Cofnodion Cyngor Partneriaeth y Gymraeg: 22 Chwefror 2024
Cofnod o gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg ar 22 Chwefror 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cofnod
Yn bresennol
Jeremy Miles AS: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Andrew White: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Samuel Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhys Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meurig Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Light: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Bethan Webb: Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050 Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
(Ysgrifenyddiaeth) Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Angharad Mai Roberts: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050
Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Bethan Webb Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050.
Croesawyd 7 aelod newydd i’r Cyngor Partneriaeth yn dilyn prosesi benodi ddiweddar. Hefyd diolchwyd i’r tri aelod a oedd yn camu i lawr ar ddiwedd eu cyfnod am eu gwaith a’u cyfraniad i’r Cyngor ar hyd y blynyddoedd.
Pwyntiau gweithredu
Eitem 1: pynciau poeth
Cafwyd diweddariad gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 yn rhoi rhagflas o waith yr Is-adran yn ystod 2023. Trafodwyd amrywiol feysydd fel technoleg a Dydd Miwsig Cymru. Yn sgil hyn, nodwyd y byddai cyfle i aelodau:
- roi mewnbwn i Raglen Waith 5 mlynedd nesaf y Llywodraeth o 2026 ymlaen
- cynghori ar gynnwys cynlluniau gweithredu blynyddol Cymraeg 2050 yn y dyfodol
Cam gweithredu 1
Ysgrifenyddiaeth i gylchredeg y 'Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg: adroddiad terfynol 2018 i 2024' gyda’r aelodau.
Eitem 2a: Bil y Gymraeg ac Addysg
Cafwyd diweddariad gan swyddog o Lywodraeth Cymru ar Fil y Gymraeg ac Addysg, a’r hyn a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf.
Eitem 2b: cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg (CSCA)
Cafwyd cyflwyniad gan swyddog o Lywodraeth Cymru ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi bod yn weithredol ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol ers Medi 2022. Rhoddwyd braslun o’r targedau a’r ymrwymiadau sydd yn y cynlluniau gan drafod eu llwyddiannau a’u heriau.
Eitem 2c: cydraddoldeb a’r Gymraeg
Oherwydd prinder amser, bydd yr eitem hon yn cael ei haildrefnu ar gyfer un o gyfarfodydd y dyfodol.
Cam gweithredu 2
Ysgrifenyddiaeth i aildrefnu sesiwn ar Gydraddoldeb a’r Gymraeg yn un o gyfarfodydd y dyfodol.
Eitem 3: teclyn cynllunio drafft i gynorthwyo gyda chynllunio ieithyddol ar lefel awdurdod lleol
Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y 'Fframwaith ar gyfer Asesu Risgiau Cynllunio i'r Gymraeg'.
Rhagwelir y gallai'r Fframwaith gefnogi a darparu arweiniad i swyddogion cynllunio awdurdodau lleol wrth iddynt asesu a lliniaru risgiau posibl i'r Gymraeg sy'n deillio o bolisïau a phenderfyniadau cynllunio.
Cafwyd trafodaeth ar ystyriaethau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i’w hystyried mewn fframwaith o’r fath.
(Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.)
Eitem 4: gair o groeso gan y Gweinidog
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ers y cyfarfod diwethaf.
Eitem 5: y cyfrifiad a’r cyd-destun ehangach
Cafwyd cyflwyniad gan Ystadegydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, ar y data diweddaraf am y Gymraeg ac ar y ffynonellau eraill sydd gennym ar allu’r boblogaeth yn y Gymraeg, a sut y cesglir y data hyn.
Gofynnwyd i bawb ystyried dyfodol casglu gwybodaeth am allu yn y Gymraeg wrth drafod y cwestiynau canlynol:
- Pe na bai cyfrifiad yn y dyfodol, sut mae:
- Diffinio siaradwyr Cymraeg?
- Mesur nifer y siaradwyr Cymraeg?
(Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.)
Eitem 6: unrhyw fater arall
Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl i Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 a thrafodwyd strwythur cyfarfodydd y dyfodol a chytunwyd yr isod:
- Penderfynwyd anelu i gynnal archwiliad dwfn o bwnc penodol yng nghyfarfodydd y dyfodol fel bod cyfle i graffu’n benodol ar bwnc.
- Cytunwyd mai “y blynyddoedd cynnar” fydd ffocws y cyfarfod nesaf gan gynnwys amrywiol elfennau, er enghraifft:
- Deall mwy am enghreifftiau o ble ceir perthynas dda rhwng ysgolion a chylchoedd meithrin.
- Deall mwy am rôl y sector ymwelwyr iechyd wrth drafod y Gymraeg gyda rhieni.
- Ystyried cynnal cyfarfod estynedig un waith y flwyddyn pan fydd amser yn caniatáu gyda grwpiau ffocws ar bynciau penodol i drafod a rhannu syniadau.
Cam gweithredu 3
Ysgrifenyddiaeth i ystyried cynnal cyfarfod estynedig un waith y flwyddyn pan fydd amser yn caniatáu gyda grwpiau ffocws ar bynciau penodol i drafod a rhannu syniadau.
Pwynt gweithredu
Cam gweithredu 1
Pwynt gweithredu: Ysgrifenyddiaeth i gylchredeg y 'Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg: adroddiad terfynol 2018 i 2024' gyda’r aelodau.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Gwyrdd: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.
Cam gweithredu 2
Pwynt gweithredu: Ysgrifenyddiaeth i aildrefnu sesiwn ar Gydraddoldeb a’r Gymraeg yn un o gyfarfodydd y dyfodol.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Oren: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.
Cam gweithredu 3
Pwynt gweithredu: Ysgrifenyddiaeth i ystyried cynnal cyfarfod estynedig un waith y flwyddyn pan fydd amser yn caniatáu gyda grwpiau ffocws ar bynciau penodol i drafod a rhannu syniadau.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Oren: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.