Sut i greu a chyflwyno dogfennau i PCAC yn y fformat cywir i leihau oedi.
Cynnwys
Sut i anfon dogfennau
Gallwch gyflwyno ffeiliau hyd at 30 MB trwy e-bost: PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru.
I gyflwyno ffeiliau mwy o faint (hyd at 50 MB), mae’n rhaid i chi ddefnyddio ein platfform rhannu ffeiliau (Objective Connect). Bydd angen i chi ddarparu’r cyfeiriad e-bost ar gyfer yr unigolyn a fydd yn lanlwytho’r ffeiliau. Byddwn yn anfon gwahoddiad ato i rannu ffeiliau.
Ni allwn dderbyn cyflwyniadau:
- trwy unrhyw blatfform rhannu ffeiliau arall, fel Dropbox neu WeTransfer
- ar ddisg neu gof bach
- sy’n fwy na 50MB
Fformatio
Dylai dogfennau wedi’u teipio ddefnyddio ffont sans serif fel Arial neu Verdana o faint ffont 11 neu fwy.
Dylai dogfennau llawysgrifen ddefnyddio priflythrennau ac inc du. Mae’n rhaid i bob dogfen, gan gynnwys delweddau, fod yn glir ac yn ddarllenadwy.
Defnyddiwch bapur o faint A4 neu A3, lle bynnag y bo’n bosibl.
Dylai cyflwyniadau gynnwys:
- rhestr dogfennau i esbonio ble y gallwn ddod o hyd i wybodaeth yn y cyflwyniad
- rhestr cynnwys ar gyfer dogfennau hir fel Datganiad Amgylcheddol
- yr holl ddogfennau ategol hanfodol ar gyfer y ffurflen gais neu apêl berthnasol
Mae’n rhaid i ddogfennau:
- beidio â bod wedi’u diogelu gan gyfrinair neu’n ddogfennau darllen yn unig
- bod ag argraffu a golygu wedi’u galluogi
Rydym yn derbyn y fformatau ffeiliau canlynol:
- PDF .pdf
- Microsoft Word .doc neu .docx
- TIF .tif neu .tiff
- JPEG .jpg neu .jpeg
- ZIP .zip
Mae’n rhaid i chi gael caniatâd y perchennog a thalu unrhyw ffi trwydded hawlfraint cyn cyflwyno dogfennau.
Rydym yn hyrwyddo ac yn annog defnyddio’r Gymraeg. Rydym yn croesawu cyfathrebu yn Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn Saesneg. Byddwn yn gohebu â chi yn yr iaith ddatganedig o’ch dewis.
Tystiolaeth fideo
Bydd PCAC yn derbyn tystiolaeth fideo neu sain dim ond:
- os yw’n cael ei chynnal ar wefan sydd ar gael i’r cyhoedd
- os wedi’i chynnwys yn y daflen cyflwyno tystiolaeth fideo neu sain (fe all y daflen hon fod ar ei phen ei hun neu fel atodiad i ddogfennau tystiolaeth eraill)
Y sawl sy’n cyflwyno’r dystiolaeth fideo neu sain sy’n gyfrifol am sicrhau:
- bod y dolenni a ddarperir yn gywir
- bod cyfeiriadau clir at wybodaeth sydd i’w hystyried gan yr Arolygydd
Ni fydd Arolygydd yn gweld darn o ffilm:
- os yw’n cynnwys data personol sensitif unigolyn byw
- os yw’n ddifrïol, yn hiliol neu’n graffig
- os yw’n enllibus o bosibl neu’n ymwneud â gweithgarwch troseddol
Trwy gyflwyno’r daflen tystiolaeth fideo neu sain, rydych yn cadarnhau:
- nad yw’ch tystiolaeth fideo yn cynnwys unrhyw gynnwys annerbyniol a ddisgrifir uchod
- bod unrhyw unigolyn y gellir ei adnabod o’ch tystiolaeth fideo wedi cydsynio i ymddangos
- eich bod wedi cael caniatâd y perchennog a thalu unrhyw ffi drwydded berthnasol ar gyfer yr holl gynnwys sy’n destun hawlfraint
Mapiau a chynlluniau
Mae’n rhaid i fapiau a chynlluniau:
- ddangos graddfa, gogwydd a maint y papur
- bod wedi’u hargraffu wrth raddfa
Gofynion enwi dogfennau
Cadwch enwau’n syml a pheidiwch â defnyddio jargon diangen, rhifau cyfeirnod na chomas.
Argymhellwn eich bod yn defnyddio’r fformat canlynol: [Dyddiad cyflwyno BBBB-MM-DD – Teitl y Ddogfen – Gwybodaeth arall]
Er enghraifft: 2024-02-13 – Ffigur 1 – Cynllun Lleoliad Safle
Dylech roi rhif ac enw i atodiadau a’u cyflwyno fel dogfennau ar wahân. Gwnewch yn siŵr fod y dudalen gyntaf yn cynnwys rhif yr atodiad. Dylai enwau ffeiliau ddangos pa apêl maen nhw’n berthnasol iddi a’u dilyniant.
Er enghraifft: 2024-01-01 – Datganiad apêl Atodiad 2 – Cyfrifiad traffig
Defnyddiwch ‘Rhan 1 o 3’, ac ati, yn enw’r ffeil os ydych wedi rhannu dogfen fawrPlease.
Copïau caled
Mae’n rhaid i chi gyflwyno copïau caled ar gyfer rhai mathau o achosion (er enghraifft, ceisiadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol).
Dylai’r rhain:
- gael eu rhwymo’n briodol
- cael eu hanfon at ein swyddfeydd trwy gludwr neu eu danfon trwy apwyntiad