Neidio i'r prif gynnwy

Penderfynu a ddylai rôl mewn awdurdod lleol yng Nghymru gael ei hystyried yn swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol pan nad yw deiliad y swydd yn cytuno y dylai fod.

Rhaid cael Dyfarnwr Annibynnol yn ôl y gyfraith. Gwaith y dyfarnwr yw penderfynu a ddylai swydd fod o dan gyfyngiadau gwleidyddol os oes anghytundeb rhwng y gweithiwr dan sylw a'r cyngor.

Mae swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol yn golygu bod yn rhaid i berson ymddiswyddo o’u swydd fel swyddog cyngor os ydynt yn dymuno ceisio swydd etholedig.

Ynglŷn â'r dyfarnwr

Mae gan Bev fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol, gan gynnwys:

  • Prif weithredwr a swyddog canlyniadau ar lefel ranbarthol a lleol
  • Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru 

Mae'n dod â dealltwriaeth ddofn am y fframwaith deddfwriaethol a gweithrediad awdurdodau lleol o ddydd i ddydd i rôl y dyfarnwr.

Penodwyd

Penodwyd Bev i rôl y Dyfarnwr Annibynnol ar 1 Mai 2024. Bydd y penodiad hwn yn parhau tan 31 Rhagfyr 2027.

Cysylltu

Cysylltwch â Bev ar: dyfarnwr@llywleolcymru.co.uk