Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw cyflwynodd Canghellor y Trysorlys asesiad i Senedd y DU gan Drysorlys EF o gyflwr y cyllid cyhoeddus a etifeddwyd gan Lywodraeth Lafur newydd y DU. Nid ydym wedi bod o dan unrhyw gamargraff ynghylch pa mor heriol yw'r sefyllfa economaidd a chyllidol, ac mae'r asesiad heddiw yn darparu rhagor o dystiolaeth echrydus ynglŷn â’r sefyllfa.

Arweiniodd 14 mlynedd o gamreoli economaidd gan y naill lywodraeth Geidwadol ar ôl y llall yn y DU at fwy na degawd o gyni, y fini-gyllideb drychinebus, argyfwng costau byw a chwyddiant a gyrhaeddodd y ffigurau dwbl. Mae eu penderfyniadau wedi gadael y cyllid cyhoeddus mewn cyflwr enbyd.

Ers dros ddegawd, mae economi'r DU wedi gweld twf economaidd gwael, sydd wedi'i achosi gan gynhyrchiant isel mewn termau cymharol. Mae twf economaidd araf yn effeithio'n uniongyrchol ar safonau byw yng Nghymru a ledled y DU. Mae wedi cyfyngu’n ddifrifol hefyd ar y buddsoddiad sydd ar gael i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Mae setliad cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael ei wasgu'n galed dros y 14 blynedd diwethaf ac rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn, gan gynnwys ailflaenoriaethu gwariant. Mae ein setliad ar gyfer 2024-25 hyd at £700m yn is mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant yn 2021, ac mae ein Cyllideb yn 2024-25 £3bn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â GDP ers 2010. Mae gwerth ein cyllideb gyfalaf gyffredinol ar gyfer 2024-25 yn werth hyd at 8% yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant yn 2021. Rydym wedi bod yn glir y bydd 2024-25 yn flwyddyn anodd gan nad yw ein setliad cyllido yn ddigonol i ymateb i'r holl bwysau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu. 

Rwyf yn croesawu'r camau brys y mae Llywodraeth newydd y DU yn eu cymryd i adfer sefydlogrwydd economaidd ac i gymryd stiwardiaeth y cyllid cyhoeddus a ymddiriedwyd iddi o ddifrif. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu anghydfod a streiciau ynghylch cyflogau ar draws y sector cyhoeddus o ganlyniad i fethiant Llywodraeth flaenorol y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. O ganlyniad, mae'r economi wedi bod ar ei cholled a hefyd fywydau beunyddiol pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn. 

Heddiw, cadarnhaodd y Canghellor y camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i gydnabod gwerth y rhai sy'n gweithio ar draws y sector cyhoeddus. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'r undebau llafur i sicrhau setliadau â chyflog teg yng Nghymru sy'n fforddiadwy o fewn ein cyllideb ac sy'n parchu proses y corff adolygu cyflogau annibynnol.

Mae Datganiad y Canghellor wedi dangos difrifoldeb yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth inni fynd ati i baratoi ar gyfer ein cyllideb nesaf. Mae'n ddefnyddiol bod y Canghellor wedi rhoi eglurder cynnar ynghylch amseriad a chwmpas Cyllideb arfaethedig y DU a'i bod hi wedi cadarnhau y byddwn yn mynd yn ôl i ddefnyddio setliadau gwariant aml-flwyddyn sy'n rhoi sicrwydd angenrheidiol i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. 

Rydym yn cydnabod na ellir gwrthdroi'r sefyllfa y mae Llywodraeth newydd y DU wedi'i hetifeddu ar unwaith ac fe fydd yn cymryd amser i'r cyllid cyhoeddus wella. Mae diffygion cyllido sylweddol a phwysau ar wasanaethau cyhoeddus allweddol a bydd angen gwneud dewisiadau a phenderfyniadau anodd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru.

Er gwaethaf yr heriau sydd o'n blaenau, rwy'n hyderus bod gennym, yn Llywodraeth Lafur newydd y DU, bartner ymroddedig a fydd yn gweithio gyda ni ar weledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol Cymru. Byddwn yn cydweithio'n agos â Llywodraeth newydd y DU i osod y sylfaen i sicrhau twf economaidd parhaus, adnewyddu ein gwasanaethau cyhoeddus a chyflymu tuag at sero net, drwy ddull gweithredu newydd sy'n cefnogi ein potensial o ran twf gwyrdd yma yng Nghymru. Gyda ffocws ar y cyd, byddwn yn cydweithio mewn partneriaeth i ddileu rhwystrau a datgloi cyfleoedd mwy uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.