Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, aelod
Dianne Bevan, aelod 
Kate Watkins, aelod 
Shan Whitby, Llywodraeth Cymru
Shereen Williams, SW, Prif Weithredwr, y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn)
Roger Ashton-Winter, RAW, Rheolwr Prosiect, y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol

Cyflwyniad

Cynhaliodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) Ddiwrnod Strategaeth ddydd Mawrth 12 Mawrth 2024. 

Pwrpas y Diwrnod Strategaeth oedd i'r Panel adolygu meysydd gwaith y 12 mis blaenorol a chynllunio ar gyfer y flwyddyn, gan nodi meysydd gwaith allweddol ac ymchwil ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nod cyfarfod y Panel ym mis Mawrth oedd:

  • adolygu'r flwyddyn ddiwethaf a nodi meysydd ar gyfer gwella
  • trafod materion a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf gan gyfeirio at strategaeth 3 blynedd 
  • ystyried pa dystiolaeth y gallai fod ei hangen ar y panel ar gyfer penderfyniadau ar dâl cydnabyddiaeth yn y dyfodol, gan nodi bylchau at ddibenion ymchwil yn y dyfodol. Datblygu cynllun ymchwil a thystiolaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod
  • trafod ac adolygu'r cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu a diweddaru blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod
  • trafod ac adolygu'r prif risgiau a'r wybodaeth ddiweddaraf yn erbyn cynllun gweithredol eleni

Adolygiad y panel o'r 12 mis diwethaf a chynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod

Adolygodd y Panel y 12 mis diwethaf, gan nodi'r hyn sydd wedi mynd yn dda, adborth gan aelodau newydd y panel, gan nodi'r meysydd lle'r oedd angen gwella ac adolygu'r strategaeth 3 blynedd.Cytunodd y panel ar flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan drafod ac ystyried pynciau cyd-destun ehangach, megis cyfarfod â Llywodraeth yr Alban a'r grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Iechyd Demograffig, er mwyn sicrhau bod y Panel yn ymwybodol o gyd-destun ehangach a'u gweithgareddau gwaith cyfredol.

Fe wnaeth y Panel drafod ac adolygu'r gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan ystyried adborth a chynllunio'r gweithgarwch i gasglu'r dystiolaeth y bydd angen i’r Panel ei gwblhau er mwyn cefnogi penderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol yn y dyfodol. 

Cafodd y Panel drafodaeth ar y gwaith o gynllunio ar gyfer gwneud ymchwil a chasglu tystiolaeth, er mwyn ystyried y bylchau a nodi'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer yr ymchwil, a oedd yn cynnwys pobl Ifanc, adroddiadau cynghorau cymuned a thref, ac ymchwil economaidd-gymdeithasol.

Diweddaru'r cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu a nodi gweithgarwch allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd hyn yn cynnwys presenoldeb y Panel yng nghynhadledd Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru ar 27 Mawrth a pharatoi stondin arddangos, a fyddai’n cynnwys taflen wybodaeth a phoster.

Trafodwyd adolygiad o'r gofrestr risg i sicrhau bod yr holl risgiau yn cael eu nodi a bod elfennau allweddol yn y cynllun gweithredol yn cael eu diweddaru, er mwyn iddynt gael eu rheoli gan y Panel a'r Ysgrifenyddiaeth.

Camau gweithredu

Y camau allweddol ar gyfer y misoedd nesaf yw:

  • diweddaru'r Gofrestr Risg a'r Cynllun Gweithredol
  • nodi'r camau sydd eu hangen i gyflawni'r amcanion yn y Cynllun Ymchwil a Thystiolaeth
  • lluniwch gynllun gweithredu i gwmpasu trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiwn newydd

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 23 Ebrill 2024. 

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.