seiliedig ar achosion unigol. 

Codwyd anghenion y rhai sydd ychydig uwchlaw'r trothwy cymhwystra i hawlio Credyd Cynhwysol ac nad ydynt felly'n gymwys i gael gostyngiadau'r Dreth Gyngor, ac y dylid gwneud mwy i helpu pobl dlawd sy'n gweithio sydd hefyd yn wynebu anawsterau ariannol. 

Yn olaf, nododd rhai ymatebwyr fod rheolau cyfalaf yn y cyfrifiadau wedi bod yr un peth ers tro, ac awgrymwyd y byddai anwybyddu unrhyw gyfalaf islaw £10,000 yn lleihau gwaith prosesu. Yn ogystal, byddai cynyddu'r terfyn cyfalaf uchaf wedi bod yn fuddiol i sicrhau nad yw cynifer o bobl ar eu colled pan fydd eu cyfoeth cyfalaf yn cyrraedd yr uchafswm presennol. 

Y camau nesaf

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ddatganiad ar y ffordd ymlaen, gan gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwelliannau technegol i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.