Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ein huchelgais yw sicrhau Cymru sy'n rhydd rhag sbwriel a thipio anghyfreithlon – rhywbeth y gallwn ni ei gyflawni os bydd pawb yn chwarae eu rhan. Gall sbwriel a thipio anghyfreithlon niweidio ein bywyd gwyllt, niweidio ein hamgylchedd naturiol a difetha golwg ein cymunedau. Mae hefyd yn lleihau nifer y deunyddiau gwerthfawr y gellid eu hailgylchu a'u hailddefnyddio. 

Mae ein llwyddiant parhaus o ran cyfraddau ailgylchu sbwriel domestig, gan gynnwys dod y wlad orau yn y byd ond un ar gyfer ailgylchu, wedi dangos ein gallu i sicrhau mai ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol yw'r norm. Rhaid inni adeiladu ar y momentwm hwn. Byddwn ni'n parhau i adeiladu ar ein perthynas waith gref â busnesau, awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau amgylcheddol a rheoleiddwyr i hyrwyddo camau gweithredu sy'n atal sbwriel a thipio anghyfreithlon rhag digwydd yn y lle cyntaf. 

Gwnaethon ni sefydlu pum maes i ganolbwyntio ein camau gweithredu arnyn nhw i helpu i gyflawni ein gweledigaeth. Y rhain yw: lleihau gwastraff, gorfodi, addysg a newid ymddygiad, tystiolaeth a monitro, a chymorth gweithredol. Er mwyn helpu i gyflawni'r rhain rydyn ni wedi parhau i ddarparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rhaglen Taclo Tipio Cymru (£1.2 miliwn rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2025) a Cadwch Gymru'n Daclus (dros £1.4 miliwn ers 1 Ebrill 2023). Mae'r ddau sefydliad wedi ein galluogi i fod â chysylltiad uniongyrchol ag awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau ledled Cymru, gan helpu i gyflawni prosiectau ar lawr gwlad i wella ansawdd amgylcheddau lleol a chodi ymwybyddiaeth o effeithiau'r math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol.       

O ran lleihau gwastraff, rydyn ni wedi cymryd camau pwysig i helpu'r farchnad a defnyddwyr i gefnu ar gynhyrchion sy'n niweidiol i'r amgylchedd. Mae ’Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 <https://www.legislation.gov.uk/en/asc/2023/2/enacted> wedi golygu ein bod wedi lleihau faint o gynhyrchion plastig untro diangen sy'n cael eu taflu ac yn llygru ein hafonydd a'n moroedd.   Bydd ein gwaharddiad arfaethedig ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig yn golygu y byddwn ni'n lleihau ymhellach faint o ficroblastigau sy'n mynd i mewn i'n dyfrffyrdd a bydd y gwaharddiad arfaethedig ar fêps untro yn mynd i'r afael â'r cynnydd brawychus diweddar mewn sbwriel sy'n cynnwys fêps. Ystyrir ymhellach wahardd cynhyrchion plastig untro eraill, er enghraifft pecynnau saws, os bydd y dystiolaeth yn cefnogi camau o'r fath.

Yn gysylltiedig â hyn rydyn ni'n cyflwyno cynllun uchelgeisiol newydd ar gyfer pecynwaith, sef Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr deunyddiau pecynnu dalu am reoli'r pecynwaith pan fydd yn cael ei daflu a chefnogi ymgyrchoedd atal sbwriel. Drwy drosglwyddo'r costau rheoli diwedd oes o'r trethdalwr i gynhyrchwyr deunyddiau pecynnu byddwn yn cymell cynhyrchwyr i leihau'r gost hon drwy ailgynllunio neu osgoi deunyddiau pecynnu, a thrwy hynny leihau faint o becynwaith diangen a roddir ar y farchnad a'r tebygolrwydd y bydd pecynwaith yn cael ei sbwriela. 

Er mwyn mynd i'r afael ag effaith hyll gwm cnoi sy'n cael ei sbwriela, mae Llywodraeth Cymru yn rhan o Dasglu Gwm Cnoi ar draws y DU, cynllun sy'n dod â rhai o gynhyrchwyr gwm cnoi mwyaf y DU ynghyd. Wrth i drydedd flwyddyn y cynllun ddechrau, mae awdurdodau lleol Cymru wedi elwa ar gyllid gwerth £350,000 sydd wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu cyllid i gael gwared ar sbwriel gwm cnoi o strydoedd mawr y DU, a chefnogi mentrau i atal sbwriela yn y dyfodol

Byddwn hefyd yn cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (EPR) ledled y wlad ar gyfer cynwysyddion diod a fydd, pan fydd wedi'i gyflwyno, yn helpu i ysgogi cyfraddau ailgylchu uwch byth ac yn atal y cynhyrchion hyn rhag cael eu sbwriela yn ein hamgylchedd. Fel math o EPR, rydyn ni am i fusnesau fod yn gyfrifol am reoli'r cynhyrchion hyn ar ddiwedd eu hoes. 

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn archwilio, ar y cyd â Cadwch Gymru'n Daclus, i sefydlu cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer y sector bwyd brys a siopau tecawê, gan geisio mynd i'r afael â'r problemau parhaus sy'n gysylltiedig â sbwriela cynhyrchion bwyd tecawê.

Drwy gyflwyno deddfwriaeth a'n cefnogaeth ar gyfer Taclo Tipio Cymru, rydyn ni wedi atgyfnerthu gallu gorfodi awdurdodau lleol a CNC i ddelio â thipio anghyfreithlon. 

Rydyn ni wedi ariannu dau swyddog gorfodi Taclo Tipio Cymru sy'n cefnogi awdurdodau lleol yn uniongyrchol gydag achoson o dipio anghyfreithlon. Mae ein cyllid wedi galluog Taclo Tipio Cymru i gynnig mynediad am ddim i awdurdodau lleol at gyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr amgylcheddol arbenigol, a darparu hyfforddiant ac arweiniad ychwanegol. Mae tîm Taclo Tipio Cymru hefyd wedi bod yn allweddol wrth helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â rhai o'r mannau tipio anghyfreithlon gwaethaf yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy gydlynu ymyriadau gan bartneriaid, darparu cymorth technegol a chynorthwyo gyda chamau gorfodi llwyddiannus.

Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i ddod â phartneriaid awdurdodau lleol ynghyd i ddatblygu dulliau newydd o rannu gwybodaeth am bobl sy'n tipio'n anghyfreithlon ar draws ffiniau daearyddol. Bydd hyn yn cefnogi camau gorfodi mwy effeithiol yn erbyn y troseddwyr hyn.

Mae codi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad pobl yn sbardun allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â phroblemau mewn perthynas ag ansawdd amgylcheddol lleol gwael. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy ddatblygu dull integredig, cenedlaethol ar gyfer cynnal ymgyrchoedd a rhannu negeseuon. Drwy ddarparu cyllid ar gyfer Taclo Tipio Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus   rydyn ni wedi cyflawni sawl ymgyrch lwyddiannus gan gynnwys "Eich dyletswydd chi yw gofalu" sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n codi ymwybyddiaeth o'r risg o drosglwyddo eich gwastraff i gludwyr gwastraff anghofrestredig, a "Not Up Our Street", ymgyrch a oedd yn canolbwyntio ar fyfyrwyr, landlordiaid a chymdeithasau tai. Mae ymgyrchoedd eraill  wedi canolbwyntio ar sbwriel gwm cnoi, taflu sbwriel o gerbydau ac annog perchnogaeth cŵn gyfrifol er mwyn mynd i'r afael â baw cŵn. Drwy raglenni addysg fel Eco-sgolion a sefydlu "Ardaloedd Di-sbwriel" o amgylch tiroedd ysgolion yng Nghymru, rydyn ni'n parhau i annog plant a phobl ifanc i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol. Bydd y gwersi a ddysgwyd o'r ymgyrchoedd hyn yn cael eu defnyddio i lywio negeseuon wedi'u targedu yn y dyfodol.

Mae dealltwriaeth dda o faint a natur y sefyllfa sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru yn hanfodol. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i wella a defnyddio'r data rydyn ni'n ei gasglu. 

'Drwy Daclo Tipio Cymru rydyn ni'n mapio achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru yn ofodol ac wedi datblygu canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u gofynion adrodd.

Mae tueddiadau sbwriel yn cael eu monitro drwy arolygon glendid strydoedd  blynyddol a gynhelir gan Cadwch Gymru'n Daclus ac awdurdodau lleol. Mae'r adroddiadau presennol yn dangos bod lefelau sbwriel wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar, ond yn aml nid yw hyn yn adlewyrchu barn y cyhoedd a dim ond rhan o'r darlun y gall yr arolygon hyn ei rhoi. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, rydyn ni'n gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i ystyried system fonitro newydd a fyddai'n ehangu cwmpas y sbwriel sy'n cael ei gofnodi ar hyn o bryd y tu hwnt i'n strydoedd i gynnwys amrediad ehangach o amgylcheddau, er enghraifft mannau gwyrdd trefol a gwledig. Yna gellid defnyddio hyn i gasglu tystiolaeth fanylach ynghylch sbwriel a helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.  

Yn olaf, rydyn ni'n parhau i rymuso ein cymunedau i gymryd camau uniongyrchol i atal a dileu gwastraff diangen. 

Rwy'n cael fy nharo'n barhaus gan y brwdfrydedd a'r ymroddiad wedi'u dangos gan y llu o wirfoddolwyr ledled Cymru sy'n ceisio amddiffyn a gwella ein tirweddau hardd. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, cofnododd Cadwch Gymru'n Daclus dros 2000 o ddigwyddiadau glanhau a bron i 9000 awr o amser gwirfoddolwyr gan eu Harwyr Sbwriel a grwpiau lleol a gefnogir.  Er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd, mae ein cyllid wedi helpu i sefydlu rhwydwaith o dros 200 o Hybiau Casglu Sbwriel, canolbwyntiau cymunedol sy'n rhoi cyfle i bawb gael mynediad hawdd at offer i'w ddefnyddio wrth gasglu sbwriel ledled Cymru. Drwy barhau i ariannu'r gweithgareddau hyn, rydyn ni'n parhau i helpu i ddod â phobl ynghyd ac atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng cymunedau a'u hamgylchedd lleol. 

Drwy ddarparu mannau gwyrdd a glas glanach, mwy hygyrch, byddwn ni'n annog rhagor o bobl i fwynhau a gwarchod harddwch naturiol Cymru. Rwyf am sicrhau bod ein gweithgareddau ar draws pob lefel o lywodraeth a busnes yn caniatáu i bobl fod yn gyfrifol i sicrhau ein bod yn dod yn wlad lanach, a gwlad sy'n arwain y ffordd.