Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 6 Rhagfyr 2022, cyhoeddwyd bwletin ystadegol yn crynhoi canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 ar Y Gymraeg yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi defnyddio data'r Cyfrifiad i gyhoeddi crynodebau pwnc ar Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaethCyfansoddiad cartrefi yng Nghymru o ran y GymraegChyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg ar yr aelwyd yn ôl rhyw.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) dablau data ar sgiliau Cymraeg y boblogaeth sy'n byw yng Nghymru yn ôl cyfeiriadedd rhywiol (SYG)hunaniaeth rhywedd (SYG) o Gyfrifiad 2021. Mae'r datganiad ystadegol hwn yn crynhoi'r canlyniadau hynny.

Mae gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yn y cyfrifiad yn seiliedig ar hunanasesiad unigolion o’u gallu.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell ar gyfer llawer o blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd yr oedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 gwestiynau gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd i bob preswylydd arferol 16 oed neu hŷn. Dyma'r tro cyntaf i gwestiwn am y naill bwnc neu'r llall gael ei ofyn mewn cyfrifiad. 

Mae'r SYG wedi dweud fod amcangyfrifon y cyfrifiad ar gyfer hunaniaeth rhywedd yn destun lefel uwch o ansicrwydd na rhai pynciau eraill. Ceir patrymau yn y data sy'n gyson â phe bai rhai ymatebwyr wedi dehongli'r cwestiwn yn wahanol i'r bwriad. I gael rhagor o wybodaeth am gwestiynau Cyfrifiad 2021, ac arweiniad ar ddehongli'r data yn y bwletin hwn, gweler yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dogfen Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru sy'n cynnwys rhestr o dermau sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Mae terminoleg ym maes LHDTC+ yn parhau i ddatblygu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw adborth ar y derminoleg a ddefnyddir ar gyfer y pwnc hwn. Gweler y cynllun gweithredu i gael gwybodaeth am sut i roi adborth ar derminoleg. Mae'r bwletin hwn yn defnyddio terminoleg sy'n cyd-fynd â'r cwestiynau ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd a ofynnwyd yng Nghyfrifiad 2021.

Prif bwyntiau

Cyfeiriadedd rhywiol a'r Gymraeg

  • Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd tua 13,320 o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn yn uniaethu fel "Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol/Bi", neu gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall (LHD+). Mae hyn yn cynrychioli 3.4% o'r holl siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn.
  • Ymhlith y boblogaeth 16 oed neu hŷn a oedd yn uniaethu fel LHD+, dywedodd 17.3% eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o'u cymharu â 15.3% o bobl a oedd yn uniaethu fel "Heterorywiol/Strêt". Gellir priodoli hyn o leiaf yn rhannol i broffil oedran y boblogaeth sy'n uniaethu fel LHD+ sydd, fel y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg, yn iau na'r boblogaeth gyffredinol.

Hunaniaeth rhywedd a'r Gymraeg

  • Yng Nghyfrifiad 2021, nododd tua 1,380 o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni. Mae hyn yn cynrychioli 0.4% o'r holl siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn.
  • Ymhlith y boblogaeth 16 oed neu hŷn yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, dywedodd 13.4% eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn is na'r gyfran gyfatebol ymhlith y boblogaeth yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni (15.4%).

Cyfeiriadedd rhywiol

Term ambarél sy'n cwmpasu hunaniaeth rywiol, atyniad, cydberthynas, ac ymddygiad yw cyfeiriadedd rhywiol. I ymatebydd unigol, mae'n bosibl na fydd y rhain yn golygu'r un peth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn bwletinau ystadegol ar wahân ar Gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng NghymruGwahaniaethau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn iechyd, addysg a statws economaidd.

Cyfeiriadedd rhywiol a'r Gymraeg

Yng Nghyfrifiad 2021, cofnodwyd bod tua 391,670 o bobl 16 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, ac o'r rhain:

  • roedd 349,180 neu 89.2% o siaradwyr Cymraeg yn uniaethu fel "Heterorywiol/Strêt"
  • roedd 13,320 neu 3.4% o siaradwyr Cymraeg yn uniaethu fel "Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol/Bi", neu gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall (LHD+)

Roedd 29,170 neu 7.4% o siaradwyr Cymraeg wedi dewis peidio ag ateb y cwestiwn gwirfoddol am eu cyfeiriadedd rhywiol. 

I gyfleu hyn mewn ffordd arall, ymhlith y boblogaeth a oedd yn uniaethu fel LHD+, cofnododd 17.3% eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Er bod y gyfradd hon yn uwch na chyfran y siaradwyr Cymraeg ymhlith y boblogaeth a oedd yn uniaethu fel “Heterorywiol/Strêt” yn ogystal â’r boblogaeth gyffredinol 16 oed neu hŷn (15.3% ill dau), gellir priodoli hyn o leiaf yn rhannol i broffil oedran y boblogaeth a oedd yn uniaethu fel LHD+. Mae proffil oedran y boblogaeth LHD+, fel y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg, yn iau na phroffil y boblogaeth gyffredinol. 

Er hynny, pan fyddwn yn archwilio'r data yn ôl grŵp oedran, mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn parhau i fod yn uwch ymhlith y boblogaeth a oedd yn uniaethu fel LHD+ nag ymhlith y boblogaeth a oedd yn uniaethu fel "Heterorywiol/Strêt" ar draws pob grŵp oedran, ac eithrio pobl rhwng 16 a 24 oed a 75 oed neu hŷn.

Ffigur 1: Canran y preswylwyr arferol 16 oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a grŵp oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart far hon yn dangos bod cyfran y siaradwyr Cymraeg ar ei huchaf ymhlith pobl 16 i 24 oed ac yn gyffredinol yn lleihau wrth symud i fyny trwy'r grwpiau oedran hŷn. Roedd hyn yn wir ymhlith y boblogaeth a oedd yn uniaethu fel "Heterorywiol/Strêt" a'r boblogaeth a oedd yn uniaethu fel LHD+.

Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth 2021 (SYG)

Roedd mwyafrif o’r siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel LHD+ yn iau na 30 oed.

Yn ôl Cyfrifiad 2021:

  • roedd 53.7% o'r siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel LHD+ yn iau na 30 oed a 37.5% yn iau na 25 oed
  • roedd 46.0% o'r boblogaeth LHD+ a gofnodwyd nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn iau na 30 oed a 30.1% yn iau na 25 oed

Gan edrych ar y canlyniadau yn ôl awdurdod lleol, gwelwn fod cyfran y siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel LHD+ ar ei huchaf yng Nghaerdydd (8.1%) ac ar ei hisaf ar Ynys Môn (1.9%). Yr un pâr o awdurdodau lleol oedd â'r gyfran uchaf ac isaf o'r boblogaeth a oedd yn uniaethu fel LHD+ ymhlith y boblogaeth gyffredinol yn 2021 (5.3% a 2.0% yn y drefn honno).

O'r 13,320 o bobl a oedd yn uniaethu fel LHD+ ac a gofnodwyd y gallent siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021:

  • roedd 2,310 (17.3%) yn byw yng Nghaerdydd, o'u cymharu â 7.0% o siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel "Heterorywiol/Strêt"
  • roedd 1,290 (9.7%) yn byw yng Ngwynedd, o'u cymharu â 15.2% o siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel "Heterorywiol/Strêt"
  • roedd 1,140 (8.5%) yn byw yn Sir Gaerfyrddin, o'u cymharu â 14.9% o siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel "Heterorywiol/Strêt"

Y tri awdurdod lleol hyn oedd â'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel LHD+ yng Nghymru.

Ffigur 2: Canran y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn a oedd yn uniaethu fel Hoyw, Lesbiaidd, Deurywiol neu gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall, yn ôl awdurdod lleol [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r map hwn yn dangos bod cyfran y siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel LHD+ ar ei huchaf yn ne-ddwyrain Cymru ac yn is yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.

Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth 2021 (SYG)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau a gofnodwyd wedi'u cyfrifo drwy gynnwys y boblogaeth a oedd wedi dewis peidio ag ateb y cwestiwn gwirfoddol am eu cyfeiriadedd rhywiol yng Nghyfrifiad 2021 yn yr enwadur.

Gall y gyfran fwy o siaradwyr Cymraeg a oedd yn uniaethu fel LHD+ mewn awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain fod yn gysylltiedig â demograffeg siaradwyr Cymraeg yn yr awdurdodau lleol hyn. Mae siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn ne-ddwyrain Cymru yn tueddu i fod yn iau nag mewn ardaloedd lle mae cyfrannau uwch o siaradwyr Cymraeg. Fel y soniwyd eisoes, gwyddom hefyd fod cyfran uwch o bobl a oedd yn uniaethu fel LHD+ mewn grwpiau oedran iau nag yn y boblogaeth yn gyffredinol.

Hunaniaeth rhywedd

Mae hunaniaeth rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad unigolion o’u rhywedd eu hunain, p'un a yw rhywun yn ddyn, yn fenyw neu'n uniaethu â hunaniaeth ychwanegol, fel anneuaidd. Gall fod yr un peth â'r rhyw a gofrestrwyd adeg geni, neu gall fod yn wahanol.

Mae'r cwestiwn yn y cyfrifiad a'r amcangyfrifon ar gyfer hunaniaeth rhywedd yn destun lefel uwch o ansicrwydd na rhai pynciau eraill. Gweler yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

Hunaniaeth rhywedd a'r Gymraeg

Ymhlith y boblogaeth 16 oed neu hŷn a gofnodwyd fel rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021:

  • roedd 367,390 neu 93.8% o siaradwyr Cymraeg wedi cofnodi fod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni
  • roedd 1,380 neu 0.4% o siaradwyr Cymraeg wedi cofnodi fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni (mae hyn yn cynnwys dynion traws, menywod traws, pobl â hunaniaeth rhywedd arall, gan gynnwys "anneuaidd", a phobl nad oeddent yn darparu hunaniaeth benodol)

Roedd 22,920 neu 5.9% o siaradwyr Cymraeg eraill wedi dewis peidio ag ateb y cwestiwn gwirfoddol am eu hunaniaeth rhywedd.

Dylid nodi bod rhai o'r niferoedd sy'n sail i'r data ar hunaniaeth rhywedd yn gymharol fach, yn enwedig ar gyfer grwpiau oedran hŷn ac awdurdodau lleol llai. Mae hyn yn golygu y gallai unrhyw wahaniaethau yng ngallu siarad Cymraeg rhai o’r grwpiau llai hyn gael eu heffeithio gan y lefelau uwch o ansicrwydd yn y data hunaniaeth rhywedd. Mae’n bosibl, felly, na fyddai’n briodol gwneud cymariaethau rhwng rhai grwpiau.

Ymhlith y boblogaeth 16 oed neu hŷn yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, dywedodd 13.4% eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn is na'r gyfran gyfatebol ymhlith y boblogaeth yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni (15.4%).

Mae'r duedd hon hefyd yn amlwg ymysg y rhan fwyaf o grwpiau oedran.

Ffigur 3: Canran y preswylwyr arferol 16 oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl p’un ai bod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni ai peidio

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart far hon yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg yn is ymhlith y boblogaeth yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni na siaradwyr Cymraeg yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni. Roedd hyn yn wir ar gyfer pob grŵp oedran, ar wahân i bobl 75 oed neu hŷn. Mae’r niferoedd y tu ôl i’r data ar gyfer pobl 75 oed neu hŷn yn gymharol fach ac felly efallai y bydd y lefelau uwch o ansicrwydd yn yr amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd yn effeithio arnynt.

Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth 2021 (SYG)

Roedd proffil oedran y boblogaeth yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni gryn dipyn yn iau na phroffil y boblogaeth gyffredinol. 

Ymhlith y boblogaeth yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg geni:

  • roedd 44.9% o'r bobl a gofnodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn iau na 25 oed
  • roedd 28.1% o'r bobl a gofnodwyd nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn iau na 25 oed

Roedd cyfran y siaradwyr Cymraeg yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni ar ei huchaf yng Nghaerdydd (0.7%) ac ar ei hisaf yn Sir Ddinbych ac ar Ynys Môn (0.2% ar gyfer y ddau).

Ffigur 4: Canran y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, yn ôl awdurdod lleol [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r map hwn yn dangos bod cyfran y siaradwyr Cymraeg y mae eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni ar ei huchaf yn ne-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu'r patrwm a welir ymhlith y boblogaeth a oedd yn uniaethu fel LHD+ yn Ffigur 2.

Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth 2021 (SYG)

[Nodyn 1] Mae'r canrannau a gofnodwyd wedi'u cyfrifo drwy gynnwys y boblogaeth a oedd wedi dewis peidio ag ateb y cwestiwn gwirfoddol am eu hunaniaeth rhywedd yng Nghyfrifiad 2021 yn yr enwadur.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa o dermau, ewch i adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Gellir dod o hyd i wybodaeth am ansawdd sy'n benodol i ddata'r cyfrifiad ar gyfer y pwnc hwn ar dudalennau Cyfrifiad 2021, sef Gwybodaeth am ansawdd data am y Gymraeg (SYG)Gwybodaeth ansawdd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd (SYG).

Rheoli datgelu ystadegol

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth y SYG newidiadau i rai tablau data (a elwir yn rheoli datgelu ystadegol) fel nad yw'n bosibl adnabod unigolion. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Cyfnewid cofnodion (wedi'i dargedu), er enghraifft, os yw aelwyd yn debygol o gael ei hadnabod mewn setiau data oherwydd ei nodweddion anarferol, gwnaethant gyfnewid y cofnod gydag un debyg o ardal fach gyfagos. Gellid cyfnewid aelwydydd anarferol iawn gydag un mewn awdurdod lleol cyfagos.
  • Gwneud newidiadau bach i rai niferoedd (aflonyddu ar lefel cell ddata), er enghraifft, newid cyfrif o bedwar i dri neu bump. 

Mae hyn yn achosi newidiadau bach i gelloedd ond nid yw'n effeithio'n sylfaenol ar ystyr y data. Gallai gwahaniaethau yn y dulliau a ddefnyddir i reoli datgeliadau ystadegol arwain at fân-wahaniaethau yng nghyfansymiau data rhwng gwahanol allbynnau’r cyfrifiad. Efallai y bydd ffigurau mymryn yn wahanol yn cael eu cynnwys mewn datganiadau yn y dyfodol yn sgil effaith talgrynnu a defnyddio prosesau ystadegol pellach.

Mesur y data

Y Gymraeg

Roedd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru yn cynnwys cwestiwn ynglŷn â gallu pobl i ddeall Cymraeg llafar, siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ac ysgrifennu yn Gymraeg. I bobl Cymru yn unig y gofynnwyd y cwestiwn hwn. Nid yw'r cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am ba mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg, nac am ba mor dda y maent yn siarad yr iaith.

Mae cwestiynau'r cyfrifiad am sgiliau Cymraeg wedi'u seilio ar hunanasesiad unigolion o’u gallu. Roedd y canllawiau ar gyfer cwblhau'r cyfrifiad yn nodi, os ydych yn byw yng Nghymru, mai chi sydd i benderfynu p'un a ydych yn gallu siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ysgrifennu yn Gymraeg a/neu ddeall Cymraeg llafar. Gofynnwyd i bobl ddewis yr holl opsiynau a oedd yn wir amdanyn nhw. Fodd bynnag, ni fydd pawb wedi darllen y cyfarwyddyd hwn ac efallai eu bod wedi dewis un opsiwn yn unig.

Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn asesu a chofnodi eu sgiliau, a gall amrywio o berson i berson. Mewn rhai achosion, unigolyn arall oedd yn cofnodi eu sgiliau Cymraeg. Efallai nad yw eu hasesiad nhw o sgiliau Cymraeg yr unigolyn yr un fath ag asesiad yr unigolyn ei hun.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ar 21 Mawrth 2021. Roedd yn dilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am sut mae'r cyfrifiad yn cyd-fynd â ffynonellau data eraill ar y Gymraeg, gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg yn ein datganiad blaenorol ar y Gymraeg yng Nghymru.

Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y SYG. Gall defnyddwyr hefyd ddarllen am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd (SYG). Gellir dod o hyd i eirfa o dermau yng Ngeiriadur Cyfrifiad 2021 (SYG).

Mae'r SYG wedi dweud fod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer hunaniaeth rhywedd yn destun lefel uwch o ansicrwydd na rhai pynciau eraill. Ceir patrymau yn y data sy'n gyson â phe bai rhai ymatebwyr wedi dehongli'r cwestiwn yn wahanol i'r bwriad. Er enghraifft, roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn uwch ar gyfer pobl nad y Gymraeg na'r Saesneg oedd eu prif iaith na'r boblogaeth gyffredinol. Roedd yn uwch eto ymhlith pobl nad oeddent yn siarad Cymraeg na Saesneg yn dda o gwbl. Felly, rhaid bod yn arbennig o ofalus wrth ddehongli'r data. Gweler yr adroddiad ar ansawdd data Cyfrifiad 2021 ar hunaniaeth o ran rhywedd (SYG) am ragor o wybodaeth.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi crynodebau pwnc ar wahân ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yng Nghymru o Gyfrifiad 2021:

Dylai defnyddwyr nodi nad yw'r cwestiynau ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd a ofynnir yng Nghyfrifiad 2021 yn annibynnol ar ei gilydd. Gallai unigolion fod wedi cofnodi bod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, ac ar yr un pryd uniaethu fel "Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol/Bi" neu gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall. Felly, ni ellir cyfuno'r ffigurau a ddyfynnwyd ym mhob adran o'r datganiad hwn yn ystyrlon i gael cyfanswm nifer y bobl LHDTC+ sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru.

Canrannau oedran-benodol

Mae'r dadansoddiad yn y datganiad hwn yn cynnwys canrannau oedran-benodol. Nid oes safoni yn ôl oedran wedi cael ei wneud.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU)

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig a gafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Mehefin 2022. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007. 

Datganiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Lluniwyd yr ystadegau hyn yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021 a gyhoeddwyd gan y SYG. Mae Cyfrifiad 2021 wedi cael ei achredu fel Ystadegau Gwladol a bu’n destun proses achredu drylwyr (SYG) gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Gallwch ddarllen mwy am ansawdd a methodoleg data’r cyfrifiad drwy ddarllen yr adroddiad ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 (SYG).

Yn y datganiad hwn, rydym wedi cynnwys datganiad ansawdd a methodoleg er mwyn bod yn glir ac yn dryloyw ynglŷn â’n prosesau drafftio a chyhoeddi.

Ansawdd

Cafodd y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael a chan ddilyn dulliau gan ddefnyddio eu sgiliau dadansoddi a'u barn broffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys gwaith dilysu annibynnol gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru ar holl elfennau'r prosesau llunio a drafftio, yn ogystal ag adolygiad ar wahân gan gydweithwyr yn y SYG.

Cyn i'r datganiad gael ei gyhoeddi, caiff ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr a'i gyhoeddi yn unol â'r datganiad ar gyfrinachedd a mynediad at ddata sy'n seiliedig ar elfen dibynadwyedd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau)

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Gwerth

Drwy gyhoeddi'r data hyn, ein nod yw rhoi tystiolaeth i weinidogion, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid allanol ynghylch polisi’r iaith Gymraeg, a hysbysu'r cyhoedd yn ehangach.

Mae Cyfrifiad 2021 yn ffynhonnell gywir a chyflawn o wybodaeth am y boblogaeth. Yng nghyd-destun data ar y Gymraeg, mae hyn yn ein galluogi i archwilio tueddiadau ar lefel fanylach nag a fyddai'n bosibl â data arolygon fel arfer. Mae hyn yn helpu sefydliadau yng Nghymru i dargedu eu hadnoddau'n fwy effeithiol wrth ddarparu eu gwasanaethau.

Gan fod cwestiynau am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad am y tro cyntaf yn 2021, dyma'r tro cyntaf inni hefyd allu cyflwyno gwybodaeth gyflawn am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd y boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. 

Mae'r ystadegau a'r ffigurau wedi cael eu cyflwyno a'u cyhoeddi mewn fformat hygyrch yn unol â deddfwriaeth hygyrchedd.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol ag unrhyw sylwadau am sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy eu gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys 1 o’r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • (37) Nifer y bobl a all siarad Cymraeg

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf, rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni. 

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru. 

Yn y datganiad hwn mae dangosydd (37) yn cyfateb i un garreg filltir:

  • Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Cian Siôn
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 27/2024

Image