Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar, Sarah Murphy, wedi bod yn dysgu mwy am ehangu darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg mewn cyfarfodydd gyda Mudiad Meithrin a Chlybiau Plant Cymru yn yr Eisteddfod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y Gweinidog yn canmol y gofal a'r addysg sy'n cael ei ddarparu drwy'r Gymraeg i tua 22,000 o blant y blynyddoedd cynnar yng Nghymru bob wythnos.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £500k eleni ac wedi ymrwymo £1.1 miliwn y flwyddyn nesaf i hyfforddi'r gweithlu i ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Mae'r cyllid hwn yn galluogi Mudiad Meithrin, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, i ddarparu cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg, yn barhaus, ar gyfer 100 o ddysgwyr Lefel 3 a 50 Lefel 5 drwy ei raglen 'Cam wrth Gam'.

Y gobaith yw y bydd ehangu'r gweithlu yn gwella hygyrchedd, argaeledd a fforddiadwyedd darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Nod hyn yw rhoi mwy byth o gefnogaeth i rieni a gofalwyr i ddychwelyd i'r gwaith, fel rhan o'r ymdrechion i wella lles cymdeithasol ac economaidd y genedl, yn ogystal â chyrraedd targed Cymraeg 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae'r rhaglen 'Sefydlu a Symud' i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Blynyddoedd Cynnar eisoes wedi agor neu ehangu 61 o Gylchoedd Meithrin, ac mae 23 yn ychwanegol yn agor neu'n ehangu yn ystod 2024/25, gan greu cyfanswm o 84 lleoliad newydd neu estynedig ers 2018.

Mae cyllid ar gyfer gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi cefnogi mwy na 400 o Gylchoedd Meithrin a 45 o Feithrinfeydd Preifat, a'r uchelgais yw y bydd mwy na 70 o ddarpariaethau pellach yn elwa yn y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar, Sarah Murphy

Roedd hi'n wych cael ymweld â stondin Mudiad Meithrin i gael y cyfle i ddysgu mwy am y gwaith rhagorol maen nhw'n ei wneud i gefnogi gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Dw i'n gwybod bod gwaith Mudiad Meithrin i ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn hanfodol er mwyn sicrhau proses bontio ddidrafferth rhwng gofal plant cyfrwng Cymraeg ac ysgolion.

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies o Fudiad Meithrin:

Mae gwaith Mudiad Meithrin mor bwysig i rieni am fod ein cymuned yn helpu plant i ddysgu a thyfu. Rydyn ni'n addysgu plant i siarad Cymraeg ac mae rhieni hefyd yn cael cwrdd â theuluoedd eraill a dysgu sut i helpu eu plant. Mae'n union fel un teulu mawr.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hanfodol i'n gwaith, ac felly mae wedi bod yn wych trafod hyn gyda Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar yn yr Eisteddfod heddiw.

Cyfarfu Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar â Chlybiau Plant Cymru hefyd, a chafodd daith o amgylch y Pentref Plant yn yr Eisteddfod.

Ychwanegodd:

Mae'r gwaith y mae Clybiau yn ei wneud yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg.

Maen nhw'n parhau i sicrhau bod pob plentyn sydd eisiau manteisio ar gyfle i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn gallu gwneud hynny.

Dywedodd Jane O'Toole, Prif Weithredwr Clybiau Plant Cymru:

Drwy ein prosiect CYMell a menter Addewid Cymraeg, mae'r sefydliad yn darparu hyfforddiant, adnoddau a chefnogaeth i wella ansawdd darpariaeth Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol, gan hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Cyfarfu'r Gweinidog â'r darparwyr gofal plant y tu allan i oriau ysgol cyn y 'diwrnod chwarae' cenedlaethol ddydd Mercher, 7 Awst, sy'n ddathliad o hawl plant i chwarae ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. 

Mae cyfleoedd chwarae yn hanfodol ar gyfer iechyd, lles a chyfleoedd bywyd plant yn y dyfodol. Mae chwarae yn helpu plant i deimlo'n rhan o'u cymdogaethau a'u cymunedau ehangach, yn ogystal â'u helpu i chwarae gydag eraill, gan ddysgu parch a goddefgarwch.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol, drwy raglen Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae, i gefnogi mynediad at fwy o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc mewn cymunedau bregus yn ystod gwyliau'r ysgol a darparu bwyd a byrbrydau iach.