Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Tracey Holdsworth, (Cadeirydd), NSPCC Cymru
  • Mike Clark, TGP Cymru 
  • Laura Fordes, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc 
  • Oliver Marshall-Critchley, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Lauren Shepherd, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Kate Thomas, Cafcass Cymru 
  • Paul Apreda, FNF Both Parents Matter Cymru 
  • Sarah Coldrick, Cymdeithas Maethu, Gofal Perthynas a Mabwysiadu Cymru
  • Caroline Rawson, Prosiect Cynghori ar Anghenion Arbennig (SNAP) Cymru
  • Rebecca Jones, Myfyrwraig PHD
  • Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
  • Ei Hanrhydedd y Farnwres Jayne Scannell, Y Farnwriaeth
  • Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru
  • Nigel Brown, Cafcass Cymru 
  • Matthew Pinnell, Cafcass Cymru 
  • Gwyneth Roberts, Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso ac Ymddiheuriadau

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Gareth Jenkins, Cynrychiolydd ADSS
  • De Litchfield, Cafcass Cymru 
  • Catrin Cracroft, Cynrychiolydd Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru)
  • Samantha Williams, Anabledd Dysgu Cymru
  • Neil Pring, GLlTEF

Croesawodd Nigel bawb i'r cyfarfod a chyflwynodd Tracey Holdsworth fel cadeirydd newydd y Pwyllgor Cynghori.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023

Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi. 

Cam Gweithredu: Roedd cam gweithredu yn ymwneud â chais gan Paul Apreda mewn perthynas â'r swm y mae Cafcass Cymru yn ei dalu i ganolfannau cyswllt dan oruchwyliaeth. Rhoddodd Nigel Brown wybod i'r aelodau am y swm a delir i'r gwasanaethau hyn.

Adroddiad Plant Wedi'u Hildio

Rhoddodd Kate Thomas gyflwyniad PowerPoint manwl ar y wybodaeth a gasglwyd mewn perthynas â phlant a oedd wedi'u hildio. Roedd y cyflwyniad yn drwyadl iawn ac wedi'i gyflwyno'n dda. Gofynnodd yr aelodau sawl cwestiwn, gan ddiolch i Kate am y cyflwyniad llawn gwybodaeth.

Braenaru: Diweddariad

Roedd disgwyl i'r Cynllun Peilot Braenaru yn y gogledd ddod i ben ym mis Mawrth 2024, ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder bellach wedi rhoi estyniad i fis Mawrth 2025. Hefyd, mae wedi cytuno iddo gael ei gyflwyno yn Ne-ddwyrain Cymru o fis Ebrill 2024 ymlaen. 

Ei Hanrhydedd y Farnwres Scannell sy'n arwain y broses o gyflwyno'r cynllun Braenaru yn Ne-ddwyrain Cymru a chadarnhaodd pa mor falch ydyw ei bod yn ymgymryd â'r rôl hon.

Cyfranogiad Plant mewn Achosion Preifat

Rhoddwyd cyflwyniad pwerus iawn gan Rebecca Jones ar yr ymchwil y mae wedi'i chwblhau wrth goladu a dadansoddi profiadau'r plant sydd wedi bod yn rhan o'r Cynllun Peilot Braenaru yn y gogledd. Gofynnodd aelodau nifer o gwestiynau i Rebecca a diolchwyd iddi am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr a gwybodus mewn ffordd mor glir.

Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc

Rhoddodd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc gyflwyniad da a thrylwyr iawn ar y gwaith a wnaed ganddo dros y misoedd diwethaf. 

Diolchodd yr holl aelodau a rhoddwyd adborth cadarnhaol ar gyflwyniad aelodau'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc.

Unrhyw Fater Arall

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod a daethpwyd â’r cyfarfod i ben. 

Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 5 Mawrth 2024 trwy Teams.