Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn, y cytunwyd arno ar y cyd gan Drysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn dangos uchelgais parhaus y ddwy lywodraeth i sicrhau tryloywder llawn yn fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru ac i wella dealltwriaeth ehangach ohono ac yn benodol y broses gysoni. Mae'r datganiad hwn yn rhoi esboniad o sut y mae'r broses o gysoni treth incwm ar gyfer 2022-2023 yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2025-2026.

Cysoni ar gyfer treth incwm 2022-2023

Ar 11 Gorffennaf 2024, cyhoeddodd CThEF ystadegau alldro treth incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2022-2023.

Mae'r cyhoeddiad yn darparu ffigurau ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru, a'r refeniw treth incwm cyfatebol ar gyfer gweddill y DU a ddefnyddir i gyfrifo Addasiad treth incwm Llywodraeth Cymru i'r Grant Bloc (BGA), fel y'i nodir yn y Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae hyn yn caniatáu i'r cysoniad treth incwm sy'n gymwys i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026 gael ei gyfrifo. Mae'r cysoniad yn rhan arferol o weithredu'r Fframwaith Cyllidol ac mae'n sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar refeniw treth incwm gwirioneddol, yn hytrach na rhagolygon.

Mae cyfrifo'r cysoniad yn gofyn am gymharu'r ffigurau a ragwelir a'r ffigurau alldro ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru ac ar gyfer yr Addasiad i'r Grant Bloc am y flwyddyn 2022-2023. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhagolygon a'r alldro yn cael ei gymhwyso i Gyllideb a chyllid Llywodraeth Cymru yn 2025-26. Nodir cefndir pellach isod, ar ôl y cyfrifiadau.

Mae Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr Addasiadau i'r Grant Bloc yn cael eu cyfrifo ‘fesul band’ (ar gyfer pob un o'r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Mae'r tabl isod yn crynhoi cyfanswm effaith y cysoniad, tra bo cyflwyniad manylach o'r ffigurau gyda dadansoddiad ‘fesul band’ i'w weld yn yr adran gefndir.

Bydd y ddwy gydran gysoni yn cael yr effeithiau canlynol, fel y crynhoir yn y tabl isod:

  • Addasiad i'r Grant Bloc: Mae'r alldro yn uwch nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2022-2023 felly bydd hyn yn cynyddu yr Addasiad i'r Grant Bloc (a thrwy oblygiad yn lleihau grant bloc Llywodraeth Cymru) gan £87m yn 2025-2026.
  • Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Mae'r alldro yn uwch nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2022-2023 felly bydd hyn yn cynyddu ar hunan-ariannu Llywodraeth Cymru gan £140m yn 2025-2026.

Effaith y cysoniad net yw cynnydd o £53m yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026.

Cysoni Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2022-2023 a fydd yn effeithio ar Gyllideb 2025-2026
Treth Incwm 2022-2023 (£m)RefeniwAddasiad i'r Grant BlocSefyllfa'r Gyllideb Net
Rhagolygon adeg Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-20232,478-2,447+30
Alldro2,618-2,535+83
Newid/cysoniad140-87+53

Noder: efallai na fydd y rhifau'n cyfansymi oherwydd talgrynnu.

Diwygiadau i flynyddoedd alldro blaenorol

Yn 2024, cafodd anghysondeb yn nata System PAYE Genedlaethol (NPS) ei ddarganfod gan CThEF. Daeth hyn i’r amlwg pan roedd unigolion wedi cyflwyno ffurflenni hunanasesiad (SA) yn ddigymell ac felly wedi cael eu cysoni yn y system NPS (PAYE) yn ogystal â’r system hunanasesiad (SA), gan arwain at gyfrif ddwywaith eu rhwymedigaethau PAYE. Achosodd hyn i ffigurau ar gyfer data treth incwm yr Alban, Cymru a gweddill y DU nad yw'n deillio o gynilion na difidendau (NSND) gael eu gorbwysleisio gan oddeutu 1% ym mhob blwyddyn hanesyddol. Nid oes unrhyw drethdalwyr wedi talu'r dreth anghywir. Mae'r broses o gynhyrchu'r ffigurau alldro wedi'i chywiro ar gyfer alldro 2022-2023. Mae'r ffigurau o'r blynyddoedd alldro blaenorol (2019-2020 i 2021-2022) wedi'u cywiro yn natganiad ystadegol 2022-2023 CThEF.

Mae alldro treth incwm NSND Cymru a gweddill y DU yn rhan annatod o gyfrifo Addasiadau i'r Grant Bloc gan ei fod yn llywio asesiad o gymharedd refeniw treth yng Nghymru a gweddill y DU adeg datganoli treth, a mynegeio'r Addasiad i'r Grant Bloc dros amser. Yng ngoleuni'r alldro diwygiedig a gyhoeddwyd gan CThEF mae Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r ffactorau cymharedd a ddefnyddir i gyfrifo'r Addasiadau i'r Grant Bloc i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth fwyaf cywir o faint cymharol y boblogaeth adeg datganoli trethi. Dangosir effaith hyn yn y tablau isod.

Band Treth IncwmFfactor cymharedd wedi'i rag-gywiroFfactor cymharedd wedi'i ôl-gywiro
Sylfaenol81.3%81.9%
Uwch39.0%39.0%
Ychwanegol11.4%11.4%

Roedd gan yr anghysondeb hwn oblygiad bach o ran cyllid i Lywodraeth Cymru. Byddai defnyddio'r ystadegau alldro wedi'u cywiro wedi lleihau £0.37m ar y cysoniad positif  dros y ddwy flynedd. Mae Llywodraethau y DU a Chymru wedi cytuno na fydd unrhyw gysoni pellach yn cael ei gwblhau i flynyddoedd sydd eisoes wedi'u cymodi.

Y cefndir

Yn dilyn Deddf Cymru 2017, cafodd pwerau trethu ychwanegol eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2019, cafodd cyfraddau treth incwm y DU ar incwm nad yw’n deillio o gyhnilion na difidendau eu lleihau 10 ceiniog yn y bunt i drigolion Cymru. Enillodd Llywodraeth Cymru'r pŵer i bennu cyfradd Gymreig ym mhob band yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu'r cyfraddau hynny yn 10 ceiniog yn y bunt. Mae CThEF yn gyfrifol am gasglu'r holl Dreth Incwm, gan gynnwys cyfraddau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu'n rhannol gan grant bloc Llywodraeth y DU, ac yn rhannol drwy godi refeniw o drethi datganoledig a benthyca.

Mae'r grant bloc yn cael ei bennu gan y fformiwla Barnett hirsefydlog.

Mae'r grant bloc bellach wedi'i addasu i adlewyrchu effaith trosglwyddo mwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Addasiadau hyn i'r Grant Bloc yn ddidyniadau ar gyfer pwerau trethi. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl refeniw o drethi datganoledig, mae ganddi Gronfa Wrth Gefn i Gymru a phwerau benthyca cyfalaf ac adnoddau gyda therfynau y cytunwyd arnynt.

Ar gyfer benthyca adnoddau, mae gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i fenthyca ar gyfer gwallau a ragwelir mewn perthynas â threthi datganoledig sy'n deillio o ragolygon o dderbyniadau yng Nghymru a rhagolygon cyfatebol y DU ar gyfer yr Addasiadau i'r Grant Bloc, gyda therfyn blynyddol o £200m.

Mae'r refeniw o gyfraddau Cymru a'r Addasiadau cysylltiedig i'r Grant bloc a ddefnyddir yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ragolygon a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae'r rhain yn cael eu pennu cyn y flwyddyn o dan sylw.

Fel y nodir yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru, bydd alldro treth incwm a gyhoeddir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CThEF, a gyhoeddir fel arfer tua 16 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, yn cael ei ddefnyddio wedyn i benderfynu ar addasiadau i gyfrif am wall a ragwelir drwy broses gysoni. Yna caiff unrhyw addasiadau sy'n ofynnol eu cymhwyso i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol wedyn.

O dan y broses hon, bydd cysoniad ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2022-23 yn cael ei gymhwyso i Gyllideb Cymru ar gyfer 2025-2026. Mae'r cysoniad yn cwmpasu refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru a'r Addasiad i'r Grant Bloc.

Dadansoddiad manwl o gysoni alldro Treth Incwm Llywodraeth Cymru
£mSylfaenolUwchYchwanegolCyfanswm
Addasiad i'r Grant BlocRhagolwg-2,102-294-51-2,447
Alldro-2,156-317-62-2,535
Cysoniad-55-22-11-87
  
RefeniwRhagolwg2,098318612,478
Alldro2,225333612,618
Cysoniad12615-1140
  
Cyllid netRhagolwg-3241030
Alldro6816-183
Cysoniad72-7-1153

Noder: efallai na fydd y rhifau'n cyfansymio oherwydd talgrynnu.