Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu Ionawr i Mawrth 2024 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Ebrill 2023 i Mawrth 2024.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ionawr 2001 i Mawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2000. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 2000, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Gostyngodd Cynhyrchiant yn flynyddol a chwarterol. Gostyngodd Gwasanaethau'r Farchnad yn flynyddol ac doedd dim newid yn chwarterol. Roedd y sector Adeiladu yn dangos cynnydd yn flynyddol a gostyngiad yn chwarterol.

Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid drwy gydol y pandemig coronafeirws (COVID-19) gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 1.8% yng Nghymru a gostyngiad o 0.2% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. 

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pedwar allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.

Roedd Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru yn parhau i fod yn ddigyfnewid yn eang o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynnydd allbwn y DU gan 0.9% dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 5.9% ar gyfer Cymru a cynnydd o 0.2% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos gostyngiad o 3.2% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynnydd allbwn y DU gan 0.6% dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 20.0% ar gyfer Cymru a chynnydd o 1.0% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos gostyngiad o 6.4% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU 0.6% dros yr un cyfnod.

Dyfodol y Cyhoeddiad hwn

Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y SYG yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, mae'r SYG wedi cyhoeddi ers hynny eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. O ganlyniad, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr yma yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn sicrhau nad oes bwlch yn argaeledd data economaidd i Gymru. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jack Tennant
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image