Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno data a gasglwyd o'r cyfrifiad blynyddol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hefyd yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion annibynnol. Mae’n adrodd gwybodaeth ar gyfer ysgolion, disgyblion, ethnigrwydd, cymwys i brydau ysgol am ddim, anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig, maint dosbarthiadau, athrawon a staff cymorth.

Cesglir y data yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru oddi wrth ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol mewn datganiad electronig o’r enw’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) a chan ysgolion annibynnol mewn datganiad cyfanredol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,460 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 3 llai o’i gymharu ag Ionawr 2023.
  • Roedd 465,840 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 4,032 llai na mis Ionawr 2023. 
  • O’r 382,018 disgybl 5 i 15 oed, roedd 21.3% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i lawr o 22.2% ym mis Ionawr 2023.
  • Roedd 29.3% o ddisgyblion 5 i 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu o dan warchodaeth drosiannol, i fyny o 28.7% ym mis Ionawr 2023.
  • Roedd 52,152 disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (11.2% o'r holl ddisgyblion), i lawr o 63,089 (13.4%) ym mis Ionawr 2023.
  • Roedd 21,319 o ddisgyblion â Chynlluniau Datblygu Unigol o dan y system ADY newydd mewn ysgolion a gynhelir (40.9% o’r holl ddisgyblion a ADY neu AAA), i fyny o 10,499 (16.6%) ym mis Ionawr 2023.
  • Roedd 24,297 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir, 587 yn fwy na mis Ionawr 2023.

Ysgolion a disgyblion

Mae’r adran yma yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion a gynhelir gan yr ALl a disgyblion. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru. 

Am ddiffiniadau o fathau o ysgolion (gan gynnwys sut y cânt eu dosbarthu yn nhermau iaith yr addysgu (cyfrwng)) gweler diffiniadau.

Tabl 1: Nifer yr ysgolion yng Nghymru yn ôl sector, 2023 i 2024
Sector20232024
Meithrin66
Cynradd1,2131,210
Canol2729
Uwchradd178176
Arbennig3939
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol 1,4631,460
Annibynnol7982
Cyfanswm1,5421,542

Mae’r tabl yn dangos bod 1,460 o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2024, i lawr 3 o'i gymharu â mis Ionawr 2023. Roedd 82 o ysgolion annibynnol ym mis Ionawr 2024, i fyny 3 o'i gymharu â mis Ionawr 2023.

Ffigur 1: Nifer yr ysgolion a gynhelir, yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng, 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar pentyrru sy'n dangos nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ym mhob awdurdod lleol. Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion yn gyffredinol ym mis Ionawr 2024 a Gwynedd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Nifer yr ysgolion a gynhelir, yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng (MS Excel)

[Nodyn 1] Ysgolion cynradd, canol ac uwchradd (ac eithrio ysgolion meithrin ac arbennig).

  • Roedd 442 o ysgolion cyfrwng Cymraeg ym mis Ionawr 2024 gyda 106,605 (23%) o ddisgyblion yn cael eu haddysgu ynddynt.
  • Addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion yn Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn yr 18 awdurdod arall addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Tabl 2: Nifer y disgyblion yng Nghymru yn ôl sector, 2023 i 2024
Sector20232024
Meithrin406447
Cynradd262,666257,591
Canol26,16828,959
Uwchradd174,948172,818
Arbennig5,6846,025
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol 469,872465,840
Annibynnol [Nodyn 1]9,84010,126
Cyfanswm479,712475,966

Mae'r tabl yn dangos bod 465,840 o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, i lawr 4,032 o'i gymharu â mis Chwefror 2023. Roedd 10,126 disgyblion mewn ysgolion annibynnol (2.1% o'r holl ddisgyblion) ym mis Ionawr 2024, i lawr 286 o’i gymharu â mis Ionawr 2023.

[Nodyn 1] Ni chyflwynodd 5 ysgol annibynnol data yn 2023 ac ni chyflwynodd 1 ysgol annibynnol data yn 2024.

Mae'r holl ddata sy'n dilyn yn y datganiad hwn yn ymwneud ag ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn unig.

Ffigur 2: Cymhareb disgybl athro (CDA) yn ôl sector, 2008 to 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos CDAau ar gyfer pob sector. Mae'r siart yn dangos mai ysgolion cynradd sydd wedi cael y gymhareb athrawon disgyblion uchaf dros y 17 mlynedd diwethaf. 

CDA yn ôl sector (MS Excel)

  • Roedd y CDA ym mis Ionawr 2024 ar ei uchaf mewn ysgolion cynradd gyda 21.3 ac yn isaf mewn ysgolion arbennig gyda 6.7. Roedd y gymhareb disgybl athro mewn ysgolion uwchradd yn 17.0.
  • Mae'r CDA wedi cynyddu mewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn 2024, ond mae'n is ym mhob sector o'i gymharu â 2021. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd cyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd i ysgolion o dan y cynllun Recriwtio, Adennill a Chodi Safonau (RAChS) i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi disgyblion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Darparwyd arian RAChS i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig a’r cyfnod adferu hyd at 2023-24, er mae’r swm sydd wedi’i ddyrannu wedi lleihau ers yr ariannu gwreiddiol yn 2020-21.

Cefndir ethnig

Dyma'r grŵp ethnig y mae'r disgybl yn uniaethu eu hunain ag ef.

Tabl 3: Nifer y disgyblion 5 oed a throsodd yn ôl cefndir ethnig, 2024
Cefndir ethnigNiferCanran
Gwyn357,90688.7
Gwyn Prydeinig342,12484.8
Teithiwr4740.1
Sipsi/Roma8260.2
Unrhyw gefndir Gwyn arall14,4823.6
Cymysg16,1834.0
Gwyn a Du Caribïaidd2,8220.7
Gwyn a Du Affricanaidd2,4050.6
Gwyn ac Asiaidd3,1850.8
Unrhyw gefndir cymysg arall7,7711.9
Asiaidd12,2333.0
Indiaidd3,8801.0
Pacistanaidd3,2340.8
Bangladeshaidd3,2580.8
Unrhyw gefndir Asiaidd arall1,8610.5
Du6,8851.7
Du Caribïaidd1910.0
Du Affricanaidd6,1331.5
Unrhyw gefndir Du arall5610.1
Tsieineaidd9730.2
Unrhyw gefndir ethnig arall6,6251.6
Cyfanswm â chategori dilys400,80599.3
Ddim yn gwybod2,6650.7
Pob disgybl403,470100.0

Mae'r tabl yn dangos fod 84.8% o ddisgyblion 5 oed a throsodd wedi nodi eu bod yn Wyn Prydeinig ym mis Ionawr 2024. Mae’r ffigwr hyn wedi gostwng ychydig ym mob un o’r pum mlynedd diwethaf gyda chynnydd yn y cefndiroedd ethnig eraill dros yr un cyfnod.

O'r disgyblion hynny o gefndir ethnig lleiafrifol y grwpiau mwyaf yw'r rhai o gefndir ethnig cymysg (16,183 o ddisgyblion), cefndir gwyn ac eithrio Gwyn Prydeinig, Teithwyr neu Sipsi/Roma (14,482 o ddisgyblion), Asaidd (12,233) a Du (6,885); tra bod dros 6,625 o ddisgyblion yn nodi eu hunain fel grŵp ethnig arall.

Prydau am ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2024. Dechreuodd y broses gyflwyno ym mis Medi 2022. Mae 20 awdurdod lleol bellach wedi cwblhau'r broses gyflwyno ac mae'r ddau awdurdod lleol sy'n weddill ar y trywydd iawn i gwblhau'r broses gyflwyno erbyn mis Medi 2024.

Er bod y broses hon o gyflwyno PYD i’r rhai nad oeddent yn gymwys i’w cael o’r blaen wedi dechrau, nid yw’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy’n cael PYD ym mis Ionawr 2024. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.

Siart 3: Canran o ddisgyblion sy’n gymwys am PYD, 2008 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion yn hysbys i fod yn gymwys i gael PYD yn uwch yn 2024 nag yn y blynyddoedd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Canran o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (MS Excel)

[Nodyn 1] Disgyblion sy'n gymwys os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth. Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ansawdd y data hwn ac efallai ei fod wedi arwain at or-gofnodi'r data hwn yn 2020 i 2022. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn. Yn 2023 a 2024 gwnaethom ganiatáu amser ychwanegol a gweithredu rheolau a gweithdrefnau dilysu newydd i sicrhau data o'r ansawdd uchaf posibl.

[Nodyn 2] Oedran ar 31 Awst yn y flwyddyn flaenorol.

  • Roedd 81,316 disgybl (21.3%) 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am PYD ym mis Ionawr 2024, i lawr o 85,057 disgybl (22.2%) ym mis Ionawr 2023.
  • Roedd 90,108 disgybl (19.3%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am PYD ym mis Ionawr 2024, i lawr o 95,187 disgybl (20.3%) ym mis Ionawr 2023.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer PYD

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer PYD. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Tabl 4a: Nifer a chanran y disgyblion 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) neu warchodaeth drosiannol (GD), 2022 i 2024
Disgyblion 5 i 15 oed202220232024
Nifer yn gymwys am PYD [Nodyn 1]88,80885,05781,316
% yn gymwys am PYD [Nodyn 1]23.322.221.3
Nifer yn gymwys am PYD neu GD102,391109,977111,805
% yn gymwys am PYD neu GD26.928.729.3
Tabl 4b: Nifer a chanran y disgyblion pob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim (PYD) neu warchodaeth drosiannol (GD), 2022 i 2024
Disgyblion pob oedran202220232024
Nifer yn gymwys am PYD [Nodyn 1]100,30595,18790,108
% yn gymwys am PYD [Nodyn 1]21.320.319.3
Nifer yn gymwys am PYD neu GD114,992121,550122,101
% yn gymwys am PYD neu GD24.425.926.2

Mae'r tablau yn dangos fod 111,805 o ddisgyblion (29.3%) rhwng 5 a 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys i gael PYD neu GD ym mis Ionawr 2024, i fyny o 109,977 o ddisgyblion (28.7%) ym mis Ionawr 2023.

Roedd 122,101 disgybl (26.2%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol mis Ionawr 2024, i fyny o 121,550 disgybl (25.9%) ym mis Ionawr 2023.

[Nodyn 1] Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ansawdd y data hwn ac efallai ei fod wedi arwain at or-gofnodi'r data hwn yn 2020 i 2022. Gweler yr adran Gwybodaeth ansawdd a methodoleg a diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn. Yn 2023 a 2024 gwnaethom ganiatáu amser ychwanegol a gweithredu rheolau a gweithdrefnau dilysu newydd i sicrhau data o'r ansawdd uchaf posibl.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)

Mae gan berson ADY/AAA os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu ddarpariaeth addysgol arbennig. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn cynlluniau datblygu unigol (CDU) sy'n gynlluniau statudol a grëwyd o dan y Ddeddf ADY. Efallai y bydd gan ddysgwyr ag AAA Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu and yr Ysgol a Mwy neu Ddatganiad, a fydd yn dod i ben ym mis Awst 2025 pan fydd y system ADY wedi'i chwblhau.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth i ddiwallu eu hanghenion.

Mae gweithredu'r system ADY ar waith, gyda phlant yn symud o'r system AAA i'r system ADY tan fis Awst 2025. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn CDUau a gynhelir gan naill ai ysgol neu awdurdod lleol.

Mae dadansoddiad o'r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol, yn awgrymu bod y gostyngiad mewn dysgwyr ADY/AAA dros y tair blynedd diwethaf oherwydd adolygiad systematig gan ysgolion o'u cofrestrau a'u data ADY/AAA, yn barod ar gyfer ac wrth weithredu'r system ADY. Ni ellir nodi dysgwyr a gefnogir trwy Weithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) fel ADY/AAA yn CYBLD mwyach. Mae hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr, nid oes angen darpariaeth ychwanegol i, neu yn wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hwy fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.

Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Mae’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ wedi cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023 a 2024.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r niferoedd drwy gydol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY yng Nghymru.

Ffigur 4: Nifer a chanran y disgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math o ddarpariaeth, 2023 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar clwstwr yn dangos mai’r math mwyaf cyffredin o ddarpariaeth ADY neu AAA yn 2024 oedd CDU. Mae darpariaeth CDU wedi cynyddu o’i gymharu â 2023, tra bod mathau eraill o ddarpariaeth wedi gostwng wrth i ddisgyblion symud i’r system ADY newydd. 

Nifer a chanran y disgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math o ddarpariaeth (MS Excel)

[Nodyn 1] Mae’r canrannau yn cynrychioli'r canran o’r holl ddisgyblion gyda’r mathau yma o ddarpariaeth AAA.

[Nodyn 2] Mae CDU yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

  • Roedd 52,152 disgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir (11.2% o'r holl ddisgyblion) ym mis Ionawr 2024, i lawr o 63,089 (13.4%) ym mis Ionawr 2023.
  • Roedd 21,319 o ddisgyblion â CDU o dan y system ADY newydd mewn ysgolion a gynhelir (40.9% o’r holl ddisgyblion a ADY neu AAA), i fyny o 10,499 (16.6%) ym mis Ionawr 2023.

Ffigur 5: Adroddiadau o ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math yr angen, 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: siart bar sy'n dangos nifer yr adroddiadau o bob math o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig. Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu oedd y math mwyaf cyffredin o ADY neu AAA yn 2024 ac yna anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

Adroddiadau o ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math yr angen (MS Excel)

[Nodyn 1] Mae'r rhifau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. O fis Ionawr 2017 caniatawyd ysgolion a gynhelir i adrodd gymaint o anghenion addysgol arbennig y disgybl sy'n ofynnol. Nid yw anghenion hyn wedi’u graddio ac felly ni ellir dangos unrhyw fath o AAA fel 'Prif Angen' y disgybl. Mae'r siart uchod yn dangos nifer o weithiau adroddwyd bob math AAA e.e. os yw mathau AAA 'Dyslecsia' a 'Dyspracsia' yn cael eu hadrodd ar gyfer disgybl yna mae’r disgybl yn cael ei gyfrif ddwywaith, unwaith o dan bob math. Bydd nifer o adroddiadau ADY neu AAA felly yn fwy na nifer y disgyblion sydd ag ADY neu AAA.

  • Gwnaed 75,225 adroddiadau o’r fath o ADY neu AAA - cyfartaledd o 1.4 fesul disgybl sydd ag ADY neu AAA.
  • Y math mwyaf cyffredin o angen a adroddwyd oedd 'Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu', yn cynrychioli 35.0% o ddisgyblion ag ADY neu AAA.
  • Yr uchaf nesaf oedd 'Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol' (31.8%) ac yna 'Anawsterau dysgu cymedrol' (22.5%).

Maint dosbarthiau

Tabl 5: Maint dosbarthiadau babanod ac iau ar gyfartaledd, 2022 i 2024
Dosbarth202220232024
Babanod24.924.824.8
Iau25.825.726.0

Mae'r tabl yn dangos doedd dim newid ym maint dosbarthiadau babanod ar gyfartaledd ac roedd maint dosbarthiadau iau ar gyfartaledd wedi cynyddu ychydig o'i gymharu â 2023.

Mae dosbarthiadau babanod o fwy na 30 disgybl yn anghyfreithlon o fawr heblaw bod amgylchiadau penodol o'r enw 'eithriadau' wedi’u bodloni. 

Cyfraith maint dosbarth babanod.

Siart 6: Canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr, 2022 i 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar clystyrog yn dangos bod canran y disgyblion mewn dosbarthiadau mawr cyfreithlon wedi gostwng yn 2024 tra bod y ganran mewn dosbarthiadau mawr anghyfreithlon wedi cynyddu.

Canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr (MS Excel)

  • Roedd 6,199 o ddisgyblion (6.4%) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion ym mis Ionawr 2024, i lawr o 6,459 o ddisgyblion (6.5%) ym mis Ionawr 2023.
  • Roedd 674 o ddisgyblion (0.7%) mewn dosbarthiadau anghyfreithlon o fawr o dros 30 o ddisgyblion ym mis Ionawr 2024, i fyny o 302 o ddisgyblion (0.3%) ym mis Ionawr 2023.

Athrawon a staff cymorth

Cyflwynwyd y Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) yn 2019 i rhoi gwybodaeth mwy cynhwysfawr ar y gweithlu ysgol yng Nghymru ac i helpu lywio polisïau Llywodraeth Cymru ar materion sy’n ymneud â’r gweithlu ysgol yng Nghymru. Bydd y data yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllunio’r gweithlu ac i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth y gweithlu ysgol. Mae’r data sydd wedi’u cyhoeddi yn y datganiad ystadegol yma (Canlyniadau’r cyfrifiad ysgolion) wedi’u seilio ar gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a dylid parhau i’w defnyddio fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol, a’u defnyddio ar gyfer cymhariaeth dros amser. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol CBGY diweddaraf ar 18 Gorffennaf 2024 fel ystadegau swyddogol dan ddatblygiad. Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol yng Nghymru.

Ers 2021, mae gwybodaeth ar absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u casglu trwy’r CBGY. Mae’r casgliad CBGY yn cynnwys mwy o absenoldebau athrawon ysgol gan ei fod yn casglu data o ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer AD neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Felly, nid yw data ar absenoldebau athrawon trwy salwch yn cael eu casglu ar wahan o awdurdodau lleol bellach a bydd y data yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r datganiad ystadegol CBGY o hyn ymlaen.

Gweler ein hadroddiad ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion: adroddiad gwybodaeth gefndir a gwybodaeth am ansawdd a methodoleg’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).

Tabl 6: Nifer a athrwon wedi cymhwyso a staff cymorth cyfwerth ag amser llawn
Rôl staff202220232024
Athrawon wedi cymhwyso24,65724,88424,297
Staff cymorth24,51725,81225,018

Mae'r tabl yn dangos bod 24,297 o athrawon wedi cymhwyso cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol ym mis Ionawr 2024, i lawr 587 o'i gymharu â mis Ionawr 2023.

Hefyd, roedd yna 25,018 staff cymorth cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2024, i lawr 794 o’i gymharu â mis Ionawr 2023.

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol

Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae Ysgolion Cynradd yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, Dwy Ffrwd a Throsiannol. Mae ysgolion Canol ac Uwchradd yn cynnwys Cyfrwng Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, gwelir y nodiadau canllaw.

Ysgolion annibynnol

Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.

Ysgolion meithrin

Dan 5 oed.

Ysgolion cynradd

3/4 i 10 oed.

Ysgolion canol

3/4 i 16/18 oed.

Ysgolion uwchradd

11 i 16/18 oed.

Ysgolion arbennig

Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.

Cyfwerth ag amser llawn

Mae niferoedd disgyblion cyfwerth ag amser llawn yn cyfrif disgyblion rhan-amser fel 0.5.

Mae niferoedd athrawon rhan-amser cyfwerth ag amser llawn yn dynodi gwasanaeth athrawon mewn oriau fel cyfran o wythnos ysgol: 32.5 awr ar gyfer ysgolion a gynhelir a 26 awr ar gyfer ysgolion annibynnol.

Cymarebau disgybl athro (CDA)

Cyfrifir y rhain o'r nifer o ddisgyblion FTE, wedi eu rhannu gan y nifer o athrawon FTE (prifathrawon, pennaeth dros dro, pennaeth cynorthwyol, dirprwyon ac athrawon cymwysedig eraill).

Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig

Calculated by dividing the FTE number of pupils by the FTE number of qualified teachers (head teachers, acting head teachers, assistant head teachers, deputy heads and other qualified teachers).

Disgyblion â datganiad

Disgyblion y mae'r awdurdod yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr awdurdod lleol gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Cynlluniau Datblygu Unigol: Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

Maint dosbarthiadau babanod

Rhoddodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r rheoliadau cysylltiedig ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyfyngu i 30 faint dosbarthiadau Derbyn o 1999 ymlaen; dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 o 2000 ymlaen a dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o 2001 ymlaen. Rhaid i ddosbarthiadau blynyddoedd cymysg neu Gyfnodau Allweddol cymysg gwrdd â’r terfyn, os yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn y blynyddoedd priodol, mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau meithrin/derbyn cymysg.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis [Month 20xx]. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Mae’r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â’r holl ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol yng Nghymru. Mae data ar gyfer ysgolion a gynhelir yn deillio o ddata CYBLD a ddarparwyd gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y cyfrifiad, sydd fel arfer ym mis Ionawr bob blwyddyn. Caiff y datganiadau eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan awdurdodau lleol. Mae ysgolion annibynnol yn cwblhau datganiad STATS1 cyfanredol a awdurdodir gan benaethiaid.

Cynhelir y gwaith casglu a dilysu data rhwng Ionawr a Mai. Cyhoeddir y data fel arfer ym mis Gorffennaf.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a datgan ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.

Mae'r allbwn hwn yn cadw at y Cod Ymarfer trwy ddatgan ymlaen llaw y dyddiad cyhoeddi trwy'r tudalennau gwe calendr sydd i ddod.

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a defnyddio dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u set sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) (Saesneg yn unig) ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Mae CYBLD yn gasgliad data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol a gynhelir. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.

Mae’r data cyfrifiad yn y datganiad hwn yn dangos y sefyllfa ar Ddydd Mawrth 16 Ionawr 2024. Roedd DEWi ar gael i lanwytho ffeiliau ar 16 Ionawr 2024. Wedyn gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data yn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 31 Mai 2024.

Oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Roedd cau ysgolion rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19) yn golygu bod dyddiad cyfrifiad 2021 wedi’i ohirio tan 20 Ebrill 2021.

Y llynedd gwnaethom gynnal dilysiad ychwanegol o'r data gydag awdurdodau lleol ar ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gweler diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn.

Canlyniad y dilysiad ychwanegol hwn oedd bod rhai disgyblion a oedd ond yn derbyn PYD oherwydd gwarchodaeth drosiannol neu drwy'r polisi prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol wedi'u cofnodi'n anghywir fel rhai sy'n gymwys i gael PYD drwy'r meini prawf modd (mae disgyblion yn gymwys i gael PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth, gweler Prydau ysgol am ddim: gwybodaeth i rieni a gofalwyr).

Eleni fe wnaethom ddatblygu rheolau dilysu ychwanegol a helpodd i nodi unrhyw broblemau gyda'r data cymhwysedd PYD yn gynharach. Yna buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod dilysu i sicrhau bod y data cywir yn cael ei ddarparu.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • dyrannu adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion
  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 
  • i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol

Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi mewn fformat "Open Document Spreadsheet"
hygyrch y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae tablau manylach ar gael ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data. Fe fydd y data hefyd yn cael ei gyhoeddi ar Fy Ysgol Leol, gwefan a ddyluniwyd i agor mynediad i ddata ysgolion i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol.

Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. At hynny, cyhoeddir ein holl allbynnau ystadegau ysgolion yn Gymraeg a Saesneg.

Cymharedd

Lloegr

Ystadegau: niferoedd ysgolion a disgyblion (Yr Adran Addysg)

Ystadegau: addysg a hyfforddiant y DU (Yr Adran Addysg)

Yr Alban

Ystadegau Addysg Ysgolion (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Ystadegau addysg (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Geraint Turner
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 67/2024

Image