Gwell siawns o gael swyddi, mwy o foddhad â bywyd a help i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yw rhai o'r manteision y mae dysgwyr ifanc wedi'u profi ers ymuno â Twf Swyddi Cymru+.
Yn rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu a chymorth cyflogadwyedd personol i bobl ifanc 16 i 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y canlynol:
- helpu pobl ifanc NEET i feithrin sgiliau, ennill cymwysterau a chael profiadau i'w galluogi i symud ymlaen tuag at gyflogaeth, gan gynnwys prentisiaethau neu at ddysgu ar lefel uwch
- helpu cyflogwyr sy'n cyflogi person ifanc – gan ddarparu cymhorthdal cyflog o hyd at 50 y cant o gostau cyflogaeth y person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf.
Mae gwerthusiad annibynnol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod llawer i'w ddathlu. Dywedodd 95% o'r rhai a holwyd a oedd wedi cwblhau'r rhaglen fod eu siawns o ddod o hyd i waith wedi cynyddu, gydag 82% o'r rhai a holwyd a oedd yn parhau ar y rhaglen yn cytuno bod eu lwfans hyfforddiant wedi helpu i leddfu pwysau ariannol.
Yn ogystal â'r cymorth hwn sy'n seiliedig ar waith, roedd yn galonogol iawn gweld bod 82% yn teimlo'n fwy bodlon â'u bywyd a bod 81% yn teimlo'n hapusach.
Ar y cyfan, mae'r data diweddaraf yn awgrymu bod 68% o'r rhai sy'n cymryd rhan yn llwyddo i gael canlyniad cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen, a naill ai'n symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, cyflogaeth neu brentisiaeth.
I rai, gwnaeth Twf Swyddi Cymru+ eu helpu i wneud mwy na dod o hyd i waith yn unig. Dywedodd un ymatebydd:
"Maen nhw wedi fy helpu i gael cymorth gan CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed), fy helpu i feithrin sgiliau cymdeithasol, wedi rhoi llawer o hyder imi ac mae gen i lais nawr hefyd."
Un o'r rhai a gafodd waith ar ôl cofrestru â Twf Swyddi Cymru+ oedd Darla Wathen. Mae Darla, sy'n 17 oed ac o Gaerdydd, bellach yn driniwr gwallt dan hyfforddiant. Dywedodd:
"Doeddwn i ddim yn academaidd iawn yn yr ysgol, ond dwi wastad wedi bod yn berson creadigol. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly fe es i i 'chydig o ddiwrnodau blasu Twf Swyddi Cymru+ i weld pa fathau o lwybrau gyrfa sydd ar gael. Roedd y cyrsiau a oedd yn cael eu cynnig yn amrywio o ofal plant i harddwch, i adeiladu a gofal anifeiliaid, ond trin gwallt oedd y peth roeddwn i wir eisiau ei wneud."
"Gwnaeth fy nhiwtoriaid Twf Swyddi Cymru+ weld y potensial ynof i. Roedd pawb yn fy nhrin fel oedolyn, ac roedd yn amlwg bod y rhaglen eisiau imi lwyddo."
Ymhen dim, cafodd Darla swydd fel steilydd iau yn Henderson & Co ac mae'n dod yn ei blaen yn dda iawn.
Dywedodd Darla:
"Mae gweithio yn Henderson & Co wedi bod yn anhygoel. Dw i'n gwerthfawrogi'r cyngor mae'r steilwyr eraill yn ei roi imi yn fawr, a dw i wedi dysgu cymaint yn barod mewn cyfnod mor fyr."
"Y cyngor sydd gen i bobl nad ydyn nhw'n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud pan fyddan nhw yn yr ysgol yw siarad ag eraill am eich opsiynau. Roeddwn i'n teimlo bod eraill wedi gwrando arna i ac roeddwn i'n ddigon lwcus i ddod o hyd i yrfa oherwydd yr hyfforddiant a'r cyllid sy'n cael eu rhoi drwy Twf Swyddi Cymru+."
Mae Dom Jones sy'n 18 oed o Fwcle yn dweud y byddai'n annog rhagor o bobl ifanc i fentro i fyd gwaith drwy raglen Twf Swyddi Cymru+ ar ôl i'r rhaglen roi'r hyder a'r arweiniad iddo sicrhau swydd llawn amser.
Wrth siarad am ei daith o addysg i fyd gwaith, dywedodd Dom:
"Fe wnaethon nhw fy annog i ailsefyll fy nghymwysterau TGAU Saesneg a Mathemateg a llwyddais i gael graddau uwch, a helpodd hynny i wella fy sgiliau ar fy CV wrth ymgeisio am swyddi."
Bellach yn weithiwr gwaith gwastraff gyda chwmni masnachwr adeiladu Thorncliffe Building Supplies yng Nglannau Dyfrdwy, mae Dom yn canmol Twf Swyddi Cymru+ am ei helpu i gyflawni'r hyn mae ef wedi'i wneud.
"Gwnaeth ymuno â'r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gael effaith gadarnhaol yn syth ar fy agwedd at waith a fy ngyrfa."
"Os ydych chi'n cael trafferth gwybod beth i'w wneud nesaf, peidiwch â rhoi'r gorau iddi yn rhy gyflym. Dydych chi ddim yn gwybod pa ddyfodol sydd o'ch blaen, felly gwnewch eich gorau o ran yr hyn sy'n bwysig ichi, daliwch ati, a gall pethau anhygoel ddigwydd ichi."
Mae gwerthusiad terfynol yn mynd rhagddo a bydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2025.
Am ragor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+, gan gynnwys sut y gall pobl ifanc fanteisio ar yr rhaglen, chwiliwch ar-lein am Twf Swyddi Cymru Plws.