Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni baratoi i nodi Diwrnod Hepatitis y Byd 2024 ddydd Sul (28 Gorffennaf), hoffwn achub ar y cyfle i roi diweddariad ar ein hymrwymiad i ddileu hepatitis B a C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a’n cynnydd tuag at gyflawni hyn. 

Feirysau yn y gwaed yw hepatitis B a C, sy’n gallu cael eu trosglwyddo o un person i’r llall. I rai unigolion, mae’n gallu achosi niwed difrifol i’r afu gan arwain at fethiant yr afu. Yn anffodus, rydym yn dal i weld marwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i’r feirysau hyn, er bod y nifer hwn wedi lleihau ac mae’n fach iawn erbyn hyn. 

Mae’r feirysau hyn yn heriol oherwydd, fel arfer, byddant wedi bod yn y corff ers blynyddoedd lawer cyn iddynt achosi unrhyw symptomau. Erbyn i’r symptomau ddechrau ymddangos, mae hyn yn arwydd nad yw’r afu yn gweithio’n iawn mwyach a bod difrod sylweddol wedi’i wneud yn barod. 

Mae hepatitis B yn haint cyffredin ledled y byd. Fel arfer, mae’n cael ei ledaenu o fenywod beichiog sydd wedi’u heintio i’w babanod, neu drwy gyswllt plentyn i blentyn. Gall gael ei ledaenu hefyd drwy ryw heb ddiogelwch a thrwy rannu nodwyddau i chwistrellu cyffuriau. Cafodd nifer anhysbys o bobl yn y DU eu heintio o ganlyniad i’r sgandal Gwaed Heintiedig. 

Mae sgrinio rheolaidd ar gyfer hepatitis B wedi bod yn rhan o’r rhaglen sgrinio cyn geni ers dechrau’r blynyddoedd 2000. Yn 2017, daeth brechiad rhag hepatitis B yn rhan o’r rhaglen brechiadau rheolaidd i blant ac mae cyfraddau derbyn y brechiad yng Nghymru yn 94.5% ar hyn o bryd. Mae’r ymyriadau hyn yn golygu bod hepatitis B yng Nghymru yn awr yn brin mewn plant, ond mae’n parhau i fod yn fater dyrys ymhlith oedolion sydd heb eu brechu.

Mae hepatitis C hefyd yn haint cyffredin ledled y byd, ac er bod cyffredinrwydd yr achosion yn isel yng Nghymru, amcangyfrifir ar hyn o bryd bod gan fwy na 4,000 o bobl sy’n byw yng Nghymru hepatitis C ond nad ydynt yn ymwybodol o hyn. 

Mae’n cael ei ledaenu fel arfer drwy gyswllt gwaed-i-waed ag unigolyn sydd wedi’i heintio. Yng Nghymru, mae’n cael ei ledaenu’n fwyaf cyffredin drwy rannu nodwyddau a ddefnyddir i chwistrellu cyffuriau. Cafodd miloedd o bobl eu heintio o ganlyniad i'r sgandal Gwaed Heintiedig ac mae hefyd yn gysylltiedig ag arferion gwael ym maes gofal iechyd a phigiadau meddygol anniogel y tu allan i'r GIG. 

Gellir trin hepatitis C gyda meddyginiaethau gwrthfeirysol effeithiol iawn, ond nid oes brechlyn i’w gael ar hyn o bryd.

Rydym wedi parhau i wneud cynnydd tuag at ddileu hepatitis B a C ers fy natganiad ysgrifenedig ym mis Chwefror 2023:

  • Mae gan bob bwrdd iechyd a bwrdd cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau gyd-gynlluniau dileu lleol manwl, sy’n nodi amrywiaeth eang o gamau i’w cymryd ar lefel leol. 
  • Mae pob bwrdd iechyd wedi enwi arweinydd gweithredol ac mae ganddynt grwpiau llywio amlasiantaeth lleol i oruchwylio’r cynnydd. 
  • Mae cyllid canolog wedi’i glustnodi ar gyfer swyddi cydgysylltwyr cenedlaethol allweddol tan ddiwedd tymor y Senedd hon. 
  • Mae gennym wasanaeth profi yn y cartref cyfrinachol ac am ddim.

O ganlyniad, rydym wedi gweld:

  • Cyfraddau profi sydd wedi cynyddu unwaith eto yn 2023 ac maen nhw bellach yn rhagori ar y lefelau cyn y pandemig. 
  • Llwyddiannau nodedig mewn lleoliadau allweddol, fel CEM Berwyn yn cyhoeddi dileu hepatitis C yn y carchar.
  • Y nifer uchaf o bobl ers y pandemig yn dechrau ar driniaeth ar gyfer hepatitis C.

Mae ein cynnydd tuag at ddileu hepatitis B a C yn cael ei fonitro’n agos. Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol yn edrych ar y tueddiadau o ran atal, rhoi diagnosis a thrin feirysau a gludir yn y gwaed yng Nghymru. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’r cynnydd yn erbyn y dangosyddion dileu sydd wedi’u pennu gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Hoffwn gofnodi fy niolch am yr holl waith caled sydd wedi cael ei wneud ym mhob cwr o Gymru i gyflawni’r cynnydd hwn. Dros y flwyddyn sydd i ddod, os ydym am gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis B a C erbyn 2030, bydd angen i wasanaethau ganolbwyntio eu hymdrechion ar wella lefelau profi ar draws ystod o wasanaethau.

Rwy'n annog unrhyw un sy’n credu y gallent fod mewn perygl i gael prawf, er mwyn iddynt allu cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt. Gallwch siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am gael prawf neu ddefnyddio’r gwasanaeth profi yn y cartref cyfrinachol am ddim sydd ar gael yng Nghymru. 

Byddaf yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd ar ein hymdrechion i ddileu hepatitis B a C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.