Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad

Gan fod y 4 cam gweithredu o fewn y 'Cynllun mathemateg a rhifedd' yn cynrychioli gweledigaeth gydlynol ar gyfer gwella safonau yn y maes hwn, mae'r diweddariad hwn yn cynrychioli ein cynnydd yn erbyn pob cam gweithredu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio ag ymarferwyr, rhanbarthau a phartneriaethau, Estyn ac arbenigwyr academaidd i ddeall anghenion ysgolion o ran mathemateg a rhifedd a sut y gallwn ddefnyddio'r adnoddau presennol yn fwy effeithiol. Mae'r dystiolaeth gan y rhanddeiliaid hyn wedi llywio gwaith ar fanyleb a fydd yn caffael cymorth dwys ar lefel genedlaethol ar gyfer ymarferwyr mewn mathemateg a rhifedd. Bydd y contract yn cael ei gyflwyno i dendro yr haf hwn, gyda gwaith datblygu yn dechrau yn y flwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Mae cynllun peilot wedi'i gomisiynu drwy Raglen Gymorth Mathemateg Cymru (RhGMC) ym Mhrifysgol Abertawe, gan archwilio sut y gellir cefnogi rhieni a gofalwyr i ymgysylltu â dysgu mathemateg eu plentyn. Bydd y cynllun peilot hwn yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Grŵp ymchwil, tystiolaeth a chyngor

Mae'r grŵp ymchwil, tystiolaeth a chyngor wedi bod yn ffynhonnell bwysig o gyngor a her anffurfiol yn ystod y gwaith hwn. Mae aelodau'r grŵp hwn wedi'u tynnu o brifysgolion ledled Cymru a'r DU. Maent yn cynrychioli ystod eang o arbenigedd mewn mathemateg ac addysgu mathemateg. 

Aelodau'r grŵp ymchwil, tystiolaeth a chyngor

  • Dr Ian Benson: Cyfarwyddwr, Sociality Mathematics CIC.
  • Yr Athro Christian Bokhove: Athro mewn Addysg Mathemateg yn Ysgol Addysg Southampton ym Mhrifysgol Southampton.
  • Dr. Rosemary Cann: Uwch Ddarlithydd, Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Dr. Gareth Evans: athro mathemateg uwchradd, Pennaeth Mathemateg a Rhifedd yn Ysgol y Creuddyn.
  • Yr Athro Camilla Gilmore: Athro Gwybyddiaeth Fathemategol ym Mhrifysgol Loughborough.
  • Dr Sofya Lyakhova (cadeirydd): Athro Cyswllt Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, ac Arweinydd Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru (RhGMC).
  • Dr. Rachel Wallis: Tiwtor Cwricwlwm ar y Rhaglen TAR Gynradd yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
  • Yr Athro Anne Watson: Athro Emeritws Addysg Fathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen.