Beth sydd gan stori dyner am daith cwpl hoyw i fabwysiadu, gêm saethu zombies, a llu o ddreigiau syfrdanol sy'n anadlu tân yn gyffredin?
Diwydiant creadigol anhygoel Cymru oedd yn gyfrifol am eu creu – a dod â nhw i'n sgriniau – yn 2024.
Cymru Greadigol yw asiantaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a chefnogi diwydiannau creadigol y genedl, o deledu, ffilm ac animeiddio i gemau, cyhoeddi a cherddoriaeth. Mae hefyd yn darparu cyllid i ddod â chyfleoedd cynhyrchu a hyfforddi unigryw ac uwchsgilio i Gymru a chwmnïau yng Nghymru.
Yn ystod y chwe mis diwethaf yn unig, mae cynulleidfaoedd teledu, ffilm a gemau byd-eang wedi cael cyfle i weld llawer o gynyrchiadau sy'n gysylltiedig â Chymru, gan gynnwys:
- 'House of the Dragon', stori sy’n rhagflaenu’r Game of Thrones byd-enwog – a ffilmiwyd ar leoliad ar draws gogledd Cymru, gyda golygfeydd dramatig yr ardal yn cyfleu tiroedd chwedlonol Dragonstone a Riverlands, ymhlith eraill.
- 'Lost Boys and Fairies' y BBC – cyfres fer hyfryd ond torcalonnus am daith cwpl hoyw at fabwysiadu, wedi'i ffilmio yn bennaf yn y brifddinas, ac wedi'i phlethu â'r iaith Gymraeg.
- 'Kensuke's Kingdom', a fydd yn ymddangos mewn sinemâu ddydd Gwener yma, sy'n nofel a ddaeth yn fyw i'r sgrîn fawr, gyda lleisiau Cillian Murphy a Sally Hawkins. Fe wnaeth animeiddwyr o Gaerdydd, Bumpybox, weithio mewn partneriaeth ar greu’r ffilm.
- Gêm fideo arswyd / saethu zombies 'Sker Ritual' – gyda chefndir Cymreig cryf, daeth yn un o'r gemau PC a chonsol sydd wedi gwerthu orau yn y byd o fewn yr wythnos gyntaf o gael ei lansio.
Ac nid ein sgriniau ni yn unig sydd wedi’u goleuo gydag antur sy'n gysylltiedig â Chymru. Mae Cymru Greadigol hefyd wedi helpu i greu map digidol o sîn gerddoriaeth helaeth ac sy'n ehangu drwy'r amser.
Mae'r map ar gael drwy wefan Ymchwil Cerddoriaeth Fyw, ac mae'n nodi 496 o fusnesau ar draws 22 awdurdod lleol Cymru, sy'n cynnwys: 75 stiwdio recordio, 7 stiwdio ymarfer penodol a 414 lleoliad cerddoriaeth o wahanol fathau.
Mae Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant, wedi bod yn ymweld â sawl busnes creadigol heddiw (dydd Iau 1 Awst) yng ngogledd Cymru i weld eu gwaith a chlywed am sut mae cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu gwahanol elfennau o'r sector i ffynnu ledled Cymru.
Dywedodd y Gweinidog:
Mae wedi bod yn chwe mis gwych i'r celfyddydau creadigol yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ar wahanol adegau yn 2024 mae cynhyrchion a gefnogir gan Cymru Greadigol wedi cyrraedd brig siartiau gemau a ffrydio, gan arddangos ein talent, ein lleoliadau a'n creadigrwydd o safon fyd-eang.
Rydyn ni wir mewn oes aur o gynhyrchu creadigol Cymreig.
Ond ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Rydym yn ymrwymedig i adeiladu'r diwydiant yng Nghymru dros y tymor hir. Mae hynny'n cynnwys cefnogi cwmnïau rhagorol fel y rhai yr ymwelais â nhw yng ngogledd Cymru heddiw – y label recordio Cymraeg sefydledig Sain sy'n gweithio gydag artistiaid newydd cyffrous, ochr yn ochr â'i wreiddiau traddodiadol, a Cwmni Da sy'n eiddo i'w weithwyr ac yn arwain y ffordd yn cyd-gynhyrchu prosiectau arloesol gyda chymorth Cymru Greadigol.
Dw i methu aros i weld beth sy'n dod nesaf o ddiwydiannau cerddoriaeth, ffilm, teledu a gemau cynyddol Cymru.
Wrth grynhoi'r chwe mis diwethaf, dywedodd Dr David Banner MBE, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Wales Interactive, y cwmni y tu ôl i Sker Ritual:
Am brofiad gwyllt! Bu'r ymateb, y gefnogaeth a'r croeso y mae Sker Ritual wedi ei gael ledled y byd yn anhygoel ers ei lansio.
Mae wedi bod yn benllanw llawer o waith caled, yn gyntaf wrth ei sefydlu ac yna dod â chymaint o unigolion talentog ac angerddol ynghyd i helpu i wireddu ein gweledigaeth. Mae Cymru Greadigol wedi bod yn gefnogwr amhrisiadwy ar hyd y daith.
Wrth ddisgrifio effaith set sgiliau Bumpybox ar gynhyrchu Kensuke's Kingdom, dywedodd Camilla Deakin, Cynhyrchydd yn Lupus Films:
Cawsom brofiad gwych yn gweithio gyda rhai o dîm Bumpybox ar ein ffilmiau eraill, gan gynnwys y cynhyrchydd Sam Wright a'r Prif Gyfansoddwr Neil Martin.
Roeddem yn gwybod eu bod yn hynod greadigol a phroffesiynol ac y byddai cael eu tîm o gyfansoddwyr yng Nghaerdydd - taith fer ar y trên o'n stiwdio yn Llundain - yn ased enfawr.
Roedden nhw hefyd wedi cyffroi gan y posibilrwydd o fynd gam ymhellach yn artistig ac yn dechnegol; rhodd i'r cyfarwyddwyr Neil Boyle a Kirk Hendry a'n cyfarwyddwr celf o Gaerdydd, Michael Shorten.