Neidio i'r prif gynnwy

Darperir cyllid dros gyfnod o dair blynedd i wasanaethau cynghori er mwyn helpu pobl gyda’u problemau lles cymdeithasol, ochr yn ochr â hyfforddiant newydd i weithwyr rheng flaen i sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddelio â chostau byw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Gronfa Gynghori Sengl yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cynnig mynediad at yr holl gyngor sydd ei angen ar unigolyn i ddatrys ei broblemau lles cymdeithasol. Mae hefyd yn darparu cyfleuster gwirio hawl pobl i i fudd-daliadau. Y llynedd, rhoddodd y gwasanaeth dros £47.5m yn ôl ym mhocedi pobl. Dywedodd 81% fod y gwasanaeth wedi dod o hyd i ffordd ymlaen iddynt a dywedodd 75% fod eu problem wedi’i ddatrys o ganlyniad.

Bydd y cyllid hwn o £12m y flwyddyn am dair blynedd o fis Ebrill 2025 yn ariannu gwasanaethau sy’n helpu pobl i reoli costau byw, a datrys problemau o ran llety, budd-daliadau lles ac ymrwymiadau ariannol.

Cysylltodd Mary* â’r Gronfa Gynghori Sengl drwy wasanaeth galw i mewn ar gyswllt fideo. Roedd Mary a’i theulu yn byw mewn llety cymdeithasol, ond yn cael trafferth gyda chostau byw. Eu hunig incwm oedd Pensiynau’r Wlad, ac roeddent yn cael cyfanswm o £1860.94 y mis. Cynhaliwyd gwiriad budd-daliadau ar eu cyfer, a darganfuwyd bod Mary a’i theulu wedi bod ar eu colled o £1087.54 y mis o fudd-daliadau nad oeddent wedi bod yn ei hawlio.

Cyhoeddwyd £300,000 ychwanegol hefyd i ddarparu mwy o hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyfer gweithwyr rheng flaen i helpu defnyddwyr gwasanaethau sy’n wynebu anawsterau ariannol. Bydd yr hyfforddiant yn helpu gweithwyr rheng flaen i gynyddu eu gwybodaeth am systemau budd-daliadau lles/cymorth ariannol ehangach, ac i adnabod arwyddion anawsterau ariannol a gwybod sut i helpu defnyddwyr gwasanaethau i fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt i hawlio incwm ychwanegol.

Mae data sy’n gysylltiedig â sesiynau hyfforddiant blaenorol yn dangos bod 70% wedi defnyddio beth roeddent wedi’i ddysgu, a bod bron i 60% wedi cyfeirio rhywun yn uniongyrchol at gymorth o fewn 8 wythnos i gwblhau’r cwrs.

Dywedodd un ar y cwrs: 

“O ganlyniad i fy hyfforddiant, roedd modd imi gyfeirio cwpwl, nad oeddent yn tybio eu bod yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau, i wneud cais am PIP, Credyd Cynhwysol a Lwfans Gofalwyr, er bod y gŵr yn cael incwm bach a phensiwn.”

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip: 

“Mae heriau costau byw wedi rhoi llawer o bobl mewn sefyllfaoedd anodd, ac felly rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

“Bydd y cyllid newydd hwn yn sicrhau bod gwasanaethau cynghori yn gallu gwneud cynlluniau tymor hirach fel bod pobl ledled Cymru yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r cyngor sydd ei angen arnyn nhw. Bydd hefyd yn helpu’r rhai sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl sy’n agored i niwed i adnabod arwyddion anawsterau ariannol a’u rhoi ar y llwybr iawn i gael cymorth.”

Caiff y broses gais ar gyfer darparwyr y Gronfa Gynghori Sengl ei lansio heddiw ar Orffennaf 25 am 12 wythnos. Bydd y gwasanaethau newydd i’w hariannu yn dechrau ar 1 Ebrill 2025 a gall darparwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais yma.

*newidiwyd yr enw