Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bu lefel diddordeb uwch a cheisiadau am wybodaeth am nifer y Cymry ag anabledd dysgu sy'n cael triniaeth hirdymor mewn cyfleusterau i gleifion mewnol yng Nghymru a thros y ffin yn Lloegr. Tynnwyd sylw at y mater hwn yn ddiweddar gan lansiad yr ymgyrch Stolen Lives, sef Homes Not Hospitals a deiseb yn y Senedd ar 17 Ebrill 2024.

Rwyf yn ymwybodol nad oes llawer o wybodaeth ar gael yn gyhoeddus ar hyn o bryd mewn perthynas â'r mater hwn. O'r herwydd mae rhywfaint o ddryswch a gwybodaeth anghywir bosibl wedi bod yn cylchredeg am faint ac effaith y mater hwn. Rwyf yn cyhoeddi'r diweddariad hwn i egluro'r sefyllfa bresennol ac amlinellu'r gweithgaredd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn ei wneud i helpu i leihau nifer y cleifion ag anabledd dysgu sy'n derbyn eu gofal parhaus a hirdymor mewn ysbyty lle byddai dewis arall cymunedol yn fwy priodol ac ymarferol. Er bod y diweddariad hwn yn cael ei ddarparu yn ystod y toriad er mwyn hysbysu'r aelodau, byddwn yn falch o roi datganiad pellach maes o law os bydd yr aelodau am gael diweddariadau pellach.

Ein blaenoriaeth a'n hegwyddor arweiniol o hyd yw nad cartref yw gwely ysbyty a lle bynnag y bo'n bosibl, dylai pobl gael eu trin gartref neu mor agos at adref â phosibl. Fodd bynnag, ac er mor annifyr yw hyn, mae angen inni gydnabod, ar gyfer lleiafrif bach iawn o unigolion, y mae eu hanghenion iechyd a gofal mor gymhleth, mai triniaeth mewn lleoliad ysbyty fydd yr unig opsiwn addas o hyd sy'n diwallu eu hanghenion penodol. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid inni sicrhau bod eu gofal yn briodol, yn effeithiol, ac yn cyrraedd y safonau uchaf.

Credir bod gan rhwng 50-60,000 o bobl yng Nghymru anabledd dysgu. Mae llawer o'r unigolion hyn yn parhau heb ddiagnosis gyda dim ond rhyw 16,000 o oedolion wedi'u nodi ar gofrestr meddyg teulu fel rhai sydd ag anabledd dysgu.  Fel y nodwyd gan yr archwiliad diweddaraf o gleifion mewnol ag anabledd dysgu a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2024, roedd tua 134 o gleifion o Gymru ag anabledd dysgu dynodedig yn cael eu trin mewn lleoliad ysbyty ar gyfer anableddau dysgu neu ysbyty iechyd meddwl.  Mae hyn yn cyfateb i lai nag 1% (0.8%) o'r boblogaeth gofrestredig hon.

Yn ddiweddar, rydym wedi comisiynu Gweithrediaeth GIG Cymru i gynnal cyfres o gyfrifiadau rheolaidd o gleifion mewnol ag anabledd dysgu i fonitro a darparu'r data y mae arnom ei angen i'n galluogi i ddatblygu polisïau sy'n helpu i leihau nifer y cleifion a hyd yr arhosiad. Ar hyn o bryd, mae'r wybodaeth hon yn cael ei darparu drwy systemau mewnol rheoli'r GIG.  Er bod y broses hon yn cael ei datblygu, mae'r data a ddarperir yn ddangosol yn unig; nid yw wedi mynd drwy'r prosesau cydymffurfio a sicrhau ansawdd priodol sy'n ofynnol ar gyfer cyhoeddi data swyddogol, felly ni ellir ei gyhoeddi na'i rannu'n ehangach ar hyn o bryd. Er hynny, rydym bellach wedi dechrau'r broses o ffurfioli'r trefniant hwn, gan gynnwys ceisio arweiniad gan StatsCymru ar gasglu data cadarn sy'n bodloni safonau cenedlaethol, i ganiatáu inni gyhoeddi'r data yr ydym yn ei gasglu yn rheolaidd. 

Mae Gweithrediaeth GIG Cymru hefyd wedi cael ei chomisiynu i gynnal adolygiad mewnol gyda'r nodau canlynol:

• deall y rhesymau dros hyd arhosiad mewn gwasanaethau arbenigol i oedolion ag anableddau dysgu sy'n gleifion mewnol. 

• deall y prosesau sydd ar waith sy'n llywio llwybrau gofal. 

• nodi unigolion sy'n destun oedi o ran llwybr gofal a deall y rhwystrau wrth bontio i'r cam nesaf yn eu gofal. 

• amlygu a rhannu arferion da a heriau wrth ddarparu gwasanaethau ar draws partneriaid.

Yn ôl y monitro diweddaraf ym maes cleifion mewnol ag anabledd dysgu, o'r 134 o gleifion a nodwyd uchod,   

  • roedd 85% yn derbyn eu gofal mewn lleoliad ysbyty a gynlluniwyd fel darpariaeth anabledd dysgu.
  • roedd 34% mewn amgylcheddau gofal parhaus tymor hir
  • roedd 81% yn derbyn eu gofal yng Nghymru
  • roedd gan 66% ddiagnosis deuol o anabledd dysgu a chyflwr iechyd meddwl

Rydym yn ymwybodol nad oes gan bob Bwrdd Iechyd ysbytai pwrpasol i gleifion mewnol ag anabledd dysgu, ac y bydd cleifion y mae angen eu derbyn i'r ysbyty yn yr ardaloedd hyn yn cael mynediad at leoliadau iechyd meddwl acíwt drwy lwybrau sydd wedi'u dylunio yn benodol. Roedd y mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n derbyn gofal mewn ysbyty iechyd meddwl pwrpasol wedi'u lleoli'n briodol mewn uned iechyd meddwl oherwydd diagnosis sylfaenol o gyflwr iechyd meddwl sy'n gofyn am y gofal arbenigol hwn.

Mae nifer bach iawn o achosion - llai na 5 ar hyn o bryd - lle mae diffyg cyfleuster lleol addas ar gyfer anableddau dysgu yn golygu bod unigolion ag anabledd dysgu yn cael gofal dros dro yn yr hyn a ystyrir yn bennaf yn gyfleuster iechyd meddwl. Er nad yw hyn yn ddelfrydol, maent i gyd yn derbyn gofal sy'n briodol i'w hanghenion unigol tra bo trafodaethau'n parhau i ddod o hyd i atebion hirdymor i'w hanghenion iechyd a gofal y tu allan i'r cyfleusterau hyn.

Mae gan bob claf mewnol gynllun gofal a chymorth sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod eu gofal parhaus yn dal yn briodol. Mae'r rhain yn cael eu gwerthuso a'u hasesu'n rheolaidd i nodi a yw unigolyn yn barod i gael ei drosglwyddo i leoliad arall, fel arfer naill ai lleoliad arhosiad hir neu ddychwelyd i gymorth cymunedol drwy ofal preswyl, byw â chymorth neu i gartref teuluol.

Yn ogystal â lleihau nifer y cleifion sy'n cael eu cartrefu dros dymor hir mewn llety ysbyty, rydym hefyd yn anelu at leihau faint o amser y mae'r unigolion hyn yn ei dreulio yn yr ysbytai hyn.  Er bod hyd cyfartalog arhosiad yn yr ysbyty wedi gostwng yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym yn cydnabod bod mwy y gellir ei wneud yn y maes hwn. 

Hyd cyfartalog arhosiad cleifion yn eu hamgylchedd presennol ar lefel Cymru gyfan yw 3.4 mlynedd. Yr arosiadau hiraf ledled Cymru yw cleifion mewn lleoliadau Gofal Parhaus tymor hir gyda chyfartaledd o 6.9 mlynedd. Mae hyd cyfartalog arhosiad mewn uned asesu a thriniaeth yn 1 flwyddyn; mewn uned ddiogel mae'n 2.1 flynedd; ac mewn uned iechyd meddwl acíwt/amgylchedd adsefydlu  mae'n 1.5 flwyddyn. Gellir gwneud mwy i leihau'r amser y mae pobl yn ei dreulio yn y lleoliadau hyn ac rydym wrthi'n ymchwilio i'r ffordd orau o gyflawni hyn.

Mae nifer o rwystrau sylweddol i ryddhau cleifion o'r ysbyty, ac nid oes yr un ohonynt yn unigryw i'r boblogaeth sydd ag anabledd dysgu neu'n fwy acíwt ar eu cyfer. Mae'r rhain yn cynnwys argaeledd tai lleol priodol ac addas yn ogystal â heriau parhaus i'r gweithlu, megis staff cymorth hyfforddedig i ofalu am unigolion yn y gymuned. Gall trafodaethau rhwng darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch pwy ddylai ddarparu ac ariannu cymorth parhaus hefyd achosi oedi.

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid drwy'r Grŵp Gweithredu a Sicrwydd Cenedlaethol ar gyfer Anabledd Dysgu (LDNIAG) i nodi atebion a mynd i'r afael â'r rhwystrau i oedi yn achos llwybrau gofal. Nid oes unrhyw gam cyflym ymlaen yma mewn hinsawdd o ddarpariaeth gyhoeddus sy'n brin o arian a bydd mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn yn gofyn am ymrwymiad, adnoddau, cynllunio ac amser sylweddol, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hyn. 

Ym mis Chwefror 2020 cyhoeddwyd adroddiad Gwella Gofal, Gwella Bywydau  o ddarpariaeth arbenigol i oedolion ag anableddau dysgu sy'n gleifion mewnol yng Nghymru a Lloegr. Adolygodd yr adroddiad yr holl ddarpariaeth ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu sy'n gleifion mewnol yng Nghymru a gomisiynwyd gan GIG Cymru. Fe nododd fod angen bod yn fanylach wrth gynllunio gofal/rhyddhau o’r ysbyty, monitro ac adolygu unigolion. Gwnaeth tua 70 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr gofal ar sut y gellid gwella'r gwasanaethau hyn.

Dechreuodd gwaith ar unwaith i gyflawni'r argymhellion hyn ond amharwyd arno'n ddifrifol gan ddyfodiad y pandemig a'i effaith. Ailddechreuodd y gwaith hwn yn gynnar yn 2022 drwy sefydlu'r Grŵp Gweithredu a Sicrwydd Cenedlaethol ar Anabledd Dysgu ac ers hynny mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid cyhoeddus, y trydydd sector a rhanddeiliaid preifat ar ddatblygu cynllunio gweithredu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu cyflawni.

Mae gan LDNIAG dri grŵp gorchwyl a gorffen penodol sy'n gweithio ar feysydd allweddol Ymyrraeth Gynnar, Pontio Amserol a Lleihau Ymyriadau Fferyllol. Disgwylir i bob grŵp gyflwyno adroddiad yn fuan gydag argymhellion ar sut yr ydym yn alinio ein gweithgareddau blaenoriaeth i ymateb i'r heriau hyn.

Mae LDNIAG wedi rhoi adroddiad interim imi ar gynnydd yn erbyn y camau gweithredu cenedlaethol hyd yn hyn ac rwyf yn bwriadu rhannu'r adroddiad hwnnw yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddaf yn gofyn am ddiweddariad llawn ar gynnydd yn erbyn yr holl gamau gweithredu yn yr adroddiad Gwella Gofal, Gwella Bywydau tua diwedd y flwyddyn a byddaf yn cyhoeddi hyn cyn gynted ag y bydd ar gael. Bryd hynny, byddaf yn ystyried gyda phartneriaid, ymestyn gwaith LDNIAG i barhau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynlluniau a'r gweithgareddau tymor hir y bydd angen bwrw ymlaen â hwy yn y maes hwn.

Cyfarfu fy rhagflaenydd fel y Gweinidog Iechyd Meddwl ag Ymgyrch Stolen Lives sef Homes not Hospital ar ddechrau mis Mai i drafod y pryderon a godwyd.  Ers hynny, rydym wedi gofyn i Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu ystyried y materion a godwyd ym maniffesto eu hymgyrch er mwyn ein cynghori ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r pryderon hyn a lle bo modd, alinio unrhyw weithgarwch newydd a nodwyd â'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud. Bydd ein gwaith yn dibynnu ar gasglu gwybodaeth ddibynadwy a rheolaidd ac rydym eisoes wedi dechrau mynd ati i gasglu a chyhoeddi data allweddol yn ymwneud â gofal a thriniaeth pobl ag anableddau dysgu. Aethom ati i gyhoeddi trosolwg ym mis Mehefin 2024 o gyfraddau ac achosion marwolaethau ac achosion ymhlith pobl ag anabledd dysgu rhwng 2012 a 2022. Byddwn yn defnyddio'r adroddiad hwn yn sail i barhau i nodi unrhyw feysydd lle y gellir dysgu gwersi i helpu i osgoi marwolaethau diangen yn y dyfodol a gwella gofal iechyd. 

Rwyf yn gobeithio y bydd y datganiad hwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd am ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r mater hwn ac yn dangos y lefelau sylweddol o weithgarwch parhaus sy'n digwydd yn y maes hwn. Bydd llawer o'r gweithgarwch hwn yn cymryd rhywfaint o amser i'w gwblhau ond byddaf yn parhau i flaenoriaethu'r mater hwn yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod a byddaf yn cyhoeddi ein cynlluniau, diweddariadau cynnydd rheolaidd a manylion y data a gasglwn cyn gynted ag y byddwn wedi nodi proses a mecanwaith priodol ar gyfer gwneud hynny. Byddaf hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am waith LDMAG mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y grŵp Stolen Lives maes o law.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.