Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod ail adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru yn unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad.
Mae’r adroddiad, sy’n cwmpasu’r cyfnod 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018, yn disgrifio’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni diben y Ddeddf a’r amcanion a amlinellir yn y strategaeth genedlaethol sy’n cyd-fynd â’r Ddeddf.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd sylweddol a wnaed yn ystod 2017-2018, megis lansio ymgyrch DYMA FI, y gwaith parhaus o gyflwyno ein Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol, gan gynnwys “Gofyn a Gweithredu”, a’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau drafft ar gomisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhanbarthol yng Nghymru.