Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw manylebau technegol?

1. Mae manylebau technegol yn nodi'r gofynion technegol ar gyfer y nwyddau, y gwaith, neu'r gwasanaethau y mae awdurdod contractio yn ei brynu neu'n eu prynu.

2. Gall manylebau technegol fod yn rhan o:

  1. gofynion yr awdurdod contractio, sy'n nodi manylion y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith sydd ei angen neu eu hangen
  2. amodau cymryd rhan o dan adran 22 o Ddeddf Caffael 2023, sy'n asesu galluogrwydd cyfreithiol ac ariannol y cyflenwr a'i allu technegol i gyflawni'r contract
  3. amodau cymryd rhan a ddefnyddir mewn proses ddethol gystadleuol wrth ddyfarnu contractau cyhoeddus yn unol â fframweithiau
  4. amodau ar gyfer aelodaeth o farchnad ddynamig, neu
  5. meini prawf dyfarnu, sef y meini prawf a ddefnyddir i asesu tendrau.

3. Gallai'r nodweddion a amlinellir mewn manylebau technegol gynnwys, er enghraifft, ansawdd, perfformiad, diogelwch, dimensiynau, a'r broses a'r dulliau cynhyrchu, pecynnu, marcio a labelu. Mae manylebau technegol yn cael eu cynnwys, lle y bônt yn berthnasol, yn y dogfennau caffael er mwyn rhoi disgrifiad llawn o ofynion yr awdurdod contractio i gyflenwyr. Mae hyn yn galluogi cyflenwyr i ystyried a ddylent gymryd rhan mewn ymarfer caffael ac i baratoi a chyflwyno eu tendr neu gais. Maent hefyd yn helpu i sicrhau bod awdurdodau contractio a chyflenwyr yn rhannu dealltwriaeth gyffredin o'r gofynion.

4. Gall manylebau technegol chwarae rôl allweddol o ran gwella ansawdd, gan gynnwys drwy ddefnyddio safonau cydnabyddedig, a, lle y bo'n briodol, drwy ofyn am dystiolaeth bod y safonau'n cael eu cyrraedd, er enghraifft drwy ardystio, asesu cydymffurfiaeth ac achredu. Gallant hefyd helpu i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gaffael yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ehangach a'i fod yn gyson ag arferion gorau diwydiant. Gall manylebau technegol hefyd fod yn hollbwysig o ran sicrhau gwerth am arian pan fydd gofynion yn cael eu pennu yn y fath fodd ag sy'n ystyried cost cylch oes cyfan ac ystyriaethau eraill.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu manylebau technegol?

5. Mae adran 56 o’r Ddeddf yn nodi'r prif ddarpariaethau ar fanylebau technegol a bwriedir iddi sicrhau nad yw'r dogfennau caffael (a ddiffinnir yn adran 56(9)) yn cyfyngu'n ddiangen ar gystadleuaeth, bod cyflenwyr yn cael eu trin yn gyfartal ac na wahaniaethir yn erbyn cyflenwyr o wladwriaethau sy'n rhan o gytuniad.

6. Ochr yn ochr ag adran 56, mae adrannau eraill yn y Ddeddf yn nodi pan fo'n rhaid cydymffurfio â darpariaethau manylebau technegol. Os yw'r manylebau technegol, mewn ymarfer caffael, o fewn cwmpas y materion o dan yr adrannau eraill hyn, yna mae'n rhaid i'r rheolau yn yr adrannau hyn gael eu cymhwyso hefyd. Er enghraifft, mae'n rhaid i fanylebau technegol sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r meini prawf dyfarnu, yn ogystal â chydymffurfio ag adran 56, ymwneud â thestun y contract (yn unol â gofynion adran 23(2)(a)). Pan fo manylebau technegol yn cael eu cynnwys mewn unrhyw un o'r agweddau canlynol ar yr ymarfer caffael, mae'n rhaid i'r awdurdod contractio fodloni ei hun nad ydynt yn torri'r rheolau a nodir yn adran 56:

  1. gofynion yr awdurdod – adran 21 (hysbysiadau tendro a dogfennau tendro cysylltiedig)
  2. amodau cymryd rhan sy'n ymwneud â gallu technegol cyflenwyr, gan gynnwys cymwysterau a phrofiad – adran 22 (amodau cymryd rhan)
  3. amodau cymryd rhan mewn proses ddethol gystadleuol i ddyfarnu contract cyhoeddus yn unol â fframwaith, sy'n ymwneud â gallu technegol cyflenwyr, gan gynnwys cymwysterau a phrofiad – adran 46 (fframweithiau: proses ddethol gystadleuol)
  4. amodau ar gyfer aelodaeth o farchnad ddynamig neu ran o farchnad ddynamig, sy'n ymwneud â gallu technegol cyflenwyr, gan gynnwys cymwysterau a phrofiad – adran 36 (marchnadoedd dynamig: aelodaeth)
  5. meini prawf dyfarnu – adran 23 (meini prawf dyfarnu)

Rhwymedigaethau Deddfwriaethol Ehangach

7. Gall rhwymedigaethau cyfreithiol eraill (y tu allan i'r Ddeddf) fod yn gymwys wrth lunio manylebau technegol. Gall y rhain gynnwys gofynion rheoliadol amrywiol ym maes iechyd a diogelwch, yr amgylchedd neu ddiwydiant penodol sy'n berthnasol i'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith. Er enghraifft, bydd angen llunio manylebau technegol i ystyried anghenion pobl ag anableddau, lle mae ystyriaethau o ran hygyrchedd i bobl anabl ac ystyriaethau ehangach wedi'u cwmpasu o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn wir, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn cwmpasu nifer o nodweddion gwarchodedig ac mae'n gymwys i'r cylch oes masnachol cyfan, nid dim ond manylebau technegol.

Beth sydd wedi newid?

8. Yn wahanol i'r ddeddfwriaeth flaenorol, nid yw’r Ddeddf yn cynnwys rhestr ganiataol o eitemau y gellid eu hymgorffori mewn manylebau technegol, er y gellir cynnwys y rhain, ac eitemau eraill, wrth gwrs. Yn lle hynny, mae'n nodi'r gofynion ynglŷn â sut y caiff manylebau technegol eu llunio a'u cymhwyso, sy'n debyg i'r rhwymedigaethau a geir yn y ddeddfwriaeth flaenorol. Yn debyg i'r ddeddfwriaeth flaenorol hefyd, mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio ofyn am ardystiad neu dystiolaeth arall mewn perthynas ag unrhyw safonau sy'n ofynnol ganddynt.

Deddfwriaeth flaenorol

Mae adran 56 o'r Ddeddf yn disodli darpariaethau amrywiol a oedd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, gan gynnwys: rheoliadau 42 (manylebau technegol), 43 (labeli) a 44 (adroddiadau profion, tystysgrifau a dulliau adnabod eraill). Mae hefyd yn disodli darpariaethau tebyg yn rheoliadau 60, 61 a 62 yn Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016, rheoliad 36 yn Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016.

Pwyntiau allweddol a bwriad y polisi

9. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau penodol er mwyn sicrhau:

  1. nad yw manylebau technegol yn cyfyngu'n ddiangen ar y gronfa gystadleuol o gyflenwyr a bod cyflenwyr yn cael eu trin yn gyfartal. Hyd yn oed wrth ddefnyddio gweithdrefn dendro gystadleuol, mae'n bwysig nad yw awdurdodau contractio yn llunio eu gofynion yn y fath fodd ag sy'n cyfyngu ar nifer y cyflenwyr a all ddiwallu eu hanghenion neu sy'n rhoi mantais annheg i gyflenwyr penodol.
  2. nad yw awdurdodau contractio yn gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr o wladwriaethau sy'n rhan o gytuniad (h.y. cyflenwyr o wledydd y mae'r DU wedi ymrwymo i gytundeb rhyngwladol â nhw fel y nodir yn Atodlen 9). Mae'r cytundebau rhyngwladol hyn yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr o wladwriaethau sy'n rhan o gytuniad ac, mewn llawer o achosion, maent yn cynnwys darpariaethau penodol ynglŷn â manylebau technegol i gefnogi hyn, a adlewyrchir yn y Ddeddf.

10. Er mwyn paratoi manylebau technegol effeithiol, dylai awdurdodau contractio (lle y bônt yn berthnasol) ddeall pa safonau sy'n gymwys i'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith y maent yn ei gaffael neu'n eu caffael a'r ffyrdd o sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu cyrraedd, megis y defnydd o asesiad o gydymffurfiaeth achrededig. Mae hyn yn cynnwys (os yw'n bodoli) pan fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol neu'n ofyniad polisi neu'n arfer gorau diwydiant.

11. Gall awdurdodau contractio wneud hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys sicrhau bod arbenigwyr masnachol a thechnegol yn cael eu cynnwys drwy gydol cylch oes yr ymarfer caffael (megis wrth ddrafftio gofynion, asesu tendrau ac yn ystod prosesau monitro parhaus), ymgorffori gwersi o ymarferion caffael blaenorol ac ymgymryd â gwaith ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad (gyda chyflenwyr a phersonau eraill).

12. Mae adran 56 o’r Ddeddf yn gymwys pan fydd awdurdodau contractio yn datblygu eu gofynion ar gyfer:

  1. gweithdrefn dendro gystadleuol (gan gynnwys dyfarnu fframwaith)
  2. proses ddethol gystadleuol i ddyfarnu contractau cyhoeddus yn unol â fframwaith
  3. proses i sefydlu marchnad ddynamig.

Gofynion o ran perfformiad a gofynion swyddogaethol

13. Mae'n rhaid i'r dogfennau caffael gyfeirio at ofynion o ran perfformiad neu ofynion swyddogaethol (a pheidio â llunio model trwyddedu penodol na nodweddion disgrifiadol), oni fyddai'n amhriodol gwneud hynny. Mae gofynion swyddogaethol yn disgrifio'r hyn y mae'n rhaid i'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith ei wneud ac mae gofynion o ran perfformiad yn disgrifio pa mor dda y mae'n rhaid iddynt berfformio. Er enghraifft:

  1. gallai gofynion ar gyfer drysau gwrthsefyll tân ei gwneud yn ofynnol i'r drysau (yn ogystal â llwyddo yn yr holl brofion angenrheidiol ynglŷn â gwrthsefyll tân a chyrraedd y safonau angenrheidiol) wrthsefyll tân ag amser llosgi o 30 munud, yn hytrach na phennu sut mae'n rhaid iddynt gael eu gwneud, oni bai bod rhesymau da dros wneud hynny
  2. gallai gofynion ar gyfer meddalwedd gynnwys gofynion ynglŷn ag effeithlonrwydd, megis cyflymder ymateb, neu fod modd i'r feddalwedd ryngweithredu â meddalwedd sy'n bodoli eisoes yn hytrach na rhagnodi model gweithredu penodol pan fo eraill yn gallu bodloni'r gofyniad mewn ffordd addas hefyd.

14. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i fanylebau technegol gyfeirio at ddyluniad, model trwyddedu penodol neu nodweddion disgrifiadol ond dim ond pan nad oes modd cyfeirio'n briodol at ofynion o ran perfformiad na gofynion swyddogaethol yn lle hynny. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft pan fo angen manylu ar gydran fecanyddol benodol ar gyfer cerbyd pwrpasol neu union liw paent i gydweddu â brandio corfforaethol.

15. Felly, gallai'r dogfennau tendro gynnwys yn briodol gyfuniad o ofynion o ran perfformiad/gofynion swyddogaethol a gofynion o ran dyluniad, model neu nodweddion disgrifiadol.

Cyfeirio at safonau

16. Pan ystyrir bod safonau yn briodol, mae'n rhaid i'r dogfennau caffael gyfeirio at safonau rhyngwladol neu safonau'r DU sy'n mabwysiadu safonau sy'n cyfateb i safonau rhyngwladol. Dim ond os nad yw'r rhain yn bodoli y gall y dogfennau gyfeirio at safonau eraill y DU.

17. Safonau megis y rheini a bennir gan y Sefydliad Rhyngwladol er Safoni (ISO) a'r Comisiwn Electrodechnegol Rhyngwladol (IEC) yw safonau rhyngwladol. Mae safonau rhyngwladol sydd wedi cael eu mabwysiadu fel safonau'r DU yn cynnwys, er enghraifft, safonau a fabwysiadwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) fel safonau BS ISO neu BS IEC. Dim ond os nad yw'r rhain yn bodoli y gellir pennu safonau eraill y DU ac mae'n rhaid i awdurdodau contractio dderbyn safonau tramor cyfatebol.

18. Dylid nodi na ddylid tybio bod safon a gyhoeddir gan sefydliad amlwladol yn safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu'n genedlaethol. Dylai awdurdodau contractio gadarnhau a yw safonau wedi cael eu pennu neu eu mabwysiadu'n rhyngwladol neu'n genedlaethol fel y bo'n berthnasol. Os bydd awdurdodau contractio yn dymuno defnyddio safon nad yw wedi'i chydnabod yn rhyngwladol nac yn genedlaethol, er y caniateir hyn o dan amgylchiadau penodol o dan adran 56 o’r Ddeddf, dylent sicrhau bod y safon yn bodloni eu gofyniad mewn gwirionedd, er enghraifft drwy sicrhau ei bod wedi cael ei datblygu'n briodol gan sefydliad cymwys.

19. Os na fydd awdurdod contractio wedi cyfeirio at safon a'i fod, yn lle hynny, cyhyd â'i bod yn briodol (gweler adran 56(2)), wedi gofyn am nodweddion penodol fel gofynion, gallai ddibynnu ar safonau y mae cyflenwr wedi'u cael a'u dilysu fel tystiolaeth eu bod yn bodloni'r nodweddion hyn.

Safonau sy'n cyfateb i safonau'r DU

20. Os bydd awdurdodau contractio yn cyfeirio at safonau'r DU, rhaid iddynt nodi'n glir yn y dogfennau caffael, os byddant o'r farn bod safonau cyfatebol o dramor wedi cael eu cyrraedd, y caiff hyn ei drin fel pe bai safon y DU wedi'i chyrraedd. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid derbyn unrhyw safon y mae cyflenwr yn cynnig ei bod yn cyfateb, heb ei dilysu neu heb ddiwydrwydd dyladwy. Gall yr awdurdod contractio ofyn i'r cyflenwr ddangos bod ei safon yn cyfateb mewn gwirionedd a cheisio eglurder (gweler paragraff 22 isod). Dim ond os bydd yr awdurdod contractio wedi'i fodloni bod safon o'r fath yn cyfateb mewn gwirionedd y bydd yn ofynnol iddo dderbyn bod safon yn cyrraedd safon y DU.

21. Gall awdurdod contractio ystyried beth yw ei ddiben wrth ofyn am y safon pan fydd yn barnu a yw safon arall yn cyfateb i un o safonau'r DU. Er enghraifft, efallai y bydd gofynion deddfwriaethol o ran diogelwch cynnyrch sy'n pennu bod yn rhaid cadw at union safon a bennir gan y DU ac, felly, na ellir ystyried bod safonau eraill yn safonau cyfatebol.

Gofyn am ardystiad neu dystiolaeth

22. Dylai awdurdodau contractio sy'n ei gwneud yn ofynnol i safon benodol (a all fod ar lefel sefydliadol neu mewn perthynas â'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith sydd i'w darparu neu ei ddarparu) neu safon gyfatebol, gael ei chyrraedd fodloni eu hunain bod y safon hon yn cael ei chyrraedd. Mae adran 59(6) yn darparu y gellir gwneud hyn drwy ofyn am ardystiad neu dystiolaeth arall. Gall y mathau gwahanol o ardystiad neu dystiolaeth arall a phryd i ofyn am hyn gael eu pennu gan yr awdurdod contractio a dylent gael eu nodi yn y dogfennau caffael. Er enghraifft, mewn ymarfer caffael aml-gam, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall fod yn briodol gofyn am dystiolaeth yn gynharach er mwyn osgoi sefyllfa lle mae cyflenwyr nad ydynt yn cyrraedd y safonau gofynnol yn symud ymlaen i'r camau diweddarach. Fel arall, yn lle hynny, gall fod yn briodol ymdrin â thendrau yn seiliedig ar hunanardystio ac yna ddilysu bod y safonau wedi cael eu cyrraedd cyn dyfarnu'r contract. Gallai hyn arbed amser ac adnoddau i gyflenwyr sydd, yn y pen draw, yn aflwyddiannus ar gam terfynol yr ymarfer caffael, o ran ymgymryd â gweithgareddau dilysu. Wrth ystyried yr adeg fwyaf priodol i ofyn am dystiolaeth a'i dilysu, gallai awdurdodau contractio, er enghraifft, ystyried ffactorau megis:

  1. natur y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith
  2. y math o ddiwydiant, y lefel o risg sy'n gysylltiedig â'r ymarfer caffael
  3. yr adnoddau y bydd angen i'r awdurdod contractio a'r cyflenwr eu defnyddio er mwyn cwblhau'r broses gaffael.

23. Er bod disgresiwn i awdurdodau contractio bennu tystiolaeth, gofyn amdani a'i dilysu, mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau mewn rhannau eraill o'r Ddeddf. Yn benodol, mae'r amcanion caffael yn cynnwys dyletswydd i roi sylw i'r rhwystrau a wynebir gan fusnesau bach a chanolig ac a oes modd dileu neu leihau rhwystrau o'r fath, ac mae gofynion o ran cymesuredd sy'n ymwneud â gweithdrefnau tendro cystadleuol, amodau cymryd rhan a meini prawf dyfarnu.

24. Gall y dystiolaeth y gofynnir amdani hefyd gynnwys dilysu gan drydydd partïon. Gall y dystiolaeth hon gynnwys ardystiad neu adroddiadau yn dilyn profion, arolygiad, graddnodi, gwirio a/neu ddilysu gan gorff asesu cydymffurfiaeth (gan gynnwys corff asesu cydymffurfiaeth achrededig). Ystyr asesu cydymffurfiaeth yw dangos bod yr hyn sy'n cael ei gyflenwi yn bodloni'r gofynion a bennwyd neu a hawliwyd mewn gwirionedd. Caiff ei ddiffinio yn y safon ryngwladol ar gyfer geirfa ac egwyddorion cyffredinol asesu cydymffurfiaeth ISO/IEC 17000 fel, “the process demonstrating whether specified requirements relating to a product, process, service, system, person or body have been fulfilled”.2 Yr enw ar y sefydliadau sy'n cynnal yr asesiadau hyn yw cyrff asesu cydymffurfiaeth. Er enghraifft, gall awdurdod contractio ei gwneud yn ofynnol i safonau rhyngwladol gael eu rhoi ar waith sy'n dangos perfformiad busnes cyflenwr, megis drwy systemau sy'n ymwneud â rheoli ansawdd, iechyd a diogelwch, rheoli'r amgylchedd, ac ati, y dangosir tystiolaeth ohono drwy ardystiad achrededig yn erbyn y safonau hynny.

25. Os mai asesu cydymffurfiaeth yw'r dull a ffefrir o ddangos tystiolaeth, argymhellir bod awdurdodau contractio yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei ddarparu gan gyrff asesu cydymffurfiaeth achrededig. Achredu yw'r dull a argymhellir o ran dangos cymhwysedd technegol, annibyniaeth a didueddrwydd corff asesu cydymffurfiaeth. Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS) yw'r corff a benodir o dan Reoliadau Achredu 2009 fel unig Gorff Achredu Cenedlaethol y DU ar gyfer achredu cyrff asesu cydymffurfiaeth yn y DU, pan fydd achredu yn ofynnol o dan y gyfraith ac, fel arall, (e.e. pan ystyrir bod achredu yn arfer gorau neu'n arfer a ffefrir mewn diwydiant). Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyrff asesu cydymffurfiaeth yn y DU gael eu hachredu gan UKAS. Yn yr un modd, mae'n rhaid i gyrff asesu cydymffurfiaeth achrededig sydd wedi'u lleoli mewn gwledydd eraill fod wedi'u hachredu gan eu Corff Achredu Cenedlaethol cyfatebol.

26. Os bydd cyflenwr yn darparu tystiolaeth gan gorff asesu cydymffurfiaeth sydd wedi'i achredu gan sefydliad sy'n cyfateb i UKAS, argymhellir bod yr awdurdod contractio yn ystyried a yw'r corff achredu yn gorff gwirioneddol gyfatebol drwy gadarnhau a yw sefydliad o'r fath:

  1. yn Gorff Achredu Cenedlaethol cydnabyddedig
  2. wedi cael ei asesu drwy adolygiadau cymeradwy gan gymheiriaid
  3. wedi llofnodi cytundebau cydnabod amlochrog rhyngwladol ochr yn ochr ag UKAS.

Mae UKAS, ynghyd â llawer o Gyrff Achredu Cenedlaethol eraill, yn un o lofnodwyr y Fforwm Achredu Rhyngwladol (IAF) a chytundebau amlochrog y Cydweithrediad Achredu Labordai Rhyngwladol (ILAC). Mae'r cytundebau hyn yn seiliedig ar asesiadau gan gymheiriaid Cyrff Achredu Cenedlaethol ac maent yn golygu bod y llofnodwyr yn cael eu hystyried yn dechnegol gyfatebol. Dylai awdurdodau contractio ochel rhag derbyn achrediad gan unrhyw sefydliadau nad ydynt wedi llofnodi'r cytundebau hyn (nac unrhyw gytundebau disodli neu olynol i'r un perwyl ac y mae UKAS wedi eu llofnodi).

Cyfeirio at nodau masnach, enwau masnach, ac ati, a darparu ar gyfer rhai cyfatebol

27. Oni bai bod hynny'n angenrheidiol er mwyn sicrhau y deellir y gofynion, ni ddylai'r dogfennau caffael gyfeirio at nodau masnach, enwau masnach, patentau, dyluniadau neu fathau, tarddleoedd, na chynhyrchwyr neu gyflenwyr. Os cyfeirir at y rhain, mae'n rhaid i'r dogfennau caffael ddarparu na fydd dewisiadau amgen sy'n dangos eu bod yn cyfateb o dan anfantais.

Termau a ddiffinnir yn yr adran hon

28. Mae adran 56(9) yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn adran 56 o’r Ddeddf.

29. Dylai awdurdodau contractio fod yn ystyriol bod y diffiniad o ddogfennau caffael yn golygu bod y darpariaethau ynglŷn â manylebau technegol yn gymwys yn fwy cyffredinol na dim ond, er enghraifft, i'r atodiadau technegol yn y dogfennau tendro.

30. Mae'r is-adran hon hefyd yn diffinio safon yn y Deyrnas Unedig er mwyn rhoi eglurder ychwanegol i awdurdodau contractio. Dogfennau sy'n nodi rheolau, canllawiau a/neu nodweddion penodol y mae'n rhaid i gyflenwr, nwyddau, gwasanaethau neu waith eu cyflawni neu gydymffurfio â nhw yw safonau.

31. Os bydd awdurdodau contractio yn ei gwneud yn ofynnol i labeli penodol gael eu defnyddio fel ffordd o nodi neu ddangos bod cyflenwyr, nwyddau, gwasanaethau neu waith yn cydymffurfio â safonau penodol, er enghraifft, mewn perthynas â nodweddion amgylcheddol, nodweddion cymdeithasol neu nodweddion eraill, mae'n rhaid i'r gofynion hyn, fel mewn safonau yn gyffredinol, gydymffurfio â'r darpariaethau ar gyfer manylebau technegol a'r fframwaith cyfreithiol ehangach. Er enghraifft, pe bai awdurdod contractio am ei gwneud yn ofynnol i label amgylcheddol gael ei ddefnyddio fel rhan o gontract gwasanaethau amgylcheddol, byddai angen iddo ystyried:

  1. a yw'r label yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol (os nad yw wedi'i gydnabod, mae'n rhaid derbyn labeli cyfatebol)
  2. a yw'n cydymffurfio ag adran 23 os yw hyn yn rhan o'r meini prawf dyfarnu. Er enghraifft, a yw'n ymwneud â thestun y contract ac a yw'n ffordd gymesur o asesu tendrau, ac ati
  3. a yw'n bodloni'r rhwymedigaethau ynglŷn â dim gwahaniaethu yn adran 90 o’r Ddeddf sy'n ymwneud â chyflenwyr o wladwriaethau sy'n rhan o gytuniad
  4. a yw'r gofynion yn glir yn y dogfennau caffael.

Pa gyngor arall sy'n arbennig o berthnasol i'r maes hwn?

  • Canllawiau ar amodau cymryd rhan
  • Canllawiau ar ddyfarnu contractau cystadleuol
  • Canllawiau ar weithdrefnau cystadleuol
  • Canllawiau ar fframweithiau
  • Canllawiau ar farchnadoedd dynamig

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth neu hyfforddiant?

Y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS)

Mae'r OPSS yn rhan o'r Adran Busnes a Masnach (DBT) ac mae'n arwain safonau a pholisi achredu ar draws y Llywodraeth.

Y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI)

Y BSI yw Corff Safonau Cenedlaethol y DU. Mae'n gyfrifol am lunio safonau cenedlaethol a rhyngwladol o dan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth â'r Adran Busnes a Masnach.

Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS)

Corff Achredu Cenedlaethol y DU yw UKAS. Mae achrediadau UKAS yn sicrhau cymhwysedd, didueddrwydd ac uniondeb cyrff asesu cydymffurfiaeth sy'n darparu gwasanaethau megis profi, graddnodi, arolygu ac ardystio. Mae UKAS yn gweithredu'n unol â thelerau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â'r Adran Busnes a Masnach.ion and certification. UKAS operates within the terms of a Memorandum of Understanding with DBT.

Canllawiau neu bolisïau adrannol/sefydliadol mewnol

Yn dibynnu ar y sefydliad, mae'n bosibl y bydd gan awdurdod contractio ei becyn cymorth, ei restr wirio neu ei bolisïau ei hun o ran manylebau.

WG50130