Neidio i'r prif gynnwy

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol sy'n gallu darparu hyd at £200 i helpu gyda chost y diwrnod ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i deuluoedd ar incwm is a'r rhai sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol. Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal hefyd yn gymwys i gael y grant.  Gellir ei ddefnyddio i brynu hanfodion ysgol fel gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu ac offer. Mae pob dysgwr oedran blynyddoedd ysgol gorfodol yn gymwys a gall teuluoedd hawlio'r grant unwaith yn ystod blwyddyn ysgol am bob plentyn.

Mae'n rhoi:

  • £125 y plentyn
  • £200 i blant sy'n dechrau ym Mlwyddyn 7

Dywedodd Kathryn Matthews, Rheolwr Ysgolion Bro o Gastell-nedd Port Talbot:

Dywedodd Kathryn Matthews, Rheolwr Ysgolion Bro o Gastell-nedd Port Talbot: "Mae'r cyfnod hwn yn heriol i lawer ohonom ar hyn o bryd. Mae costau byw, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, yn bryder mawr i lawer o deuluoedd. Mae teuluoedd yn dod atom ac yn dweud eu bod yn cyllidebu'n gyson er mwyn gallu sicrhau eu bod yn prynu'r wisg ysgol a'r offer sydd eu hangen ar blant yn yr ysgol

Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn helpu i leddfu peth o'r pryder a'r pwysau ariannol hwnnw. Gall teuluoedd ddefnyddio'r cynllun hwn i helpu i brynu unrhyw wisg ysgol neu offer sydd eu hangen gan sicrhau bod pob plentyn yr un fath â'u cyfoedion.

Mae hwn yn gynllun hynod ddefnyddiol i lawer o deuluoedd, a byddwn yn annog pawb sy'n gymwys i wneud cais.  Caiff ceisiadau eu rheoli'n sensitif, ac os oes angen unrhyw help arnoch i wneud cais, gall eich awdurdod lleol neu ysgol eich plentyn gynnig cymorth i chi. Gall Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd hefyd ddarparu cyngor ac arweiniad am y cynllun hwn.  Os oes gennych hawl i'r Grant Hanfodion Ysgol, sicrhewch eich bod yn ei hawlio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Rwy'n gwybod bod cost y diwrnod ysgol yn cynyddu'r pwysau ar deuluoedd. Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn gynllun hynod bwysig sy'n helpu i leihau'r pwysau hwnnw.

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu mynediad cyfartal at addysg ac mae'r cynllun hwn yn helpu i gyflawni hynny drwy gael gwared ar y rhwystrau ariannol sy'n wynebu llawer o deuluoedd.

Mae cynllun 2024 i 2025 yn agored ar hyn o bryd a bydd yn cau ar 31 Mai 2025.

Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol drwy'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Bob Disgybl Ysgol Gynradd, mae'n hollbwysig edrych i weld a ydych yn gymwys. I weld yw eich plentyn yn gymwys, ewch i'r Grant Hanfodion Ysgol