Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, aelod
Dianne Bevan, aelod 
Kate Watkins, aelod 
Sara Rees, ysgrifenyddiaeth
Shan Whitby, Ysgrifenyddiaeth

Rhanddeiliaid allanol sy'n mynychu'r cyfarfod

Roger Ashton-Winter, Rheolwr Prosiect, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol 

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 23 Ebrill 2024. 

Nod y cyfarfod oedd: 

  • trafod amcanion 2024 i 2025
  • trafod Cyfathrebu ac Ymgysylltu, cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer 2024 i 2025
  • adolygu a chytuno ar nodiadau cyfarfod mis Mawrth 2024 (nodiadau llawn a chryno), gan nodi camau gweithredu a diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth
  • trafod Papur Ymchwil a Thystiolaeth, gan dynnu sylw at feysydd i'w trafod yn ystod 2024 i 2025
  • adolygu templed Cofrestr Risg newydd
  • diweddaru cynllun gwaith a chyllideb 2024 i 2025
  • trafod unrhyw fater arall

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Trafododd y panel bwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth ar ei wefan bresennol yn cael ei diogelu wrth baratoi i swyddogaethau'r Panel drosglwyddo i wefan Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Panel yn ystyried mynychu cynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar 26 a 27 Mehefin 2024.

Cytunodd y Panel i gynnal cyfres o gyfarfodydd a gweminarau gyda rhanddeiliaid cyn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Drafft 2025 i 2026 ym mis Hydref 2024.

Dywedodd FD fod cyfarfod wedi ei drefnu gyda swyddogion polisi Llywodraeth yr Alban, Cynullydd i Bwyllgor Taliadau Awdurdodau Lleol yr Alban, a Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA) i drafod adroddiad Pwyllgor Taliadau Awdurdodau Lleol yr Alban (SLARC) ar dâl cynghorwyr yn yr Alban, ac i weld a oes unrhyw faterion posibl a/neu debygrwydd i daliadau cynghorwyr Cymru.

Ymchwil a thystiolaeth

Cytunodd y Panel i gynnal ymchwil yn y meysydd canlynol yn ystod 2024 i 2025:

  • tâl cydnabyddiaeth cyd-bwyllgorau corfforedig  
  • uwch-rolau 
  • agenda werdd  
  • tâl cydnabyddiaeth a llwyth gwaith aelodau o awdurdodau tân ac achub 
  • penderfyniadau i'w gorfodi yn ystod 2025 i 2026 
  • Cydymffurfiaeth Cynghorau Tref a Chymuned 
  • cynyddu iwfansau blynyddol

Camau gweithredu a diweddariadau'r ysgrifenyddiaeth

Cytunodd y Panel ar gofnodion llawn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2024. 

Cadarnhaodd y Panel ei fod yn adolygu ei gyllideb yng nghyfarfod y Panel ym mis Mai.

Fe wnaeth y Panel drafod chwe ymholiad a oedd wedi dod i law gan Brif Gynghorau a Chynghorau Cymuned a Thref drwy'r Ysgrifenyddiaeth a chytuno ar ymatebion iddynt. Roedd yr ymholiadau hyn yn gofyn i'r Panel am gyngor ac eglurhad ynghylch talu am ddefnyddio band eang a ffôn symudol, tâl cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig, lwfansau i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref, esboniad o derm 'swyddog perthnasol', cais am enghreifftiau da o ran talu aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau a threthu lwfansau aelodau Cyngor Cymuned a Thref, a chyngor ynghylch newid cyflog Prif Swyddog Gweithredol Prif Gyngor. 

Y gofrestr risg

Cytunodd y Panel i adolygu'r templed Cofrestr Risg yng nghyfarfod mis Mehefin.

Rhaglen waith 2024 i 2025

Trafododd y Panel flaenoriaethau ac amseriadau er mwyn cynnal a chyflwyno pynciau ymchwil, ynghyd â'i adroddiad blynyddol drafft a llawn 2025 i 2026.

Cytunodd y Panel i gyhoeddi adroddiad etifeddiaeth erbyn mis Mawrth 2025, gan amlinellu ystyriaethau allweddol cyn i swyddogaethau'r Panel drosglwyddo i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 14 Mai 2024. 

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.