Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynllun ar gyfer gwireddu’r wyth amcan ar gyfer pysgodfeydd a ddisgrifir yn Neddf Pysgodfeydd 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Gwnaethon ni gyhoeddi’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS) ym mis Tachwedd 2022. Roedd hyn yn ofynnol o dan Adran 2 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020

Mae'r JFS yn elfen allweddol o Fframwaith Pysgodfeydd y DU. Mae’n pennu’r cyfeiriad strategol lefel uchel ar gyfer rheoli pysgodfeydd. 

Mae’n pennu’r polisïau ar gyfer gwireddu, neu helpu i wireddu, yr wyth amcan ar gyfer pysgodfeydd a ddisgrifir yn y Ddeddf. Bydd angen i ni ystyried y polisïau hyn a’r amcanion wrth i ni ddatblygu polisïau yn y dyfodol. 

Mae hefyd yn cynnwys rhestr o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (FMPau). Byddwn yn cynnal y cynlluniau hyn yn ystod cyfnod y datganiad cyntaf. Bydd yr FMPau yn arfau allweddol ar gyfer cynnal pysgodfeydd cynaliadwy a’u rheoli’n dda. Bydd hynny’n ein helpu i gwrdd ag ymrwymiadau polisïau'r JFS.

Mae rhai FMPau yn gynlluniau ar y cyd â gweinyddiaethau eraill. Maen nhw’n adlewyrchu gwasgariad daearyddol stoc benodol o bysgod. Mae cynlluniau eraill yn gynlluniau i Gymru yn unig ac yn adlewyrchu ac yn cefnogi’n polisïau a’n hamcanion ni. Mae’r FMP Crancod a Chimychiaid yn un o’r cynlluniau Cymreig hyn. Y gobaith yw ei lunio a’i gyhoeddi cyn diwedd 2026. 

Y bysgodfa crancod a chimychiaid yw un o bysgodfeydd mwyaf gwerthfawr Cymru o ran gwerth. Bydd yr FMP yn rhoi sylw i’r:

  • cranc coch
  • cimwch
  • cranc heglog
  • cimwch coch
  • cranc llygatgoch
  • gorgimwch cyffredin

Er gwaetha’u pwysigrwydd economaidd, mae’r stociau hyn yn ddi-gwota a does dim llawer o ddata amdanyn nhw. Dim ond trwy gyfres o fesurau technegol a ‘maint glanio lleiaf’ (MLS) y maen nhw’n cael eu rheoli. 

Mae’n flaenoriaeth datblygu FMP ar gyfer y rhywogaethau hyn. Mae pysgodfeydd cimychiaid a chrancod o werth economaidd mawr i bysgotwyr a’r cymunedau arfordirol sy’n dibynnu arnyn nhw. Ceir y teimlad bod angen rheolaeth well arnyn nhw. 

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Rydym am gael trafodaeth â rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y pysgodfeydd crancod a chimychiaid. Y cam cyntaf oedd siarad â physgotwyr masnachol ym mis Ebrill 2024. Ein pwrpas oedd:

  • casglu barn rhanddeiliaid am y trefniadau rheoli presennol
  • casglu barn am drefniadau rheoli ar gyfer y dyfodol, ar gyfer pysgodfeydd pysgod cregyn yng Nghymru
  • deall disgwyliadau rhanddeiliaid
  • deall sut mae rhanddeiliaid am fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a chyd-reoli’r FMP yn y dyfodol. 

Bydd yr FMP crancod a chimychiaid yn ymdrin â phob dull cymryd stoc. Bydd y cynllun felly yn ymdrin â physgota masnachol a physgota hamdden. I ddweud eich dweud,  ewch i  Fisheries management plans in Wales (on seafish.org)

Y Grŵp Cynghori ar Grancod a Chimychiaid

Diben y Grŵp Cynghori ar Grancod a Chimychiaid fydd rhoi cyngor ar bysgodfeydd Crancod a Chimychiaid. 

Bydd y grŵp:

  • yn rhoi cyngor ar roi’r FMP Crancod a Chimychiaid ar waith
  • y prif fforwm ar gyfer ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid 
  • yn gweithio i wella'r bysgodfa crancod a chimychiaid

Cysylltwch â ni os hoffech fod yn rhan o bethau, naill ai:

  • fel aelod o ragflaenydd anffurfiol y CLAG – Grŵp datblygu’r FMP, neu 
  • fel aelod o’r grŵp ei hun yn 2025