Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol sy'n cynghori adrannau iechyd y DU ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion ynghylch amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau

Fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen brechu yn erbyn COVID-19, mae'r Cyd-bwyllgor wedi cyhoeddi datganiad heddiw sy'n cynnwys ei gyngor terfynol ar gymhwysedd a chynnyrch brechlyn ar gyfer rhaglen y brechiad yn erbyn Covid-19 yn hydref 2024. Prif nod y rhaglen brechu yn erbyn COVID-19 yw hybu imiwnedd yn y rhai sy'n wynebu risg uwch o ganlyniad i COVID-19, a gwella amddiffyniad rhag salwch difrifol, mynd i'r ysbyty a marwolaeth.

Yn ei ddatganiad, mae'r Cyd-bwyllgor wedi cynghori na ddylai'r grwpiau canlynol gael eu cynnwys yn rhaglen hydref 2024-25:

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gofalwyr di-dâl 

Fodd bynnag, gan fod disgwyl i'r rhaglen ddechrau ymhen ychydig wythnosau, gallai dileu'r grwpiau hyn ar hyn o bryd beri pryder. Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu sicrhau bod brechiad COVID-19 yr hydref ar gael i'r grwpiau hyn fel rhan o'r rhaglen genedlaethol. 

Rhagwelir mai dyma fydd y tro olaf y bydd cynnig rhagweithiol yn cael ei wneud i'r grwpiau hyn, yn amodol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn y dyfodol, ac adolygiad parhaus gan y Cyd-bwyllgor.

Ar ben hynny, gan gydnabod cyngor y Cyd-bwyllgor bod y budd clinigol o frechu yn erbyn COVID-19 i'r grwpiau hyn yn fach iawn, hoffwn ei gwneud yn glir na ddylid sianelu adnoddau'r bwrdd iechyd tuag at ysgogi pobl yn y grwpiau hyn i gael y brechlyn. 

Mae'r Cyd-bwyllgor hefyd wedi cynghori yn erbyn cynnwys cysylltiadau aelwydydd y rheini sy'n imiwnoataliedig. Fel rhan o'r cyfnod pontio disgwyliedig i raglen fwy cyfyngedig yn y blynyddoedd i ddod, caniateir i fyrddau iechyd frechu pobl yn y grŵp hwn sy'n dod ymlaen i gael eu brechu, ond ni fydd unrhyw gynnig rhagweithiol yn cael ei wneud. 

I grynhoi, yn hydref 2024, bydd y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o'r brechlyn COVID-19:

  • Pobl sy'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn 
  • Pob oedolyn 65 oed ac yn hŷn 
  • Unigolion rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y'i diffinnir yn nhablau 3 a 4 y bennod ar COVID-19 yn y Llyfr Gwyrdd
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn 
  • Gofalwyr di-dâl

Mae gwaith cynllunio eisoes ar y gweill gan sefydliadau'r GIG i baratoi ar gyfer rhaglen y brechiad yn erbyn COVID-19 yn yr hydref.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.