Neidio i'r prif gynnwy

Mae perchennog busnes bach wedi annog rhieni i gofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru cyn i dymor yr hydref ddechrau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd Lisa Jones, sy'n rhedeg caffi Y Diod yn Llandeilo, ei bod yn hawdd gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant a'i fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywyd.

Mae gennym ddau o blant ac mae'r 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'n bywydau.

Gan fy mod yn hunangyflogedig, mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr gan olygu fy mod wedi gallu dychwelyd i'r caffi yn gynt ar ôl rhoi genedigaeth.

Byddwn yn annog pobl i gofrestru ar ei gyfer, gan fod y cymorth a gewch yn amhrisiadwy. Rydym mor ddiolchgar i Twts Tywi, sydd wedi bod o help mawr gyda'r broses ac wedi gwneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael i rieni.

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu i rieni sydd mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant a chanddynt blant rhwng tair a phedair oed. Ei nod yw helpu rhieni ar draws Cymru i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg.

Mae tua 20,000 o blant yn cael eu cefnogi bob blwyddyn drwy Gynnig Gofal Plant Cymru.

I fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, rhaid i rieni a gwarcheidwaid:

  • fod â phlentyn 3 neu 4 oed
  • fod yn byw yng Nghymru
  • fod ag incwm gros o £100,000 neu lai y flwyddyn
  • fod yn gyflogedig ac yn ennill o leiaf 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw
  • neu fod wedi cofrestru ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd

Mae Twts Tywi, meithrinfa yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys gwobr am fod yn un o'r meithrinfeydd gorau yng Nghymru, yn ddarparwr Cynnig Gofal Plant Cymru.

Dywedodd Caryl Thomas, rheolwr gyfarwyddwr a pherchennog Meithrinfa Twts Tywi yn Llandeilo:

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn caniatáu i rieni gael dewisiadau eang o ran y lleoliadau y gall eu plant eu mynychu.

Rydym yn gweithio gydag ysgolion lleol yn yr ardal i ddarparu gwasanaeth cofleidiol er mwyn rhoi mwy o help i rieni gyda gofal plant.

Mae'r cyllid sydd ar gael i ni fel busnes wedi ein galluogi i wneud gwaith hanfodol ar ein cyfleusterau i sicrhau bod ein plant yn gallu manteisio ar nifer fawr o adnoddau o ansawdd yn ein hamgylcheddau, gan greu sylfeini cryf i adeiladu unigolion hyderus a dysgwyr llwyddiannus.

Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthynas (perthynas neu ffrind nad yw'n rhiant i'r plentyn) hefyd fod yn gymwys i gael addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer rhieni.

I fod yn gymwys yn ystod y tymor a gwyliau'r ysgol, rhaid i'ch plentyn fod yn un o'r canlynol:

  • Yn dair oed ac yn gymwys i gael addysg gynnar yn unol â'r polisi derbyn i ysgolion yn eich awdurdod lleol (fel arfer dyma'r tymor ar ôl i'ch plentyn droi'n dair oed, ond gall fod yn hwyrach). Os ydych yn gallu cael mynediad i addysg gynnar cyn hyn, ni fyddwch yn gymwys i gael y Cynnig tan y tymor ar ôl i'ch plentyn droi'n dair oed.
  • Yn bedair oed ond nid yw'n gymwys i gael lle mewn addysg lawnamser yn yr awdurdod lleol yr ydych yn byw ynddo.

Mae’r cyfnod ymgeisio am y Cynnig Gofal Plant ar gyfer tymor yr hydref bellach ar agor.