Ar ymweliad ag Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri mewn gwers ar ddiogelwch ar-lein, cafodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyfle i glywed gan ddisgyblion am eu pryderon am ddiogelwch ar-lein a'r cymorth sydd ar gael i helpu.
Mae natur esblygol y byd ar-lein yn cyflwyno risgiau newydd yn sgil cynnwys a all fod yn niweidiol ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau fideo. Mae'r rhain yn risgiau sy'n cael effaith go iawn ar les a diogelwch plant, ac mae'r effaith hwnnw weithiau yn effaith hirdymor. A hithau bron yn wyliau haf, gall y risgiau hyn gynyddu wrth i bobl ifanc dreulio mwy a mwy o amser ar-lein, ar eu ffonau ac yn chwarae gemau.
Yn Ysgol Uwchradd Whitmore, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn arolygon i weld pa faterion sy'n peri'r gofid mwyaf iddynt, ac yna mae gwersi penodol yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.
Cyfarfu Lynne Neagle â Grŵp Llais y Dysgwyr ar gyfer Blwyddyn 9 yn yr ysgol sy'n rhagweithiol wrth ymateb i broblemau ar-lein sy'n dod i'r amlwg er mwyn helpu i greu diwylliant o wytnwch ar draws yr ysgol. Rhoddodd y grŵp adborth ar wersi diogelwch ar-lein blaenorol a rhannu eu barn ar bynciau y byddent yn hoffi eu trafod yn y dyfodol.
Roedd Deallusrwydd Artiffisial, bwlio ar-lein, blacmel rhywiol, rhannu lluniau noeth ac aflonyddu rhywiol yn destunau trafod. Mewn un wers edrychodd y disgyblion ar effaith cynnwys gan ddylanwadwyr fel Andrew Tate ar y cyfryngau cymdeithasol, a rhoddwyd cyfle iddynt chwarae rôl gadarnhaol o ran nodi'r problemau sydd ynghlwm â chredoau misogynistaidd .
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn faich ar bobl ifanc y dyddiau hyn. O fwlio ar-lein i'r effaith ar edrychiad a hunan hyder, mae'n rhaid i ni wrando ar ein pobl ifanc os ydym am fynd i'r afael â'r materion heriol hyn o ddifrif.”
Mae'n galonogol bod Ysgol Uwchradd Whitmore yn gweithio mewn modd lle gall dysgwyr gyfrannu sylwadau a syniadau er mwyn dylanwadu ar ddarpariaeth diogelwch ar-lein yr ysgol. Gall hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran arfogi pobl ifanc gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i ymdrin â'r byd digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol, gan roi'r hyder iddynt godi llais pan maent yn teimlo'n anghyfforddus am rywbeth.
Dywedodd Henriette Bertheux, Dirprwy Bennaeth Cynorthwyol a Phennaeth ABCh yn Ysgol Uwchradd Whitmore:
Mae Grŵp Llais y Dysgwyr yma yn Whitmore wedi bod yn trafod effaith y cyfryngau cymdeithasol ar eu hiechyd meddwl yn y wers heddiw. Mae grymuso pobl ifanc i siarad am y materion lles digidol sy’n peri’r gofid mwyaf iddynt yn un o’r ffyrdd gorau o ddiogelu ein pobl ifanc trwy godi ymwybyddiaeth, addysg a gwrando ar eu barn.
Mae dau draean o blant 3 a 17 oed yn defnyddio apiau’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae plant 8 a 17 oed yn treulio rhwng dwy a phump awr y diwrnod ar-lein. Mae’r nifer hwn yn cynyddu, felly mae’n hanfodol deall sut i helpu pobl ifanc i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.
Mae’r adran Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb yn cynnwys yr holl gefnogaeth a chymorth ymarferol diweddaraf i athrawon ar faterion sy'n dod i'r amlwg sydd â blaenoriaeth uchel a gwybodaeth am y tueddiadau presennol yn ymddygiad plant a phobl ifanc ar-lein.
Yn ogystal ag adnoddau ar gyfer ysgolion, mae Hwb yn darparu cymorth i rieni a gofalwyr gan gynnwys trosolwg o'r apiau cyfryngau cymdeithasol a gemau diweddaraf a chanllaw ar sut i gael sgwrs â phlentyn am fater sensitif. Gwahoddir plant a phobl ifanc rhwng 9 a 17 oed i gwblhau arolwg byr (sy’n cau ar 31 Gorffennaf) i rannu eu barn ar yr apiau y maent yn eu defnyddio a sut maent yn eu defnyddio.