Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw fod dau aelod newydd wedi'u penodi i Gyngor y Gweithlu Addysg. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu swyddi ar 2 Medi 2024. Rwy'n hyderus y bydd yr aelodau newydd yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal a chodi safonau addysgu ac wrth sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y dysgu a'r cymorth gorau posibl.

Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Penodiadau ac Aelodaeth) (Cymru) 2014 yn darparu i'r Cyngor gynnwys 14 aelod. Mae gofyn bod Gweinidogion Cymru yn penodi saith aelod drwy gystadleuaeth agored a'r saith aelod arall ar ôl iddynt gael eu henwebu gan sefydliadau a restrir yn Rheoliadau 2014.

Darperir y manylion am y penodiadau newydd isod, ynghyd â'r broses sy'n ymwneud â'r penodiadau hynny.

Aelodau newydd:

Mae Karl Jones yn gweithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd fel Uwch Ddarlithydd mewn Technolegau ac fe'i enwebwyd gan Undeb y Brifysgol a'r Coleg. Mae wedi gweithio ym myd addysg dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Mae hefyd yn gweithio i nifer o fyrddau arholi. Yn ychwanegol at hynny roedd yn un o'r arloeswyr ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, ac mae wedi cefnogi'r maes addysg fel archwiliwr a llywodraethwr ysgol.

Mae David Edwards yn cael ei gyflogi gan Academi Henffordd Eglwys Lloegr, ac ar hyn o bryd mae ar secondiad yn Ysgol Gwernyfed ym Mhowys. Cafodd ei enwebu gan Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau. Mae ganddo radd mewn Celfyddydau Perfformio, cymhwyster addysgu deuol ar gyfer addysg uwchradd a chynradd, a'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Mainc Ynadon dros y 15 mlynedd ddiwethaf.

Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Nid yw aelodau'r swyddi hyn yn cael eu talu, ond mae modd iddynt gael eu had-dalu am gostau cynhaliaeth a theithio rhesymol. Mae gan aelodau ymrwymiad amser arferol o 12 diwrnod y flwyddyn.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag egwyddorion Nolan, mae gofyn i'r sawl a gaiff ei benodi ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn gyhoeddus (os yw'n datgan ei fod wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol).

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.