Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Gall arferion cyfyngol ddigwydd mewn llawer o leoedd a lleoliadau. Mae ein fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol yn berthnasol ar draws gwasanaethau sy'n darparu addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i blant ac oedolion o bob oed.

Pan fydd arfer cyfyngol yn digwydd i rywun, caiff hyn ei alw yn aml yn ataliaeth.

Mae 8 ffordd wahanol y gellir atal pobl, sef drwy ddefnyddio:

  • rheolau cyffredinol
  • eich corff
  • cyfarpar
  • strategaethau cyfathrebu
  • cemegion
  • normau diwylliannol
  • gwyliadwriaeth
  • yr amgylchedd 

Daw'r rhain yn arferion cyfyngol pan gânt eu defnyddio i wneud i rywun wneud rhywbeth nad ydyn nhw'n dymuno ei wneud, neu atal rhywun rhag gwneud rhywbeth y maen nhw'n dymuno ei wneud.

Gwyliwch ein fideo am leihau’r defnydd o arferion cyfyngol ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol:

Pwrpas y fframwaith

Rydym yn gwybod y gall arferion cyfyngol beri gofid mawr i bobl ac achosi niwed.

Rydym am sicrhau bod pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol.

Rydym am i bawb sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion weithio mewn ffordd sy'n parchu eu hawliau dynol.

Un ffordd bwysig o leihau arferion cyfyngol yw gwneud cynlluniau ar gyfer gwella llesiant. Mae hyn yn helpu i atal sefyllfaoedd pan fo pobl yn ymddwyn mewn ffordd a allai eu niweidio nhw eu hunain neu eraill.

Cymerwch olwg ar y fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol

Darllenwch ein crynodeb i gael rhagor o wybodaeth

Nodi arferion cyfyngol

Esboniwr

Rydym wedi creu esboniwr sy'n helpu i nodi arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Poster

Edrychwch ar ein poster sydd:

  • yn diffinio arferion cyfyngol
  • crynhoi'r prif fathau o arferion cyfyngol
  • rhoi cyngor ar bwy y dylid siarad ag ef os ydych chi'n poeni am y defnydd amhriodol o arferion cyfyngol

Animeiddiad

Gwyliwch ein hanimeiddiad newydd rydym wedi'i datblygu i ddangos enghreifftiau o arferion cyfyngol er mwyn eichhelpu chi i ddeall yr hyn ydyn nhw ac i ystyried y defnydd ohonyn nhw yn eich sefydliad chi:

Asesiadau effaith

Ym mis Medi 2021, gwnaethom asesu'r modd y mae'r canllawiau ar leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn effeithio ar nifer o feysydd, gan gynnwys hawliau plant.

Dysgwch ragor am yr asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Dysgwch ragor am yr asesiad effaith

Cyngor a chymorth

Comisiynydd Plant Cymru

Mae'r tîm cyngor a chymorth hawliau plant yn rhoi cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Ei nod yw cynghori a helpu plant a phobl ifanc, neu'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw, os byddan nhw o'r farn eu bod wedi cael eu trin yn annheg.

Ffôn: 01792 765 600

Rhadffôn: 08088 011 000

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae'r tîm cyngor a chymorth yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl 60+ oed ac sy'n wynebu trafferthion â gwasanaethau megis iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol neu wasanaethau tai.

Ffôn: 03442 640 670 neu 029 2044 5030

E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru

Awtistiaeth Cymru

Gwybodaeth ynghylch cysylltu â'r arweinydd awtistiaeth lleol lle'r ydych chi'n byw er mwyn cael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.

C.A.L.L. llinell gymorth iechyd meddwl

Mae'r llinell gymorth yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.

Rhadffôn: 0800 132 737

Anfon "help" i: 81066

Llinell gymorth Dementia Cymru

Mae'r llinell gymorth yn cynnig cymorth i unrhyw un sy'n gofalu am rywun â Dementia yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu neu ffrindiau. Mae'r gwasanaeth hefyd yn helpu ac yn cefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o Ddementia.

Ffôn: 08088 082 235

Llinell gymorth anabledd dysgu Mencap Cymru

Ar gael i bawb yng Nghymru, ni waeth a ydych chi'n berson ag anabledd dysgu, yn aelod o'r teulu neu'n ffrind.

Ffôn: 08088 000 300

Llais

Dyma'r corff cenedlaethol ac annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi cyfle i bobl rannu eu barn a'u profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac i sicrhau bod yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu eich gwasanaethau. Mae hefyd yn cynnig cymorth eiriolaeth i bobl sy'n dymuno gwneud cwyn am y gofal y maen nhw wedi'i gael.

Gwasanaethau Llais yn eich ardal

Ffôn: 029 2023 5558

E-bost: ymholiadau@llaiscymru.org