Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n croesawu’r adroddiad cyntaf (Saesneg yn Unig) o’r Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19, sy’n ymchwilio i barodrwydd y DU ar gyfer y pandemig, a gyhoeddir heddiw.

Mae’r cyhoeddiad yn foment bwysig i deuluoedd yng Nghymru sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i Covid-19, ac i staff y rheng flaen a weithiodd mor galed yn ystod y pandemig i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.

Rhoddodd pum tyst o Lywodraeth Cymru dystiolaeth lafar dros nifer o ddiwrnodau y llynedd. Cyflwynasom hefyd filoedd o ddogfennau i'r Ymchwiliad ar gyfer y Modiwl hwn.

Mae’r adroddiad yn amlygu amryw o argymhellion sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru ac i’n partneriaid. Byddwn yn astudio’r adroddiad yn fanwl yn awr, a byddwn yn ymateb yn llawn i’r Ymchwiliad mewn perthynas â phob un o’r argymhellion hynny.

Rydym yn croesawu argymhellion yr Adroddiad ac edrychwn ymlaen at gydweithio mewn partneriaeth gyfartal â Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill wrth ymateb iddynt. Rydym wedi bod yn ymrwymedig bob amser i weithio’n agored ac mewn modd adeiladol gyda llywodraethau eraill y DU ac rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn mewn ymateb i’r adroddiad. 

Rydym yn diolch i’r Farwnes Hallett a’i thîm am eu gwaith ac am yr adroddiad heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ati i gymryd rhan yn yr holl waith sy’n dal i fynd rhagddo fel rhan o’r ymchwiliad, gan gynnwys datgelu dogfennau, datganiadau a thystiolaeth lafar yn ôl yr angen.

Bydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 y Senedd yn awr yn craffu ar yr adroddiad. Bydd yn cyflwyno i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd yn adroddiad yr Ymchwiliad i’r parodrwydd ar gyfer y pandemig ac i’r ymateb y mae’n credu y dylid ymchwilio iddynt ymhellach. Swyddogaeth seneddol i’r Senedd i’w hystyried yw hon.