Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Gorffennaf 2024, agorodd Ei Fawrhydi y Brenin sesiwn newydd Senedd y DU yn ffurfiol, gan roi braslun o ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn newydd. 

Darparwyd rhagor o wybodaeth am gynnwys Araith y Brenin wedyn mewn dogfen a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Prif Weinidog. Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddatganiad ysgrifenedig ar 18 Gorffennaf yn nodi'r Biliau y bwriedir eu hestyn a'u cymhwyso i Gymru.

Yn ystod y cyfnod rhwng yr Etholiad Cyffredinol ac Araith y Brenin, cynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cymru drafodaethau â swyddogion Llywodraeth y DU ynghylch y meysydd sy'n debygol o effeithio ar Gymru. Ar fore Araith y Brenin, bu'r Prif Weinidog a minnau yn trafod cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ag Arweinydd Tŷ'r Cyffredin ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.. Mae hon yn rhaglen sydd wedi'i chyflwyno'n gyflym yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, ac rwy'n croesawu'r trafodaethau cynnar ac ystyriol a gynhaliwyd cyn Araith y Brenin. Byddwn yn parhau i drafod manylion y cynigion â Llywodraeth y DU drwy gydol y sesiwn. 

Mae'r egwyddor o gydsyniad deddfwriaethol, fel y'i hadlewyrchir yng Nghonfensiwn Sewel ac adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, wrth wraidd y setliadau datganoli ac mae ei chymhwyso'n briodol yn hanfodol i sicrhau bod Biliau perthnasol yn cael eu trafod mewn modd democrataidd ac yn destun craffu gan y ddeddfwrfa. Mae Llywodraeth flaenorol y DU wedi dangos diffyg parch at y Confensiwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro bod angen diwygio Confensiwn Sewel ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth newydd y DU, ynghyd â'r llywodraethau datganoledig eraill, gyda'r bwriad o gryfhau gweithrediad yr egwyddor sylfaenol hon o ddatganoli.

Ein safbwynt o hyd yw y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dal i gredu y gall fod rhai amgylchiadau pan fydd yn gwneud synnwyr i ddarpariaethau, sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu cynnwys mewn Biliau gan Senedd y DU, gyda chydsyniad penodol y Senedd. 

Mae rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn rhoi sylw i amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys materion datganoledig fel trafnidiaeth, cynllunio, ynni, cyfiawnder cymdeithasol, ac eraill. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi cynigion ar gyfer diwygio mewn perthynas â hawliau rhentwyr a thybaco a fêps, a byddwn yn trafod â Llywodraeth y DU ei bwriad i ddeddfu yn y meysydd hyn, yn ogystal â meysydd eraill sydd o ddiddordeb i Gymru (gan gynnwys sgyrsiau priodol am ddeddfwriaeth mewn meysydd a gedwir yn ôl y bydd gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd fuddiannau ynddynt hefyd). Bydd pob un o'r Biliau yn rhaglen ddeddfwriaethol y DU yn cael eu hasesu'n drylwyr a, lle bo'n berthnasol, yn destun y broses cydsyniad deddfwriaethol. Fel bob amser, byddwn yn parhau i sicrhau bod unrhyw fuddiannau datganoledig ac unrhyw effeithiau ar Gymru yn cael eu hystyried a'u trafod yn briodol.

Edrychwn ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am Filiau perthnasol pan fydd modd gwneud hynny, ac at weithio gyda’r Senedd ar y broses cydsyniad deddfwriaethol drwy gydol sesiwn newydd Senedd y DU.