Jack Sargeant AS Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Gweithredu'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
- Cyflog Byw
- Gwaith Teg
- Gweithio o bell
- Y Sector Creadigol, gan gynnwys Cymru Greadigol
- Diwylliant a’r celfyddydau
- Polisi darlledu a'r cyfryngau
- Noddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a'i gylch gwaith
- Amgylchedd hanesyddol Cymru
- Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
- Amgueddfeydd a chasgliadau lleol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Llyfrgelloedd cyhoeddus
- Gwasanaethau archifau lleol
- Datblygu Archif Genedlaethol Cymru
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Chwaraeon Elît
- Chwaraeon cymunedol, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru
- Polisi Gyrfaoedd a noddi Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG)
- Polisi prentisiaethau, a chyflawni hynny
- Polisi cyflogadwyedd a sgiliau Ieuenctid ac Oedolion, a chyflawni hynny
- Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
- Datblygu sgiliau'r gweithlu
- Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
Bywgraffiad
Yn 2018, yn 23 oed, Jack Sargeant oedd yr Aelod o'r Senedd ieuengaf erioed i gynrychioli'r etholaeth, Alun a Glannau Dyfrdwy.
Wedi'i eni a'i fagu yng Nghei Connah, mae gwleidyddiaeth Jack wedi cael ei dylanwadu gan ei gymuned a'i brofiad o wneud prentisiaeth mewn gweithgynhyrchu, cyn cwblhau gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a gweithio fel peiriannydd datblygu yng Nglannau Dyfrdwy yn arbenigo mewn datrys problemau mewn prosesau gweithgynhyrchu.
Mae Jack yn eiriolwr angerddol dros iechyd meddwl ac yn hyrwyddwr ar gyfer gweithgynhyrchu a pheirianneg yng Nghymru, yn ogystal â chwaraeon a thai cymdeithasol.
Ail-etholwyd Jack i'r Chweched Senedd ym mis Mai 2021, a hyd at ei benodiad i'r Cabinet, fe wasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a bu'n eistedd hefyd ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Penodwyd Jack yn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ym mis Gorffennaf 2024 gan y Prif Weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, yn dilyn ad-drefnu'r Cabinet.
Penodwyd Jack yn Weinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar 11 Medi 2024 gan y Prif Weinidog presennol, Eluned Morgan.