Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Bil i ddiwygio'r system trethi lleol yng Nghymru, gan gynnwys ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, wedi'i basio gan y Senedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn sefydlu cyfres o newidiadau i wella'r systemau trethi. Bydd yn eu gwneud yn decach ac yn sicrhau eu bod yn gweithio'n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd.

Ar gyfer ardrethi annomestig (a elwir hefyd yn ardrethi busnes), bydd y Bil yn gwneud y canlynol:

  • cynyddu pa mor aml y caiff gwerthoedd pob eiddo annomestig yng Nghymru eu diweddaru i unwaith bob tair blynedd
  • darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid rhyddhadau ac esemptiadau
  • galluogi newidiadau wrth gyfrifo taliadau ar gyfer gwahanol gategorïau o dalwyr ardrethi
  • dod â threfniadau osgoi treth hysbys i ben a chynyddu'r gallu i fynd i'r afael ag achosion o'r fath mewn ffordd fwy ymatebol yn y dyfodol
  • galluogi gwelliannau i'r wybodaeth a ddarperir gan dalwyr ardrethi.

Mewn perthynas â'r dreth gyngor, bydd y Bil yn gwneud y canlynol:

  • sefydlu cylch pum mlynedd o ailbrisio eiddo o fis Ebrill 2028 ymlaen, a chaniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio blynyddoedd ailbrisio yn y dyfodol pe bai amgylchiadau'n gwneud hynny'n ofynnol
  • darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer trefnu a labelu bandiau treth pan fo angen, i gyd-fynd ag ailgynllunio'r system yn y dyfodol
  • sicrhau parhad ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cenedlaethol, gan ddarparu cymorth ariannol hanfodol i aelwydydd incwm isel
  • darparu mwy o hyblygrwydd i wneud newidiadau i ostyngiadau a phobl a ddiystyrir rhag talu'r dreth gyngor.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, Rebecca Evans:

Dyma'r Bil cyllid llywodraeth leol Cymreig cyntaf ers datganoli. Mae'n cyflwyno newidiadau pwysig i'r system trethi lleol yng Nghymru, gan ddiwygio'r system i'w gwneud yn fwy cyson, yn fwy effeithiol ac i roi hyblygrwydd inni yn y dyfodol. Mae ymchwil a phrofiad eang o weithredu'r systemau presennol ers ugain mlynedd a mwy wedi dangos nifer o gyfyngiadau ac roedd yr achos dros newid felly yn glir.

Gyda'r Bil bellach wedi'i gymeradwyo gan y Senedd, bydd gennym fframwaith wedi'i gynllunio ar gyfer y Gymru fodern, a'r dulliau angenrheidiol i addasu trethi lleol yn y dyfodol wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid.