Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect i adnewyddu ac ailddechrau defnyddio adeilad o Oes Fictoria wedi derbyn cyllid grant yn Y Rhyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hen adeilad Swyddfa'r Post yng nghanol y dref wedi bod yn wag ers bron i ddegawd ac mae ei gyflwr wedi parhau i ddirywio o flwyddyn i flwyddyn.

Bydd y prosiect adnewyddu yn golygu creu gofod masnachol a manwerthu o safon uchel ar y llawr gwaelod yn ogystal â dau fflat preswyl un ystafell wely.

Bydd y ddwy uned yn cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR) 2021 yn ogystal â Safonau Cartrefi Gydol Oes, gan sicrhau bod y cartrefi o safon effeithlonrwydd modern ac yn fforddiadwy.

Bydd hyd at £650,000 yn cael ei ddarparu i Gyngor Sir Ddinbych o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith gwella a throsi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Jayne Bryant:

Rwy'n falch ein bod, trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, yn gallu cefnogi trawsnewid yr adeilad treftadaeth hwn yn ased hirdymor i'r dref.

Rydym yn gwybod bod y galw am unedau adwerthu llai ac un ystafell wely yn uchel yn yr ardal felly mae'n wych gweld y bydd ein Grant Creu Lleoedd yn cefnogi'r gwaith adnewyddu ac yn darparu tai y mae mawr eu hangen ar y gymuned.

Mae dod ag adeiladau gwag a segur yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol yn un o bileri allweddol ein rhaglen Trawsnewid Trefi a byddwn yn parhau â'n gwaith gyda Cyngor Sir Ddinbych i greu canol trefi a dinasoedd bywiog.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

Rwy'n croesawu'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru yn fawr i alluogi Cyngor Sir Ddinbych i gyflawni'r prosiect hwn.

Ynghyd â chynlluniau tebyg eraill ar y Stryd Fawr sy'n derbyn cefnogaeth drwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi ac sydd ar hyn o bryd yn y cam dylunio technegol, bydd yn cyfrannu tuag at gyflawni Uwchgynllun a Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl y cytunwyd arno yn flaenorol drwy godi safon y trawsnewidiadau preswyl yng nghanol y dref a defnyddio lloriau uwch gwag ar gyfer llety preswyl ynghyd â phrosiectau eraill.