Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 15 a 21 Gorffennaf 2024 cyfle i dynnu sylw at y cwmnïau a’r bobl sy’n gweithio’n galed i groesawu ymwelwyr i Gymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y diwydiannau twristiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am 5.1% o'n GVA (£3.8 biliwn). Yn 2023, cawsom dros 8.5 miliwn o ymwelwyr o wledydd Prydain Fawr, ynghyd ag 892,000 o ymwelwyr rhyngwladol. Rwyf am weld y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch yn tyfu ymhellach gyda chefnogaeth strategol ac ariannol gan Croeso Cymru. 

I ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer cefnogi'r economi ymwelwyr, gwnaethom wrando ar y diwydiant ac ar randdeiliaid gyda'r nod o dyfu twristiaeth mewn ffordd sy'n gynaliadwy i bobl a lleoedd Cymru. 

Mae ein newidiadau i'r rheolau ynghylch ail gartrefi ac ardrethi busnes, ein cynlluniau i roi pwerau i awdurdodau lleol godi ardoll ar ymwelwyr a'n gwaith ar gynllun cofrestru a thrwyddedu statudol i gyd wedi'u cynllunio i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru. Cynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yw hanfod y weledigaeth honno. 

Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw dair menter i gefnogi'r diwydiant twristiaeth: blwyddyn thematig newydd, mwy o gyllid ar gyfer seilwaith sylfaenol ac adfer ein Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol.

Mae Croeso Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo Cymru gyda gweithgarwch marchnata wedi'i dargedu a sbardunau fel blynyddoedd thema gan gynnwys ein blwyddyn thematig ddiwethaf Llwybrau -Trails. Rwy'n falch o allu cyhoeddi mai'r thema newydd ar gyfer 2025 fydd y Flwyddyn Groeso.

Bydd y Flwyddyn Groeso yn canolbwyntio ar bobl Cymru, y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant, ein croeso unigryw a'r hyn rydym yn ei garu am ein tirweddau, diwylliant, digwyddiadau, bwyd a diod ac atyniadau. Mae Croeso Cymru'n disgwyl ymlaen at rannu cyfleoedd i'n helpu gyda'r Flwyddyn Groeso a'r gwaith ymgyrchu cysylltiedig dros y misoedd nesaf. 

Mae’n bleser gen i gyhoeddi hefyd y byddwn yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb yn ystod y Flwyddyn Groeso mewn prosiect gwaddol cyffrous yng Nghymru sy’n cefnogi twristiaeth sy’n gwneud lles.

Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith twristiaeth sylfaenol ledled Cymru. Mae 'Pethau Pwysig' yn gronfa sy'n helpu sefydliadau cyhoeddus, y trydydd sector a chyrff dielw i gynnal prosiectau bach i wella seilwaith twristiaeth. Gwnaethon ni roi £5 miliwn i 29 o brosiectau rhwng 2023-2025 ac rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen gan gyllido prosiectau seilwaith bach am flwyddyn arall o Ebrill 2025. Byddwn yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ym mis Medi 2024.

Mae Croeso Cymru yn rhoi cymorth ariannol hefyd i fusnesau twristiaeth a lletygarwch drwy Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru. Mae'r Gronfa, sy'n cael ei rhedeg ar y cyd gan Croeso Cymru a Banc Datblygu Cymru, wedi buddsoddi'n ddiweddar trwy gyfuniad o fenthyciadau a grantiau ym mwyty a bar On the Rocks yn y Mwmbwls, The White Lion Inn gydag ystafelloedd ym Machynlleth, bwyty, bar a llety yng Nghlwb Golff Dinbych-y-pysgod, Gwesty’r Traethau ym Mhrestatyn a bwyty Dylan’s yng Nghonwy.

Ein partneriaid pwysicaf wrth ddatblygu sector twristiaeth croesawgar yw'r busnesau ledled Cymru sy'n croesawu ac yn gwasanaethu ein hymwelwyr. Mae twristiaeth yn sector byd-eang cystadleuol ac mae ei lwyddiant yn dibynnu ar fusnesau sy'n buddsoddi, arloesi a chydweithio. Mae gennym enghreifftiau gwych o hyn, ac felly mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod yn adfer ein Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol ac yn eu cynnal yng Ngwanwyn 2025. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle y mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn ei gynnig i ddiolch i'r bobl ar draws y sector am eu brwdfrydedd wrth ddangos Cymru i'r byd.