Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais am ddogfennau swyddogol fel trwydded yrru, pasbort, ID pleidleisiwr a Thystysgrif Cydnabod Rhywedd a'u diweddaru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae gwella cydraddoldeb i bobl LHDTC+, yn enwedig pobl draws a phobl anneuaidd, yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Mae Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn rhoi'r hawl i unigolyn o'r naill rywedd neu'r llall sy'n 18 oed o leiaf wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd ar sail rhywedd bywyd y person ar y pryd.

Yn ôl y gyfraith, fel person trawsryweddol, gallwch ddiweddaru eich rhywedd a'ch teitl ar y rhan fwyaf o ddogfennau swyddogol heb Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.

Wrth wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ategol. Gall y dystiolaeth hon gynnwys eich trwydded yrru a'ch pasbort. Mae'n bosibl y byddwch am ddiweddaru'r dogfennau hyn cyn i chi gyflwyno eich cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.

Mae'r broses ar gyfer diweddaru trwydded yrru a phasbort i adlewyrchu rhywedd bywyd person trawsryweddol ar y pryd yn gymharol syml. 

Newid eich enw

Er mwyn newid eich enw yn swyddogol, bydd angen i chi gael gweithred newid enw. Bydd hyn yn eich galluogi i newid dogfennau swyddogol fel eich pasbort  neu'ch trwydded yrru. 

Newid eich enw drwy weithred newid enw ar GOV.UK.

Er mwyn cael gweithred newid enw ‘gofrestredig’, rhaid eich bod yn 18 oed a rhaid i chi wneud cais i'r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol.

Ystyr ‘cofrestru’ gweithred newid enw yw eich bod yn cofnodi eich enw newydd yn gyhoeddus. Mae'n bosibl y byddwch yn penderfynu peidio â ‘chofrestru’ eich gweithred newid enw os byddai'n well gennych beidio â rhannu eich enw newydd yn gyhoeddus.

Argymhellir y dylech argraffu a chadw sawl copi gwreiddiol o'r weithred newid enw. Gweler diweddaru cofnodion eraill.

Gwneud cais am neu adnewyddu trwydded yrru yn y DU

Gallwch wneud cais am eich trwydded yrru gyntaf, neu ddiweddaru neu adnewyddu trwydded sy'n bodoli eisoes, i adlewyrchu eich enw a'ch rhywedd.

Gallwch hefyd wneud cais drwy gasglu'r ffurflen gais o Swyddfa'r Post neu archebu ffurflen ar-lein.

Er nad yw'n ofyniad ffurfiol, argymhellir y dylech anfon llythyr esboniadol yn gwneud cais i ddiweddaru eich rhywedd a'ch enw. Argymhellir hefyd y dylech wneud hyn ar gyfer dogfennau eraill gorfodol.

Datganiad statudol

Mae datganiad statudol yn ddatganiad ffurfiol sy'n cadarnhau bod rhywbeth yn wir hyd eithaf gwybodaeth a chred y person sy'n gwneud y datganiad. Fel arfer, caiff ei ddefnyddio i fodloni gofyniad cyfreithiol neu reoliad lle nad oes tystiolaeth arall o'r fath ar gael.

Rhaid llofnodi datganiad statudol yng ngŵydd cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu notari'r cyhoedd. Bydd cyfreithiwr fel arfer yn codi tua £20 am wneud hynny.

Lawrlwytho ffurflen datganiad statudol am ddim o GOV.UK.

Gwneud cais am Basbort y DU

Gallwch wneud cais am eich Pasbort cyntaf yn y DU, neu ddiweddaru neu adnewyddu pasbort sy'n bodoli eisoes i adlewyrchu eich rhywedd ar wefan GOV.UK.

Er nad yw'n ofyniad ffurfiol, argymhellir y dylech anfon llythyr esboniadol yn gwneud cais i ddiweddaru eich rhywedd a'ch enw. Argymhellir hefyd y dylech wneud hyn ar gyfer dogfennau eraill gorfodol.

Bydd angen un o'r canlynol arnoch:

Neu, os oes gennych lythyr gan eich meddyg neu eich ymgynghorydd meddygol yn cadarnhau fod y rhywedd rydych yn byw ynddo yn debygol o fod yn barhaol, bydd angen i chi ddarparu'r ddau beth canlynol:

  • tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw (fel gweithred newid enw)
  • tystiolaeth eich bod yn defnyddio eich enw newydd (er enghraifft, slip cyflog neu lythyr gan eich cyngor lleol)

Dod o hyd i leoliad eich swyddfa basbort agosaf.

Pasbortau nad ydynt yn rhai Prydeinig

Os oes gennych basbort nad yw'n un Prydeinig a/neu gerdyn hunaniaeth genedlaethol, rhaid i chi hefyd ddarparu tystiolaeth eich bod wedi diwygio'r manylion yn y pasbort arall (pasbortau eraill) ac unrhyw gardiau hunaniaeth genedlaethol sydd gennych.

Mae yna amgylchiadau eithriadol, fel y rhai a nodir yn yr eithriadau i'r canllawiau. Rhoddir blaenoriaeth i'r enwau a ddefnyddir yn y dogfennau hyn yn hytrach nag enwau a ddefnyddir mewn dogfennau ategol eraill, fel tystysgrifau priodas a gweithredoedd newid enw.

Gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd

Mae Tystysgrif Cydnabod Rhywedd yn caniatáu i chi newid eich marciwr rhyw ar eich tystysgrif geni ac yn golygu y gellir cydnabod y rhywedd rydych yn byw ynddo (y cyfeirir ato weithiau fel ‘rhywedd a gaffaelwyd’) yn gyfreithiol yn y DU. 

Os bydd Tystysgrif Cydnabod Rhywedd gennych, gallwch wneud y canlynol:

  • diweddaru eich tystysgrif geni neu fabwysiadu, os cafodd ei chofrestru yn y DU
  • priodi neu lunio partneriaeth sifil yn eich rhywedd
  • diweddaru eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil, os cafodd ei chofrestru yn y DU
  • cydnabod eich rhywedd ar eich tystysgrif marwolaeth pan fyddwch yn marw

Ni fydd modd i chi ddiweddaru'r enw ar eich Tystysgrif Cydnabod Rhywedd ar ôl iddi gael ei chyhoeddi.  Os byddwch am roi enw newydd ar eich tystysgrif, bydd angen i chi newid eich enw cyn gwneud cais.

Nid oes angen Tystysgrif Cydnabod Rhywedd arnoch i wneud y canlynol: 

  • diweddaru eich trwydded yrru
  • diweddaru eich pasbort
  • diweddaru eich cofnodion meddygol, eich cofnodion cyflogaeth neu eich cyfrif banc

Gall gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd neu gael tystysgrif o'r fath effeithio ar sawl maes bywyd. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:

  • cael budd-daliadau'r wladwriaeth
  • credyd cynhwysol
  • pensiynau
  • cofnodion adnabod eraill
  • cofnodion priodas a phartneriaeth sifil

Dylech ystyried materion o'r fath cyn penderfynu a ddylech wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.

Os ydych yn unigolyn rhyngryw, neu os oes gennych amrywiad o ran nodweddion rhywiol, mae'n bosibl na fydd angen Tystysgrif Cydnabod Rhywedd arnoch i gywiro eich tystysgrif geni. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol: grocasework@gro.gov.uk.

Rhaid i unrhyw ddogfennau y byddwch yn eu cyflwyno wrth wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd fod yn llai na 10MB. Ond nodwch fod yn rhaid i chi anfon eich tystysgrif geni neu fabwysiadu wreiddiol neu ardystiedig drwy'r post ac na allwch ddarparu llungopi ohoni.

Gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd ar GOV.UK.

Fel arfer, bydd y panel yn ystyried eich cais o fewn 22 wythnos i'r dyddiad y byddwch yn cyflwyno'r cais.

Gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim (Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr)

Gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr er mwyn pleidleisio'n bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda yng Nghymru. Ni allwch ei defnyddio fel prawf adnabod am unrhyw reswm arall.

Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar GOV.UK.

Diweddaru'r gofrestr etholiadol

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio.

Cofrestru i bleidleisio, diweddaru eich manylion neu optio allan o'r gofrestr agored ar GOV.UK.

Gwiriadau gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Gall cyflogwyr ddefnyddio'r DBS wrth wneud penderfyniadau recriwtio.

Mae'r DBS yn cynnig gwasanaeth gwirio cyfrinachol yn unol â Deddf Cydnabod Rhywedd  2004. Cyfeirir ato fel y llwybr ceisiadau sensitif ac mae'r llwybr hwn ar gael ar gyfer pob lefel o wiriad gan y DBS; gwiriadau sylfaenol, gwiriadau safonol a gwiriadau manylach.

Mae'r llwybr ceisiadau sensitif yn rhoi'r dewis i chi beidio â datgelu unrhyw wybodaeth am rywedd nac enw ar eich tystysgrif DBS a allai ddatgelu eich hunaniaeth rhywedd flaenorol.

Dylech gysylltu â'r tîm ceisiadau sensitif cyn cwblhau a chyflwyno eich cais. Mae gan aelodau'r tîm brofiad o ddelio ag achosion sensitif a byddant yn sôn wrthych am y broses a'r hyn y mae angen i chi ei wneud.

Cysylltu â'r tîm ceisiadau sensitif ar GOV.UK.

Cadw eich sgôr credyd

Mae'n bwysig sicrhau y caiff eich cyfrifon ariannol a'ch adroddiadau credyd eu diweddaru ar ôl i chi drawsnewid.

Mae tair asiantaeth cyfeirio credyd yn y DU: Experian, Equifax a TransUnion. Mae gan bob asiantaeth adroddiad credyd penodol ar eich cyfer, ond, os byddwch yn cysylltu ag Experian, gall yr asiantaeth honno roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r ddwy asiantaeth sgoriau credyd arall, os rhowch gydsyniad iddi wneud hynny.

Er mwyn helpu i ddiogelu gwybodaeth am eich rhywedd blaenorol yn unol â'ch hawliau statudol, mae'r tair asiantaeth cyfeirio credyd wedi sefydlu gwasanaeth cyfrinachol arbennig i'ch helpu i ddiweddaru eich cofnodion credyd.

Lawrlwytho'r pecyn gwybodaeth gan Experian.

Diweddaru cofnodion eraill

Gallwch ddiweddaru rhai cofnodion penodol heb Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, gan gynnwys:

  • cyfrifon banc/cymdeithas adeiladu a chyfrifon cynilo 
  • cofnodion meddyg teulu ac ysbyty 
  • cyfrifon cyfleustodau (gan gynnwys nwy, trydan neu ddŵr) 
  • yswiriant car 
  • treth car 
  • dogfennau cofrestru cerbyd 
  • Treth Gyngor
  • pensiynau
  • polisïau yswiriant

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac mae'n bosibl y byddwch am newid eich enw ar ddogfennau eraill neu gyda gwasanaethau eraill.

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau a sefydliadau yn fodlon gwneud newidiadau ar ôl gweld gweithred newid enw ac weithiau eich tystysgrif geni wreiddiol. Cysylltwch â phob sefydliad yn uniongyrchol i gael gwybod beth yw ei ofynion penodol.