Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Jayne Bryant AS
  • Sarah Murphy AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat, Prif Weinidog Cymru
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig (absennol ar gyfer eitem 4)
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Darren Griffiths, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Owen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 3 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog y newyddion diweddaraf i'r Cabinet ar statws Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).  Roedd Pwyllgor y Bil Diwygio a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi cyhoeddi eu hadroddiadau ar 7 Mehefin, a oedd wedi cynnwys 47 o argymhellion.

2.2 Argymhellodd y Bil Diwygio, drwy fwyafrif, y dylai'r Senedd gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, gan gydnabod yr un pryd fod y model cwota arfaethedig yn adlewyrchu arferion gorau rhyngwladol yn fras a'i fod yn addas i'r diben yng Nghymru.

2.3 Roedd y ddau Bwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion y byddai angen eu hystyried ymhellach, gan gynnwys ymgysylltu â'r Llywydd a Llywodraeth y DU ar gymhwysedd deddfwriaethol, ar ôl etholiad Senedd y DU.

2.4 Yn ogystal, roedd y ddau bwyllgor wedi codi pryderon ynghylch y tarfu posibl ar ganlyniad etholiad Senedd 2026, os caiff darpariaethau eu rhoi ar waith ymlaen llaw, ac ochr yn ochr â mesurau ehangach i ddiwygio'r Senedd.

2.5 Roedd y Llywodraeth wedi'i gwneud yn glir, pan gyflwynwyd y Bil, y byddai safbwyntiau'r pwyllgorau yn rhan ganolog o'r broses o ystyried camau nesaf y Bil.

2.6 Felly, roedd y Llywodraeth wedi penderfynu gohirio'r ddadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil tan 16 Gorffennaf, er mwyn rhoi ystyriaeth ddyladwy i'r adroddiadau ac i ymateb mor llawn â phosibl cyn y ddadl. Roedd y Trefnydd wedi ysgrifennu at gadeiryddion y pwyllgorau craffu, gyda chopi at y Llywydd, y dydd Gwener blaenorol i'w hysbysu o'r penderfyniad hwn.

Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

2.7 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n mynychu Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ddydd Mercher ar gyfer eu gwaith craffu blynyddol ar Gysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Llofnodi'r Datganiad Profiad o Fod mewn Gofal

2.8 Hefyd ddydd Mercher, byddai'r Prif Weinidog, ynghyd â'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, yn llofnodi'r Datganiad Profiad o Fod mewn Gofal ar gyfer Pobl Ifanc. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar a'r Trefnydd a'r Prif Chwip hefyd yn mynychu'r digwyddiad.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5:05pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher. Adroddwyd bod datganiad llafar ar Ailgylchu o'r Radd Flaenaf yng Nghymru wedi disodli dadl Cyfnod 1 Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).

3.2 Nododd y Cabinet y byddai'r Senedd yn trafod cynnig i gyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain o dan arweiniad yr Aelodau ddydd Mercher.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2024