Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Yn aml, mae pobl yn y system gyfiawnder ymhlith y mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, ac rwyf am sicrhau bod y cyfleoedd dysgu a'r sgiliau rydym yn eu darparu mewn carchardai yn gynhwysol a chefnogol, gan ganiatáu i'r rheini sydd yn yr ystâd ddiogel yng Nghymru feithrin yr hyder sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i waith a'i gadw neu barhau â'u dysgu pan gânt eu rhyddhau.

Mae aildroseddu gan rai sy'n cael eu rhyddhau o'r ddalfa yn costio tua £15 biliwn y flwyddyn i gymdeithas. Mae Cynllun Lleihau Aildroseddu ar gyfer Cymru 2022 i 2025 yn nodi bod y rhai sy'n cael swydd ar ôl gadael y carchar hyd at naw pwynt canran yn llai tebygol o aildroseddu, gan eu helpu i ennill annibyniaeth a chyfrannu at y gymdeithas ehangach. 

Drwy fuddsoddi yn y cyfleoedd dysgu a'r sgiliau a ddarperir mewn carchardai, gallwn wella cyfleoedd unigolyn i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy ar ôl ei ryddhau, gan helpu i greu cymunedau mwy diogel, gostwng y nifer a fydd yn dioddef troseddau yn y dyfodol, a lleihau'r baich ariannol sy'n gysylltiedig ag aildroseddu. 

Pwyslais ar ddysgu a sgiliau, gyda'r bwriad o gynyddu cyflogadwyedd, fydd prif ffocws y polisi hwn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod "cefnogaeth drwy'r giât" hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y sgiliau a'r cymwysterau sy'n cael eu hennill yn y carchar yn arwain yn llwyddiannus at gyflogaeth ar ôl gadael. Dyma pam y byddwn yn parhau i weithio tuag at gryfhau ein cynnig cyflogadwyedd i fod yn fwy cynhwysol ac ymateb yn fwy i anghenion pobl yn y carchar ac, ar ôl eu rhyddhau, i'w paratoi ar gyfer marchnad lafur sy'n newid yn barhaus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, dysgwyr mewn carchardai a'r rhai sy'n gadael y carchar, darparwyr addysg a sefydliadau'r trydydd sector i gyd-greu'r polisi hwn ar ddysgu ac ennill sgiliau yn y carchar. Mae'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer darparu cymorth o ran dysgu a sgiliau yn yr ystâd ddiogel i oedolion yng Nghymru.

Crynodeb gweithredol

Mae'r rhai sy'n dod o hyd i waith ar ôl cael eu rhyddhau yn llai tebygol o aildroseddu na'r rhai sydd ddim. 

Dylai'r amgylchedd dysgu mewn carchardai helpu i feithrin y sgiliau angenrheidiol i ddod o hyd i waith mewn byd sy'n newid. Dylai hefyd wella sgiliau cymdeithasol a bywyd carcharorion a gwella'u lles a'u gwytnwch yn ystod eu dedfrydau ac ar ôl eu rhyddhau.

Drwy sicrhau bod y cwricwlwm a'r cyrsiau galwedigaethol sydd ar gael mewn carchardai yn adlewyrchu'r anghenion yn y farchnad lafur yng Nghymru, byddwn yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, gan wella cyfleoedd unigolion sy'n cael eu rhyddhau i gael gwaith a'u cefnogi i ddod yn gaffaeliad i'w cymunedau.

Y darlun o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024

  • 6 o garchardai yng Nghymru gyda chapasiti gweithredol ar gyfer 5,590 rhyngddynt.
  • Manteisiodd dros draean o’r rhai yn y carchar ar o leiaf un cyfle i ddysgu. 
  • Crysiau 14,243 sgiliau galwedigaethol, cyflogadwyedd a hanfodol 2,591 nad, ydynt yn alwedigaethol.
  • Cyflogaeth o tua 25% 6 wythnos ar ôl eu rhyddhau.
  • Cefnogodd Cymru'n Gweithio 1363 o garcharorion drwy 2643 o achlysuron rhyngweithio.

Sylw gan Ddysgwr

Ti'n gweld, pan ti'n cael dy ryddhau mae gen ti bentwr o rwystrau o dy flaen, felly mae'n un peth cael cymwysterau ond ti angen profiad go iawn tu cefn i ti, hyd yn oed os oedd o yn y carchar. Mae'n rhaid i ti ddangos iddyn nhw, 'Mi fedra i wneud y job a roeddwn i'n ei gwneud hi yn y carchar'. Wedyn ti'n dibynnu arnyn nhw i roi ail gyfle i ti. Dyna ydy o.

Rôl Llywodraeth Cymru

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd, ond mae rhai o'r gwasanaethau cynorthwyol y mae eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr, ac i hyrwyddo adsefydlu wedi'u datganoli yng Nghymru. Mae'r ddarpariaeth ddysgu a sgiliau a llyfrgelloedd yng ngharchardai Cymru wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru ers 2009. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i gynnig darpariaeth ddysgu a sgiliau yng nghyd-destun blaenoriaethau Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i'w chwarae yn y gwaith o lywio cyfeiriad y ddarpariaeth ddysgu a sgiliau o fewn yr ystâd ddiogel yng Nghymru.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth gyffredinol yw darparu amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol mewn carchardai sy'n ysgogi ac ysbrydoli unigolion, gan eu helpu i baratoi am swydd ac i ennill a chadw cyflogaeth gynaliadwy.

Rydym wedi llunio ein dull gweithredu ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl yn y carchar, staff carchardai, ac aelodau o'r cyhoedd. Mae hyn wedi ein galluogi i gael dealltwriaeth gliriach o'r rhwystrau sy'n wynebu dysgwyr, a'r ddarpariaeth o ran cyflogadwyedd a sgiliau sydd eu hangen i'w cefnogi. Gyda'n gilydd, rydym wedi datblygu'r nodau canlynol ar gyfer y sector:

  • Hyblyg ac ystwyth: cefnogi unigolion i ddechrau dysgu
  • Perthnasol ac ymatebol: diwallu anghenion cyflogwyr o ran eu gweithlu 
  • Darpariaeth o ansawdd uchel a diwylliant o welliant parhaus: sicrhau bod strwythurau carchardai yn cefnogi darparu addysg, cyflogadwyedd a sgiliau
  • Darpariaeth sydd wedi'i gwreiddio ac yn gynhwysol: sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at raglenni addysg a chyflogadwyedd, yn y carchar a thrwy'r giât

Adborth gan ein grŵp ffocws dysgwyr

Mae'r weledigaeth yn amlinellu anghenion carcharorion a manteision y system addysg.

Nod 1. Hyblyg ac Ystwyth: cefnogi unigolion i ddechrau dysgu

Sylw gan ddysgwr

Dywedodd dysgwyr wrthym mai'r rheswm yn aml nad oeddent yn cymryd rhan mewn addysg, cyfleoedd cyflogadwyedd na hyfforddiant sgiliau oedd nad oeddent yn teimlo ei fod yn bodloni eu hanghenion penodol nhw neu nad oeddent yn deall sut y byddai'n eu helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae eisiau i addysg fod yn llawer mwy agored ac ymateb i anghenion a dyheadau pobl.

Mae angen cefnogaeth iawn i astudio, a gwell trefn ar gyfer trosglwyddo astudiaethau o garchar i garchar.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr drwy hyrwyddo dull o ddysgu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n ystyried o ble y maen nhw'n cychwyn a'u dyheadau ac yn helpu dysgwyr i weld eu llwybr datblygu. Bydd cynlluniau'n canolbwyntio ar wella eu rhagolygon ar gyfer cael swyddi a/neu gael mynediad i addysg bellach pan gânt eu rhyddhau.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Mabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr

Mabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr lle mae dysgu'n adlewyrchu anghenion a dyheadau'r unigolyn.

Sicrhau bod cynllun dysgu personol ystyrlon

Bydd y cynllun yn ddogfen "fyw" sy'n perthyn i'r dysgwr, gan gofnodi ei holl weithgareddau dysgu a datblygu mewn un man. Bydd y cynllun yn ddigidol a bydd posibl ei drosglwyddo gyda'r dysgwr os yw'n symud i leoliad arall tra fo dan glo. Bydd yn hawdd i athrawon, tiwtoriaid ac unrhyw bartneriaid eraill sy'n ymwneud â'r ddarpariaeth ddysgu a sgiliau gael mynediad ato. 

Cefnogi mentora gan gyd-garcharorion

Mae mentoriaid o blith cyd-garcharorion yn adnodd dylanwadol ac effeithiol. Maent yn gweithredu fel hyrwyddwyr addysg yn eu gwahanol rannau o’r carchar, gan gefnogi addysg o fewn ystafelloedd dosbarth, a gweithio ochr yn ochr â dysgwyr eraill i ddatblygu cynlluniau dysgu a helpu i gynnal asesiadau. Byddwn yn mynd ati i gefnogi mentora gan gyd-garcharorion i ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen arnynt trwy eu hannog i ennill cymwysterau achrededig mewn hyfforddi a mentora, a fydd yn eu tro yn gwella eu cyflogadwyedd hwythau.

Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

Drwy sicrhau bod pob dysgwr mewn carchar yn cael ei asesu ar gyfer unrhyw gymorth sydd ei angen arno i'w helpu i ddysgu. Bydd yr wybodaeth o'r asesiadau hyn yn cael ei defnyddio i roi cymorth ac adnoddau perthnasol i'r dysgwr i'w alluogi i gymryd rhan yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth yn y carchar, ac i ennyn ei ddiddordeb. Dylai fod gan staff sy'n darparu addysg mewn carchardai y sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer rheoli'r rhai ag anghenion a nodwyd, a dylent gael mynediad at gymorth, gwybodaeth a chyngor arbenigol os oes angen.

Nod 2. Perthnasol ac ymatebol: diwallu anghenion cyflogwyr o ran eu gweithlu

Sylwadau partneriaethau sgiliau rhanbarthol a chyflogwyr

Mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol a chyflogwyr mewn gwahanol sectorau wedi dweud wrthym eu bod yn wynebu heriau recriwtio i swyddi gwag ac yn poeni am brinder sgiliau nawr ac yn y dyfodol.

Mae addysg yn rhoi gwell cymwysterau, gwell swyddi, ac ati i ti. Ond dim ond os wyt ti'n gwybod am beth ti'n chwilio, ac os yw beth ti wedi'i ddysgu yn berthnasol i'r swyddi sydd allan yna.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i sicrhau bod y cwricwlwm a'r cyrsiau galwedigaethol a gynigir mewn carchardai yn adlewyrchu anghenion y farchnad lafur yng Nghymru.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Deall anghenion y farchnad lafur

Fel bod y dysgu'n cael ei gysylltu'n glir â'r swyddi sydd ar gael ac yn ymateb i'r rheini. Bydd ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn darparu gwybodaeth am ofynion newidiol diwydiannau yn economi Cymru. Bydd y ddarpariaeth ddysgu a sgiliau yn cyd-fynd â safonau diwydiannau, gan gynnwys darparu sgiliau cyflogaeth craidd i wella cyfleoedd dysgwyr i gael gwaith a'u cefnogi i ddod yn gaffaeliad i'w cymunedau nawr ac yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd y ddarpariaeth ddysgu a sgiliau yn cael ei datblygu ar sail anghenion lleol a rhanbarthol.

Cefnogi sefydlu Hybiau Cyflogaeth ym mhob carchar

Bydd hyn yn dod â sefydliadau ac asiantaethau gwahanol o dan yr un to gyda'r nod cyffredin o helpu i baratoi'r rhai sy'n gadael y carchar ar gyfer eu rhyddhau. Bydd yr hybiau yn helpu dysgwyr i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau ac yn cefnogi cyngor ar gyflogaeth a gyrfaoedd, cyngor ar dai, cefnogaeth ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau, gwasanaethau adran Gwaith a Phensiynau'r DU, sefydliadau'r trydydd sector. Gan gydweithio â'n grŵp rhanddeiliaid cyflogadwyedd troseddwyr, bydd Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn datblygu adnodd llwybr dysgu a chyflogadwyedd i holl droseddwyr Cymru sy'n amlinellu'r cymorth a'r gwasanaethau y gallant gael gafael arnynt, yn y carchar a thrwy'r giât, i'w galluogi i barhau â'u dysgu a'u helpu i sicrhau gwaith yn eu sector dewisol.

Gweithio gyda'n partneriaid a chyflogwyr â'r amcan cyffredin o gynyddu i'r eithaf y niferoedd a gaiff eu recriwtio o blith y rhai sy'n gadael y carchar a thynnu sylw at fanteision cymdeithasol hyn

Byddwn yn ymgymryd â'r gwaith o ddeall pryderon cyflogwyr ac yn defnyddio'r wybodaeth i lywio'r broses o ddatblygu pecyn cymorth ar gyfer darpar gyflogwyr sy'n ceisio sicrhau amrywiaeth o fewn eu gweithlu drwy gyflogi pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu a/neu sy'n wynebu llawer o rwystrau i gyflogaeth. Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu diwylliant o adsefydlu o fewn y system cyfiawnder troseddol, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru i annog defnyddio’r system rhyddhau ar drwydded dros dro ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant a gwaith

Hyrwyddo rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru

Ymhlith cyflogwyr sydd wedi mynegi diddordeb mewn cyflogi dysgwyr pan gânt eu rhyddhau, neu sy'n cydnabod manteision cyflogi troseddwyr i greu gwell llif i mewn i'w gweithlu.

Nod 3. Darpariaeth o ansawdd uchel a diwylliant o welliant parhaus: sicrhau bod strwythurau carchardai yn cefnogi'r gwaith o ddarparu addysg, cyflogadwyedd a sgiliau

Sylw gan ddysgwr

Mae dysgwyr wedi dweud wrthym eu bod eisiau i ddarpariaeth ddysgu a sgiliau gael blaenoriaeth yn y carchar, a gallu cael mynediad at amrywiaeth o ddarpariaeth ddysgu a sgiliau perthnasol, mewn amryfal ffyrdd, a fydd wedyn yn eu helpu i newid eu bywydau er gwell ar ôl eu rhyddhau.

Mae hyfforddiant yn allweddol i adsefydlu dysgwr.

Mae gen ti gryts, cryts ifanc yn dod mewn, probleme personol 'da nhw, probleme iechyd meddwl, PTSD ar ôl rhyfel, a phethe fel'nny. A dy'n nhw ddim yn moyn mynd i ystafell ddosbarth gyda phopeth sy'n mynd ymlaen a felly ry'n ni wedi bod yn gofyn os gallwn ni ddod â'r bobl hyn lan i'r safon... Beth os nag yw cryts yn moyn mynd i ystafell ddosbarth?

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i gefnogi dysgwyr i gael mynediad at wersi amrywiol ac arloesol, o ansawdd uchel, sy'n cael eu haddysgu gan weithwyr proffesiynol cymwys a brwdfrydig sy'n arbenigwyr yn eu maes ac sydd â mynediad at gyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus i sicrhau bod y dechnoleg, yr arferion a'r damcaniaethau diweddaraf yn rhan annatod o daith y dysgwr.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Cefnogi dull sefydliad cyfan

O ymdrin â darpariaeth ddysgu a sgiliau mewn carchardai, gan weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi yng Nghymru i sicrhau bod y strwythurau angenrheidiol yn eu lle i fod yn ganolog i drefn carchardai. Bydd penaethiaid dysgu a sgiliau yn cymryd trosolwg strategol a byddant yn cael eu hymgorffori yn uwch dîm rheoli'r carchar. Byddant yn cael eu grymuso i arwain y gwaith o gydgysylltu system y carchar cyfan o nodi, cefnogi a gweithio gyda charcharorion â'u hanghenion o ran dysgu a datblygu.

Cydweithio ar raglen "Cyflwyniad i ddarparaiaeth ddysgu a sgiliau mewn carchardai"

Gallwn gyflwyno'r rhaglen ar draws y rhwydwaith carchardai ar gyfer pawb sy'n gweithio gyda charcharorion, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt fel staff carchardai i sicrhau gwasanaeth effeithiol. Dylid darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol priodol i sicrhau bod gan yr holl staff mewn carchardai ddealltwriaeth glir o'r rôl sylfaenol y maent yn ei chwarae i wneud dysgu'n rhan annatod o bob achlysur pan fyddant yn ymdrin â charcharorion.

Annog cydweithio a sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu

Mae strwythur cydweithredol i'r gwasanaeth carchardai yng Nghymru eisoes, ond rydym yn bwriadu sefydlu rhwydwaith arfer gorau ar gyfer arweinwyr dysgu a sgiliau a holl athrawon carchardai Cymru i ddysgu gan ei gilydd a rhannu adnoddau. Dylai'r rhwydweithiau hyn gysylltu â chydweithwyr o'n sectorau addysg bellach (AB) ac addysg uwch (AU) i rannu arbenigedd cwricwlaidd ac ymchwilio i'r posibiliadau am gyfleoedd secondio a datblygu.

Hyrwyddo dull cyfunol o ddysgu

Mae'r gwersi a ddysgwyd trwy bandemig COVID-19 wedi tanlinellu pwysigrwydd datblygu dull cyfunol o ddysgu a'r cyfleoedd y gall agwedd flaengar at ddigideiddio'r ystâd carchardai eu darparu. Byddwn yn cefnogi Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru i wella profiadau dysgwyr trwy gynyddu eu gallu technolegol.

Y Gymraeg

Mae ein hiaith yn rhan o'r hyn sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Byddwn yn darparu'r amodau angenrheidiol i hwyluso defnydd cynyddol o'r Gymraeg yn narpariaeth ddysgu a sgiliau yr ystâd carchardai. Byddwn yn rhoi cyfle i garcharorion sy'n bwrw'u dedfrydau yng Nghymru, yn ogystal â staff, ddatblygu eu sgiliau Cymraeg trwy ddarparu cyrsiau Cymraeg, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio'r Gymraeg, er enghraifft, cynnal grwpiau sgwrsio Cymraeg, sesiynau "Gwrando ac Ymlacio" yn Gymraeg yn y llyfrgell, ac ati. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i gynyddu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg mewn carchardai yng Nghymru, ac i addasu'r ddarpariaeth hon ar gyfer menywod sy'n bwrw'u dedfrydau mewn carchardai yn Lloegr.

Nod 4. Darpariaeth sydd wedi'i gwreiddio ac yn gynhwysol: sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth ddysgu a sgiliau, yn y carchar a thrwy'r giât

Sylw gan ddysgwr

Dywedwyd wrthym y dylid ymgorffori darpariaeth ddysgu a sgiliau ar draws pob agwedd ar fywyd yn y carchar ac y dylai barhau ar ôl i ddysgwyr gael eu rhyddhau.

Rwy'n falch ei fod e'n opsiwn yma (Cymru'n Gweithio) achos byddwn wedi cael trafferth cael y swydd ro'n i ei hangen pan ges i fy rhyddhau. Rwy'n gadael y carchar gyda job! Alla i ddim diolch digon i'r Ymgynghorydd. Mae wedi bod yn anhygoel.

Dydyn nhw ddim yn cael eu gwthio yn y dosbarth. Mae arnyn nhw angen cymhelliad. Allwn ni gynyddu ein tâl ar gyfer addysg? Achos mae rhai merched sydd ddim yn cael arian o'r tu allan yn gorfod gweithio fel bod ganddyn nhw arian pan fyddan nhw mas. Cyn-ddysgwr, Ymddiriedolaeth Nelson.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i gryfhau ei rhaglenni cyflogaea sgiliau a sicrhau eu bod yn ymateb yn fwy i anghenion dysgwyr yn y carchar a dysgwyr sy'n cael eu rhyddhau.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Helpu troseddwyr benywaidd

Gall ymyriadau dysgu a sgiliau fod yn gymhleth i fenywod yng Nghymru sy'n cyflawni troseddau ac sy'n cael eu rhoi yn y ddalfa, gan fod yr ystadau diogel wedi'u lleoli yn Lloegr ar hyn o bryd. Byddwn yn datblygu ein partneriaeth gydweithredol â Llywodraeth y DU ymhellach i sefydlu llwybr dysgu ar gyfer menywod sydd wedi'i alinio â Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru. Mae canolbwyntio ar gyflogadwyedd, lles ac edrych ar gymorth o safbwynt trawma yn cefnogi'r broses o bontio o'r ddalfa yn ôl i Gymru ac yn rhoi gwell cyfle i fenywod ddatblygu mewn perthynas â chyflogaeth a hyfforddiant.

Gwneud ein rhaglenni cyflogadwyedd yn fwy hygyrch

I ddysgwyr drwy gynyddu ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael drwy Cymru'n Gweithio a fydd, ochr yn ochr â hyfforddwyr gwaith Adran Gwaith a Phensiynau'r DU, yn cysylltu pobl â rhaglenni cyflogadwyedd a gwasanaethau cymorth eraill.

Gwneud y Warant i Bobl Ifanc yn fwy hygyrch

I bobl ifanc yn yr ystâd ddiogel. Mae'r warant yn tynnu amrywiaeth o raglenni a mentrau at ei gilydd a gynlluniwyd i ddarparu'r cymorth iawn ar yr adeg iawn ar gyfer anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Drwy Cymru'n Gweithio, byddwn yn sicrhau bod pawb o dan 25 oed yn cael yr help sydd ei angen arnynt i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a chymorth i gael gwaith neu i fynd yn hunangyflogedig.

Mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau hanfodol

Bydd helpu dysgwyr i wella'u sgiliau hanfodol tra byddant yn y carchar yn arwain at fwy o fynediad at gyfleoedd i gael gwaith neu i ddysgu rhagor pan gânt eu rhyddhau. Rydym yn gweithio i sicrhau bod pob carcharor yng Nghymru yn ymgymryd ag asesiad sgiliau hanfodol a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu dysgwyr i ddatblygu a gwella safon eu sgiliau. Byddwn yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru i barhau i brofi a mynd i'r afael ag anghenion dysgwyr mewn carchardai o ran sgiliau hanfodol a sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu defnyddio i lywio cynlluniau dysgu pan fydd dysgwyr yn pontio i'r gymuned neu gyflogaeth.

Annog dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a gwneud cynnydd

Gwneir hyn drwy gefnogi Llywodraethwyr i archwilio ffyrdd arloesol o roi cydnabyddiaeth am hyfforddiant dysgu a sgiliau. Er enghraifft, drwy gyflwyno buddion ychwanegol fel rhagor o ymweliadau ac amser hamdden ychwanegol, i'r rhai sy'n dangos ymrwymiad a chynnydd.

Cefnogi cynnydd dysgwyr

Byddwn yn cyflawni hyn drwy weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i ddatblygu partneriaethau ymhellach â darparwyr addysg bellach, addysg uwch a dysgu seiliedig ar waith i gynyddu cofrestriadau i ddarpariaeth brif-ffrwd. Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r opsiynau o ran sicrhau bod mwy o ddarpariaeth ar gael, gan gynnwys rhagor o fodiwlau mynediad gyda'r Brifysgol Agored, fel y gall dysgwyr gael profiad o astudio ar y lefel hon cyn ymrwymo i gwrs gradd a'i ariannu eu hunain.

Cefnogi cymwyseddau digidol dysgwyr

Mae cymhwysedd digidol yn rhagofyniad sylfaenol ar gyfer sicrhau cyflogaeth a pharhau i astudio, yn ogystal ag er mwyn cysylltu â chymdeithas a chyfrannu ati. Mae perygl y bydd carcharorion yn disgyn ymhellach ar ei hôl hi mewn byd sy'n gofyn am sgiliau digidol ym maes dysgu a sgiliau, mewn gwaith ac yn eu bywydau personol. Felly, rhaid rhoi cyfle i ddysgwyr mewn carchardai ddefnyddio a gwella eu sgiliau digidol yn y carchar. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i ddatblygu adnoddau i'w rhannu a gweithio tuag at ddarparu systemau TGCh a digidol cyfoes yn y carchar i sicrhau mynediad hyblyg at ddysgu.

Llyfrgelloedd carchardai

Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella mynediad at lyfrgelloedd mewn carchardai yng Nghymru. Diben llyfrgell carchar yw cefnogi ailsefydlu ac adsefydlu carcharorion a rhoi gweithgaredd pwrpasol iddynt. Mae canolbwyntio ar wella llythrennedd ac ar rwystrau eraill rhag ailsefydlu effeithiol yn cynorthwyo carcharorion i bontio o'r ddalfa i'r gymuned. Mae cael mynediad i lyfrgelloedd carchardai yn dod yn rhan hanfodol o amgylchfyd carcharorion, gan y bydd hynny'n cefnogi unrhyw drywydd dysgu y gallai carcharor fod yn ei ddilyn yn ogystal â bod yn ffactor pwysig o ran ei adsefydlu. Ochr yn ochr â'r manteision dysgu, mae llyfrgell carchar hefyd yn cynnig teimlad o normalrwydd i'w defnyddwyr, gan roi cyfle iddynt wneud dewisiadau annibynnol a phlesio'u hunain. Byddwn yn gweithio gyda'r Awdurdodau Lleol perthnasol a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i adolygu'r ddarpariaeth bresennol a nodi cyfleoedd i'w gwella a'i datblygu.

Astudiaeth achos

Hyfforddiant a ariennir gan ReAct+ yng ngharchar Abertawe.

Adborth gan ddysgwr

Rwy'n mwynhau hyn yn fawr a doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai gen i gyfle i ennill sgiliau ymarferol, wedi'u hachredu o fewn carchar ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at astudio ymhellach.

Dywedodd ymgynghorydd Gyrfa Cymru

Rwyf wedi bod yn gweithio yng Ngharchar Ei Fawrhydi yn Abertawe ers tua dwy flynedd. Pan lansiwyd yr hyb cyflogaeth yn y carchar roedd arweinydd cyflogaeth y carchar a finnau'n awyddus i'r carcharorion gymryd rhan mewn cynifer o gyfleoedd uwchsgilio â phosibl. Roedd y cysylltiadau cyflogaeth yn tyfu ac, wrth edrych ar y farchnad lafur, roeddem yn gallu gweld bod adeiladu'n sector a oedd yn tyfu. Roedd yn gwneud synnwyr i'r dynion gwblhau cymaint o hyfforddiant â phosibl yn y carchar cyn cael eu rhyddhau, a'u rhoi nhw mewn cysylltiad â chyflogwyr/cyfleoedd gwaith posibl. Y nod fyddai lleihau'r cyfnod pan nad oedd rhywun mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa. Gweithiodd Cymru'n Gweithio a Llywodraeth Cymru gyda'i gilydd i ddod â'r cynnig o gyllid ReAct+ i garchar Abertawe. Cyflogais ddarparwr hyfforddiant i gyflwyno pecyn hyfforddi yng ngharchar Abertawe y gallai'r dynion ei gwblhau. Fe drafodais y pecyn gyda chyflogwyr posibl i sicrhau y byddai'n werth chweil yn ogystal ag edrych ar hysbysebion swyddi. Hyd yn hyn, rydym wedi rhoi 3 dyn trwy raglen adeiladu 5 pecyn, gyda 3 arall yn dechrau'r wythnos nesaf. Mae'r rhaglen wedi cael derbyniad da yng ngharchar Abertawe.

Mae'r adborth gan y dynion sydd wedi cwblhau'r cwrs yn hynod gadarnhaol ac mae pob un ohonynt wedi mynd i bob sesiwn.

Rydym nawr yn bwriadu parhau i gynnig cyllid ReAct+ yng ngharchar Abertawe ac rydym am ymchwilio i gynlluniau hyfforddi eraill. Rydym yn edrych ar forklift counterbalance a reach ynghyd â chyrsiau toi sydd wedi cael eu lansio mewn carchardai eraill ledled y DU.

Mae dau o'r dynion wedi cael swyddi i fynd iddyn nhw ar ôl cael eu rhyddhau. Mae un arall wedi cael ei drosglwyddo i garchar y Parc, felly mae'r gefnogaeth yn parhau ac nid yw rhai yn fy ardal i bellach, ond rydym yn gweithio gydag Adran Gwaith a Phensiynau'r DU i gadarnhau eu statws cyflogaeth.

Monitro

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn cael ei gefnogi drwydrefniadau monitro cadarn a fydd yn asesu cynnydd yn erbyn y pedwar nod, y camau gweithredu a'r canlyniadau a nodir yn y polisi hwn.

Er mwyn sicrhau bod y polisi hwn wedi'i ymgorffori yn y broses o gynnig darpariaeth ddysgu a sgiliau mewn carchardai, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru i archwilio'r opsiynau o ran sicrhau bod unigolion yn gyfrifol am arwain y gwaith o yrru pedwar nod y polisi hwn ymlaen, sef:

  • Hyblyg ac ystwyth
  • Perthnasol ac ymatebol
  • Darpariaeth o ansawdd uchel a diwylliant o welliant parhaus
  • Darpariaeth sydd wedi'i gwreiddio ac yn gynhwysol

Darparaiaeth ddysgu plant yn y ddalfa

Mae'r polisi hwn wedi'i fwriadu ar gyfer yr ystâd carchardai i oedolion. Fodd bynnag,bydd rhai o'r nodau yn y polisi ar gyfer addysg i droseddwyr hefyd yn berthnasol i bobl ifanc mewn dalfeydd ieuenctid. Mae'r plant a'r bobl ifanc o fewn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn aml yn dod o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, ac mae gan lawer ohonynt anghenion cymhleth gan gynnwys anawsterau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, ac yn aml maen nhw eu hunain wedi dioddef yn sgil troseddu. Bydd plant a phobl ifanc sydd yn y ddalfa yn cael eu cefnogi mewn sawl ffordd drwy gydol eu dedfryd: bydd rhai agweddau ar y cymorth hwn yn gyffredin ar draws yr ystâd ddiogel; a bydd eraill yn benodol i blant a phobl ifanc.

I blant yn y ddalfa, dylid ystyried amser a dreulir yn yr ystâd ddiogel fel cyfle i'w haddysgu mewn amgylchedd a luniwyd i'w hysbrydoli bod ffordd arall o fyw yn bosibl. Mae gan addysg, felly, ran allweddol i'w chwarae wrth adsefydlu plant yn effeithiol yn yr ystâd ddiogel. Mae rôl addysg, fel piler allweddol wrth adsefydlu plant a phobl ifanc yn effeithiol, yn ategu'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid a'r Fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru 2018 to 2023. Rydym hefyd eisiau i blant sy'n cael eu haddysgu mewn dalfeydd ieuenctid elwa ar bolisïau a rhaglenni ehangach Cymru fel diwygio'r system anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm i Gymru.

Ein Partneriaid Cyflawni: rolau a chyfrifoldebau

Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfeiriad strategol a chyllid priodol i Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o gynnig darpariaeth ddysgu a sgiliau yng ngharchardai Cymru a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc. Mae hefyd yn gyfrifol am oruchwylio addysg troseddwyr mewn carchardai a sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu drwy'r Grŵp Rhanddeiliaid Dysgu, Cyflogadwyedd a Chyflogaeth Troseddwyr.

Carchardai yn Lloegr

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda charchardai yn Lloegr sy'n cynnwys menywod a fydd yn dychwelyd i Gymru unwaith y byddant yn cael eu rhyddhau, i sicrhau bod y menywod hyn yn cael cyfleoedd dysgu priodol a gwybodaeth am faterion yn ymwneud â chyflogadwyedd i gefnogi proses ailsefydlu llwyddiannus mewn cymunedau yng Nghymru.

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, Cymru

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru yn gyfrifol am gyflwyno darpariaeth ddysgu a sgiliau yng ngharchardai Caerdydd, Abertawe, Brynbuga a Phrescoed. Mae hefyd yn rheoli'r contractau addysg a sgiliau ar gyfer carchar y Berwyn a charchar y Parc, sy'n cael eu darparu gan ddarparwyr allanol. 

Mae'r Gwasanaeth Prawf yn wasanaeth cyfiawnder troseddol statudol sy'n goruchwylio troseddwyr sy'n cael eu rhyddhau i'r gymuned, tra'n diogelu'r cyhoedd.

Mae cydweithio a rhannu arfer gorau ymhlith y rhwydwaith yng Nghymru yn hanfodol er mwyn gwella'r ddarpariaeth ddysgu yn barhaus.

Adran Gwaith a Phensiynau'r DU

Mae Adran Gwaith a Phensiynau'r DU yn gweithio mewn carchardai i ddarparu cefnogaeth a choetsio i gael gwaith. Bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau'r cydweithio gydag Adran Gwaith a Phensiynau'r DU a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i wneud y gorau o'r ddarpariaeth genedlaethol i ddiwallu anghenion grwpiau blaenoriaeth. Gwella ymgysylltiad cynnar a chynllunio ar y cyd yng Nghymru o ran llunio a defnyddio ymyriadau i wneud y gorau o'r ddarpariaeth genedlaethol er budd pawb, a diwallu anghenion grwpiau blaenoriaeth a difreintiedig yn y ffordd orau.

Estyn

Mae Estyn yn gweithio ochr yn ochr ag Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi i gefnogi arolygiadau ar y cyd. Estyn yw'r arolygwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Ei swyddogaeth yw darparu gwasanaeth arolygu a chynghori annibynnol ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant a ddarperir yng Nghymru. Mae'r un safonau yn berthnasol i addysg mewn carchardai ag i Addysg Bellach.

Cymru’n Gweithio

Bydd gwasanaeth Cymru'n Gweithio, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yn darparu cyngor cyflogadwyedd cynhwysfawr a diduedd i droseddwyr o fewn yr ystâd carchardai ddiogel ac yn gweithio gyda gwasanaethau prawf yn y gymuned. Bydd yn symleiddio mynediad, yn teilwra cyngor ac ymyriadau i ddiwallu anghenion unigolion, ac yn cydlynu'r cymorth sydd ar gael i helpu pobl i leihau a goresgyn rhwystrau rhag cael gwaith. Atynt hwy yr atgyfeirir dysgwyr mewn carchardai sy'n dangos ymrwymiad i ddatblygu eu sgiliau er mwyn cael mynediad at raglenni cymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ac eraill. Bydd cynghorwyr yn sicrhau bod digon o gymorth ar waith yn barod ar gyfer adeg rhyddhau pobl o'r carchar i sicrhau bod digon o gymorth cofleidiol yn cael ei ddarparu iddyn nhw o ran gyrfaoedd a chyflogadwyedd drwy'r Hybiau Cyflogaeth.

Mae Hybiau Cyflogaeth yn cael eu datblygu ar sail amlasiantaethol ym mhob carchar yng Nghymru, ac wrth symud ymlaen bydd Cymru'n Gweithio yn integreiddio ei ddarpariaeth o wasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd o fewn yr ystâd ddiogel. 

Partneriaid Addysgol: Addysg Uwch/Addysg Bellach/Dysgu Oedolion yn y Gymuned a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith

Dylid gwella darpariaeth ddysgu mewn carchardai drwy ymgysylltu â phrifysgolion a cholegau Addysg Bellach a chyfleoedd strwythuredig ar gyfer dysgu seiliedig ar waith. Mae yna gysylltiadau rhwng sefydliadau a charchardai i ddatblygu darpariaeth dysgu a hyfforddiant yn y carchar yn ogystal â sicrhau bod llwybrau clir, gyda gwasanaeth mentora a chymorth priodol ar gael, i unigolion gael parhau â'u haddysg wrth gael eu rhyddhau. Byddai hyn yn gwella'r cynnig i ddysgwyr mewn carchardai, ac i ddysgwyr sy'n dymuno parhau â'u darpariaeth 'drwy'r giât'.

Partneriaid cyflenwi yn y trydydd sector

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed gan ein partneriaid gweithredol yn y trydydd sector i wella'r ddarpariaeth addysg a sgiliau ar draws yr ystâd carchardai yng Nghymru. Gan weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, byddwn yn gweithio i weld y cysylltiadau hyn yn cael eu datblygu ymhellach i ehangu'r ddarpariaeth addysg o fewn yr ystâd carchardai. Dylid cofnodi'r holl ddysgu a wneir drwy sefydliadau'r trydydd sector yn briodol ar gofnodion dysgu a'u hymgorffori o fewn y timau addysg.