Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn gyhoeddi ein bwriad i gynnwys y gwaith o reoli Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Nhaliad Sylfaenol Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). 

Er na fydd penderfyniadau terfynol ar ddyluniad y Cynllun yn cael eu gwneud hyd nes y bydd y gwaith presennol gyda rhanddeiliaid wedi dod i ben, roedd yr adborth a ddaeth i law, gan gynnwys drwy'r ymgynghoriad, yn ymwneud yn bennaf â chynnwys SoDdGA yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol. Ar ôl penderfynu ymhellach bod camau cynnal a chadw cynefinoedd yn ychwanegol at y llinell sylfaen reoleiddio, gallaf gadarnhau felly mai dyma fydd ein bwriad. 

SoDdGA yw ein safleoedd bywyd gwyllt a daearegol gorau ac maent wedi'u gwarchod yn gyfreithiol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, mae angen gwella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd morol, dŵr croyw a daearol gwarchodedig, gan greu rhwydweithiau ecolegol cydnerth a fydd yn caniatáu i'n cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf bregus ffynnu. 

Byddai cynnwys SoDdGA yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol yn cydnabod ymdrechion ffermwyr i reoli'r ardaloedd hyn, er ein lles ni i gyd. Byddai'n helpu i sicrhau bod y safleoedd hyn yn rhan o reolaeth ehangach ffermydd, gan daro cydbwysedd rhwng cynhyrchu bwyd a chamau gweithredu sy'n gwella rhagolygon cynefinoedd natur a dŵr croyw. Byddai hefyd yn cyfrannu at gyflawni'r amcanion Rheoli Tir Cynaliadwy sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru). 

Yn dilyn trafodaeth yn nhrydydd cyfarfod y Ford Gron Weinidogol a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon [dydd Mawrth 23 Gorffennaf], roeddwn yn falch y daethpwyd i gonsensws ar y mater hwn.

Er bod cwestiynau pwysig i'w hateb o hyd ynglŷn â dyluniad y Cynllun a'r dull talu, gan gynnwys, er enghraifft, tir comin mae hwn yn gam cadarnhaol wrth symud ymlaen ar y cyd ar agwedd allweddol ar ddyluniad y Cynllun. 

Dim ond drwy amser, ymrwymiad a thrafodaethau cadarnhaol yr holl sefydliadau sydd ar Ford Gron Weinidogol a Grŵp Swyddogion yr SFS y gallwn wneud y cynnydd hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth barhaus. Mae llawer o waith i'w wneud mewn cyfnod byr o amser. Felly, mae'n rhaid inni barhau i weithio'n ddi-oed.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.